Rydym am weithio gyda’n partneriaid allweddol i ddatblygu cynlluniau gweithredu gyda llwybrau manwl sy’n arwain at lwyddiant y genhadaeth.

Wrth greu’r cynlluniau hyn ar y cyd, gall pob sefydliad neu gorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb i’r Parc berchen a chytuno ar gamau i gyflawni’r genhadaeth a gynigir ganddynt.

Er mwyn amlygu’r math o weithredu y tybiwn a fydd o gymorth i gyflawni cenhadaeth, rydym wedi nodi prosiectau sy’n bodoli eisoes yn y gobaith y byddant yn ysgogi syniadau yn y rhai sy’n cynllunio’r camau gweithredu, ac yn egluro’r math o bethau sy’n rhan o’r blociau adeiladu.

Mae’r astudiaethau achos hyn wedi’u hysgrifennu gan arweinwyr y prosiect a’u henwi yn “Sêr y Bannau”. Mae rhai o’r enghreifftiau hyn yn amlygu gwaith cyfredol y sefydliad; mae eraill yn gwbl annibynnol ac yn dangos potensial y gweithredoedd ysbrydoledig a gyflawnwyd gan eraill.