Monitro a chofnodi’r camau a weithredir gan yr holl bartneriaid

Nod Bannau’r Dyfodol yw ysgogi gweithredu ar draws y Parc Cenedlaethol a thu hwnt. Bydd y monitro a’r cofnodi yn cynnwys yr holl bartneriaid yn gweithredu gyda’i gilydd. 

Monitro a chofnodi’r pum cenhadaeth, a Dangosyddion y Doesen

Mae’r pum cenhadaeth a fabwysiadwyd ym Mannau’r Dyfodol wedi’u dewis oherwydd dyma’r newidiadau mwyaf sydd eu hangen ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol. Mae’n bwysig felly mesur a chofnodi’r cynnydd tuag at gyflawni’r cenadaethau a’r dangosyddion ehangach o gynaliadwyedd y Parc Cenedlaethol – y graddau y mae’r nenfwd ecolegol (Terfynau Planedol) a’r sylfaen gymdeithasol (Nodau Datblygu Cynaliadwy) yn cael eu torri.

Mae cyfres o ddangosyddion wedi’u dewis fel y metrigau gorau ar gyfer deall ac olrhain newid yn y Parc Cenedlaethol mewn perthynas ag Economeg Toesen:

 

Mae’r dangosyddion wedi’u dewis oherwydd eu bod yn cynrychioli’r metrig neu’r procsi uniongyrchol gorau, ac oherwydd y rhagwelir y bydd data ar gael i olrhain newid dros gyfnod hir. Nodwyd dangosyddion trwy sesiynau gweithdy manwl gyda chyfraniadau arbenigol gan swyddogion APCBB a Phanel Cyfeirio Rhanddeiliaid y Parc Cenedlaethol.

Amserlenni

Mae sawl amserlen wahanol yn bwysig wrth ystyried dyfodol cynaliadwy’r Parc Cenedlaethol.

Parhaus:

Diweddariadau ar wefan APCBB a llwyfannau eraill, a llwyfannau partneriaid, rhannu gwybodaeth am gamau gweithredu a deilliannau, dathlu llwyddiannau, ac amlygu cyfleoedd a heriau.

1 flwyddyn:

asesiad blynyddol gan Economeg Toesen o’r Parc Cenedlaethol (“yr archwiliad iechyd”), ac asesiad blynyddol o gynnydd o ran cyflawni’r cenadaethau.

4 blynedd:

Adroddiad Cyflwr y Parc 2027 – mae Adroddiad Cyflwr y Parc yn synthesis pwysig o’r holl ddata sy’n cael ei gasglu mewn perthynas â’r doesen. Mae’n foment bwysig i fyfyrio ar y materion allweddol sy’n wynebu’r Parc er mwyn llywio’r adolygiad o gynllun Y Bannau.

5 mlynedd:

Hyd cynllun rheoli Bannau’r Dyfodol. Fe’i defnyddir i ganolbwyntio ar weithio tuag at wireddu’r cenadaethau yn y tymor agos.

2030 a 2035:

Yr amserlenni ar gyfer cyflawni’r cenadaethau natur a dŵr a’r genhadaeth hinsawdd, yn y drefn honno.

25 years:
The medium-term vision for the National Park.
 

50 years:
Long-term change horizon. Used to track long-term sustainability as indicated by Doughnut Economics metrics.