Mae’r nenfwd ecolegol yn dangos y cydrannau allweddol sy’n ffurfio elfennau amgylcheddol ein pwrpas cyntaf.

Ar gyfer pob elfen, rydym wedi diffinio lle mae ffin y cynaliadwyedd amgylcheddol yn syrthio. Dangosir y rhain fel “nodau” ar y diagram gyferbyn.

Rydym hefyd wedi canfod dangosyddion allweddol sy’n rhoi ciplun inni o ble rydym ni ac wedi’u gosod yn y blychau coch yn erbyn ein nodau.

Yna, byddwn yn defnyddio’r dangosyddion hyn i frasamcanu pa mor bell yr ydym o gyrraedd y nodau dan sylw – dyma’r lletemau coch

0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42 43 44 45 46 47 48 49 50
%
Wyth rhestr goch rhywogaethau adar wedi gostwng fwy na 50% ym Mannau Brycheiniog rhwng 1995 a 2018
0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42 43 44 45 46 47 48 49 50 51 52 53 54 55 56
%
o ACA mewn cyflwr anffafriol
0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
%
Mae ardaloedd y parc sydd dan orchudd coed wedi gostwng ychydig o 17% ers 2015

Yn 2020, cyhoeddwyd Adroddiad diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru ar Gyflwr Adnoddau Naturiol. (SoNaRr). Canfu hwn nad oedd gan unrhyw un o’r ecosystemau yng Nghymru’r holl briodoleddau gwytnwch angenrheidiol.

Roedd hyn yn adleisio canfyddiadau blaenorol gan asesiadau tebyg, megis Living Planet Report gan y Gronfa Fyd-eang ar gyfer Nature (WWF) a ganfu bod poblogaethau bywyd gwyllt wedi gostwng  60% yn fyd-eang oddi ar 1970, neu’r Adroddiad Cyflwr Natur 2019 a amlygodd y ffaith fod 73 o rywogaethau Cymru gyda 666 o rai eraill mewn perygl o ddiflannu. Mae’n amlwg o’r ciplun uchod fod byd natur mewn argyfwng a, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dysgu mwy am helaethder y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n cael eu colli ar raddfa fyd-eang a chenedlaethol. Yn 2020, gyda chyhoeddi’r Adroddiad ar Gyflwr y Parc, fe wnaethom ddangos y modd yr oedd yr argyfwng hwn yn datblygu yn y Parc Cenedlaethol ei hun.

Cymerwch er enghraifft ein data ar adar bridio a nythu. Mae adar yn ddangosyddion pwerus o iechyd amgylcheddol da ac yn brocsïaid ar ei gyfer. Mae llawer o adar yn eistedd ar frig cadwyni bwyd daearol a morol, neu’n agos atynt, ac mae deall y sbardunau a’r effeithiau ar eu poblogaethau yn rhoi cipolwg i ni ar statws bywyd gwyllt arall. Dangoswyd bod cyfanswm o wyth rhywogaeth ar y “rhestr goch” yn prinhau o fwy na 50% yn ardal y Parc, gan gynnwys gwenoliaid duon, llinos werdd, siglen lwyd, melyn yr eithin, y gylfinir, tinwen y garn, a’r ydfran. Dangoswyd bod rhai o’n hadar mwyaf cyfarwydd fel y ji-binc a’r titw tomos las yn prinhau rhwng 25 – 50%. Gwelwyd y gostyngiadau hyn ar draws rhywogaethau a chynefinoedd lluosog, sy’n dangos bod problemau eang yn bodoli o fewn yr ecosystemau. Gallai hyn gael canlyniadau dinistriol ar ddynoliaeth

Nid yw’r stori hon yn unigryw i dirweddau a chynefinoedd y Parc Cenedlaethol ond mae’n ffaith anghyfforddus wrth inni ystyried mai pwrpas cyntaf y sefydliad yw gwarchod a gwella bywyd gwyllt yn ein holl weithgareddau.

Tynnodd Adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) sef, A Lost Decade for Nature (2020), sylw at y ffaith bod y DU wedi methu cyrraedd unrhyw un o dargedau Aichi a osodwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2010 i atal y golled ddinistriol o fioamrywiaeth. Ond yn bwysicach fyth, roedd yn ymddangos bod Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn llai abl nag ardaloedd eraill i warchod y cynefinoedd mwyaf arwyddocaol yn eu gofal (t.4). Canfu astudiaeth yn Lloegr fod cyflwr y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn waeth y tu mewn i Barciau Cenedlaethol na’r tu allan iddynt1.

Er nad yw’r asesiad ar gyflwr cymharol y tu mewn a’r tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol wedi’i gwblhau, rydym yn cydnabod bod cyflwr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (56% mewn cyflwr anffafriol) a SoDdGA (34% o nodweddion SoDdGA mewn cyflwr anffafriol) o fewn y Parc Cenedlaethol yn is na’r hyn yr hoffem iddo fod o ran ecosystemau iach, ac yn sicr maent yn bell iawn o gael eu gwella.

Mae’r darlun hwn yn ganlyniad i nifer o ffactorau ond mae SoNaRR (2020) ac Argyfwng Natur Cymru WWF (2020) yn amlygu’r canlynol fel ffactorau sy’n sbarduno colled ym mioamrywiaeth y DU:-

  • Rheoli Amaethyddol
  • Newid Hinsawdd
1 Cox, K. et al (2018), National Parks or Natural Parks: how can we have both? British Wildlife 30:2, Rhagfyr 2018.