Y Bannau: Y Dyfodol

Y Bannau yw Cynllun Rheoli statudol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer y cyfnod 2023 i 2028 ond mae ei weledigaeth yn rhychwantu’r 25 mlynedd i 2048.

Mae’n pennu pum cenhadaeth feiddgar i lunio dyfodol y Parc Cenedlaethol ac mae’n wahoddiad i sefydliadau ac unigolion eraill gydweithio i wireddu’r dyfodol hwnnw.

Cynllun Rheoli Ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Mae’r cynllun hwn ar gyfer ardal ddaearyddol y Parc Cenedlaethol ac mae’n hollbwysig ein bod yn symbylu’r camau gweithredu sydd eu hangen wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd, natur a llesiant, ac wrth gynnal a chadw nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol ar gyfer y genhedlaeth hon a’r cenedlaethau i ddyfod

 

Rôl Y Cynllun Rheoli

Mae adran 66(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol baratoi ac adolygu Cynllun Rheoli ar gyfer ei ardal.

Dylai’r Cynllun Rheoli nodi’r modd y bydd pwrpasau a dyletswydd y Parc Cenedlaethol (ein hamcanion statudol) yn cael eu cyflawni o fewn ardal ddaearyddol y Cynllun. Cynhyrchir y Cynllun gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol; fodd bynnag, caiff ei ddatblygu mewn ymgynghoriad ag ystod o randdeiliaid gyda’r nod o ddiffinio cyd-weledigaeth ar gyfer yr ardal.

Cynlluniau Rheoli Blaenorol

Cyhoeddwyd y Cynllun Rheoli Newid Gyda’n Gilydd ddiwethaf yn 2010, a chafodd yr adolygiad cyntaf ei gwblhau a’i gyhoeddi yn 2015 gan roi llesiant wrth galon y Parc Cenedlaethol.

Ers hynny, bu newidiadau sylweddol iawn yn y cyd-destun y mae’r Cynllun yn gweithredu ynddo, yn fwyaf nodedig y gydnabyddiaeth gan arweinwyr y byd ein bod yn wynebu argyfwng o ran hinsawdd a bioamrywiaeth. At hynny, mae’r byd wedi cael profiad o bandemig y coronafeirws ac mae’r DU yn wynebu argyfwng costau byw.

Cynllun Ar Gyfer Bannau Brycheiniog

Nid Cynllun ar gyfer Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i staff yn unig yw’r Cynllun Rheoli, ac nid tasg i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn unig yw rheoli’r Bannau. Mae’n dasg i’w rhannu a’i chyflawni gan bawb sy’n byw/gweithio yn yr ardal a/neu sydd â rhywfaint o rwymedigaeth statudol i’r ardal. I rai, mae hyn yn ymrwymiad cyfreithiol yn unol ag a62(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995; i eraill, mae’n drefniant gwirfoddol a ymgymerir i gydnabod gwerth yr ardal i natur a phobl. Y Cynllun Rheoli yw’r ddogfen allweddol sy’n cydlynu’r dasg gydweithredol hon, er mwyn sicrhau y gallwn ni weithredu ar y cyd i gyflawni ein pwrpasau a’n dyletswyddau, ac i warchod yr ardal hon er budd cenedlaethau’r dyfodol.

I’r perwyl hwn, mae Y Bannau, sef Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn gynllun o arwyddocâd cenedlaethol a rhaid ei gymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu dogfennau statudol eraill, megis Cynlluniau Datblygu Lleol, Cynlluniau Datblygu Strategol a chynlluniau, rhaglenni a pholisïau eraill a allai gael effaith ar y Parc Cenedlaethol a’i nodweddion arbennig.

Cynllun a Luniwyd gan Bolisi Cenedlaethol
Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol wedi’i lunio gan amrywiaeth o ddeddfwriaethau, polisïau a chanllawiau cenedlaethol sy’n helpu ni i gysoni dyfodol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog â dyfodol Cymru, tra ein bod yn cadw’r nodweddion arbennig sy’n unigryw i’r ardal leol

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru Ar Gyfer Paciau Cenedlaethol Yng Nghymru

Ym mis Mai 2022, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn nodi’r ffordd y mae’n gweld yr Awdurdodau yn gweithio tuag at gyflawni eu Pwrpasau a’u Dyletswyddau

Mae’r Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth hon ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn cynnwys ystod o fesurau ac yn benodol mae’n gofyn i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru alinio eu gwaith ag Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru. Dywed y Gweinidog:

Yn arbennig, rwyf am weld y Parciau Cenedlaethol yn dod yn esiamplau i eraill o ran eu hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydych mewn sefyllfa unigryw i drafod â’r cymunedau o fewn eich ffiniau i ddatblygu atebion ddaw â budd i bobl a’r amgylchedd.

Deddf Llasiant Cendelaethau’r Dyfodol (2015)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth Gymreig sy’n torri tir newydd ac yn diffinio cyfres o nodau llesiant ar gyfer y genedl ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgorffori’r nodau hyn yn eu gwaith o osod amcanion a llunio’u polisïau eu hunain.

Mae’r Ddeddf hefyd yn sicrhau bod dogfennau polisi fel yr un hon yn cael eu cynhyrchu ar y cyd a’u hintegreiddio ar draws yr ystod o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Cynllun Rheoli yn ffurfio’r Cynllun Llesiant statudol ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys y nod i ddod “yn gyfrifol ar lefel fyd-eang” i greu “cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.”

Ein hamcan wrth weithredu pwrpasau a dyletswyddau statudol y Parc Cenedlaethol yw cyfrannu’n gadarnhaol at y nod llesiant hwn sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gan osgoi’r camau gweithredu a allai fod ar draul cymdeithas, yr economi ac amgylchedd y byd.

Datganiadau Ardal

Mae Datganiadau Ardal a luniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn unol â’u dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn nodi strategaeth ar gyfer rheoli Cyfoeth Naturiol yn well er budd cenedlaethau’r dyfodol. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r datganiadau’n seiliedig ar ardaloedd gofodol. Mae saith ardal yn cwmpasu Cymru gyda phedwar ohonynt yn cwmpasu ardal y Parc Cenedlaethol.

  • Canolbarth Cymru
  • De-ddwyrain Cymru
  • De Canolbarth Cymru
  • De-orllewin Cymru

Deddf Yr Amglychedd (Cymru) Act 2016

Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod dyletswydd ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel corff cyhoeddus i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag ardal y Parc Cenedlaethol, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd yr ecosystemau.

Adroddiad Ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol  (2020) (SoNaRr)

Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys asesiad o gyflwr Cyfoeth Naturiol yng Nghymru (SoNaRR). Mae SoNaRR yn ddogfen allweddol wrth baratoi Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol. Mae’r SoNaRR diweddaraf yn amlygu’r angen i gyrff yn y sector cyhoeddus gyflwyno newidiadau er mwyn mynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd, trwy drawsffurfio’r systemau sy’n ymwneud â’r ecosystem, yr economi a chymdeithas

Darllenwch yr Adroddiad

 

Cynllun sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Lless
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys y nod i ddod “yn gyfrifol ar lefel fyd-eang” i greu “cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.”
Amcanion
Ein hamcan wrth weithredu pwrpasau a dyletswyddau statudol y Parc Cenedlaethol yw cyfrannu’n gadarnhaol at y nod llesiant hwn sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac osgoi camau gweithredu a allai fod ar draul cymdeithas, yr economi ac amgylchedd y byd.
Gyfrifoldebau Byd-eang
Wrth siarad am gyfrifoldebau byd-eang y Parc Cenedlaethol, mae’n bosibl y bydd rhai o’r farn ein bod yn gweithredu y tu hwnt i’n cylch gorchwyl ac y dylwn, yn anad dim, flaenoriaethu’r dasg o ganolbwyntio ar gyfrifoldebau lleol. Ac er ein bod yn cyflawni ein dyletswydd i weithredu ar lefel leol, pwysleisiwn fod y Parc Cenedlaethol yn bodoli o fewn cyd-destun lle mae systemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol dan straen aruthrol. Mae ein camau gweithredu ar lefel leol yn effeithio ar y systemau hynny - yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Does wiw inni feddwl am berthnasedd ein pwrpasau a’n dyletswyddau yma yn y Parc Cenedlaethol os yw ein heconomi ymwelwyr, er enghraifft, yn cymryd cyfran annheg o garbon byd-eang, yn cyfrannu at newid hinsawdd, ac yn chwyddo’r farchnad dai y tu hwnt i gyrraedd y rhai ar gyflogau lleol, gan achosi allfudo a phwysau ar wasanaethau yn yr ardaloedd ymylol hynny sydd eisoes yn ddifreintiedig.
Gweithredu Lleol
Mae gweithredu lleol yn cael effaith ar raddfa fyd-eang sydd, yn ei dro, yn arwain at weithredu lleol