Deall Llwyddiant

Mae Bannau’r Dyfodol yn nodi’r modd y dylid cyflawni pwrpasau a dyletswyddau’r Parc Cenedlaethol trwy weithio ar y cyd â’r holl bartneriaid. I’n helpu i ddeall cymhlethdod y nod hwn, rydym yn defnyddio fersiwn a addaswyd o fodel “Toesen” Kate Raworth sy’n ymwneud â ffiniau cymdeithasol ac ecolegol.

Rydym yn defnyddio’r model hwn oherwydd ei fod yn helpu i ragweld byd lle gall pobl a’r blaned ffynnu mewn ffordd gytbwys, yn union fel y mae Bannau’r Dyfodol yn rhagweld amgylchedd a phobl y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu tirwedd ar gyfer llesiant cenedlaethol.

Rydym wedi cymhwyso’r model at bwrpasau a dyletswyddau statudol Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r pwrpas statudol cyntaf yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd. Mae’r ail bwrpas yn ymwneud â chysylltu pobl â’r amgylcheddau naturiol a diwylliannol er eu mwynhad a’u llesiant. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd ddyletswydd statudol i gefnogi cymunedau fel eu bod yn ffynnu o fewn y Parc Cenedlaethol. Rhaid inni gydbwyso gofynion cystadleuol y ddau bwrpas gan alluogi pobl i fwynhau ecosystemau ffyniannus heb effaith negyddol.

Mae’r Doesen yn cymryd ei henw o’i siâp ac mae’n cynnwys dwy gylch consentrig.

Y cylch allanol yw’r nenfwd ecolegol. Mae hyn yn ymwneud â phwrpas cyntaf y Parc Cenedlaethol a’n huchelgais i adfer cynaliadwyedd amgylcheddol y Parc Cenedlaethol.

Mae’r cylch mewnol yn sylfaen gymdeithasol. Mae hyn yn ymwneud â dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Parc Cenedlaethol a’n huchelgais i sicrhau nad oes unrhyw un sy’n byw yn y Parc Cenedlaethol yn cael ei adael heb hanfodion bywyd.

. Rhwng y ddwy ffin hyn, mae gofod ar ffurf toesen sy’n ddiogel o ran ei ecoleg ac yn gymdeithasol gyfiawn. Mae’n fan diogel lle gall gweithgareddau ein hail bwrpas ffynnu, sef pobl yn mwynhau’r Parc Cenedlaethol er dibenion hamdden.

Yn y modd hwn, mae Toesen y Parc Cenedlaethol yn fframwaith ar gyfer deall gweithrediad llwyddiannus ein pwrpasau a’n dyletswyddau statudol. Mae hefyd yn fodd i ddangos bod yn rhaid i unrhyw weithgaredd a wnawn tuag at ein hail bwrpas ddigwydd o fewn ffiniau cymdeithasol ac ecolegol, heb achosi niwed i’r naill na’r llall.

Deall yr her

Mae Toesen y Parc Cenedlaethol yn ein helpu i ddeall y berthynas gymhleth rhwng pobl a’r blaned a’r ffordd y mae llesiant dynol yn dibynnu ar yr amgylchedd ac ar gymdeithas yn gweithio mewn cytgord.

Mae’r ddelwedd yn mynegi cyflwr presennol y Parc Cenedlaethol mewn perthynas â llesiant dynol a’r amgylchedd. Mae pob dimensiwn yn cael ei fesur yn erbyn o leiaf un dangosydd allweddol ac mae’r lletemau coch yn dangos maint y diffyg neu’r gorwariant yng ngweithrediad delfrydol ein pwrpasau a’n dyletswyddau. I rai sectorau fel newid hinsawdd, a thai – mae’r newid sydd ei angen i fynd yn ôl i’r Doesen yn enfawr. Nod Bannau’r Dyfodol yw dileu’r coch i gyd o ddiagram y Doesen, ac mae’r Cenadaethau yn ymateb i’r “gorsaethu” mwyaf. Wrth i ni weithredu Bannau’r Dyfodol, bydd y model Toesen yn ein helpu ni i ddeall effaith y Cynllun yn y byd go iawn.

Deall y Broses

Cydweithredu
Cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r sefydliad) a allai helpu’r corff i gyflawni’i amcanion llesiant.
Integreduddio
Ystyried y ffordd y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
Cynnwys
Mae’n bwysig cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu
Hirdymor
Mae’n bwysig cydbwyso anghenion byrdymor gyda’r angen i ddiogelu’r anghenion hirdymor
Atal
Gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni’u hamcanion