Atodiad

  1. Atodiad Un – Cyd-Destun Y Polisi A’r Ddeddfwriaeth
    Download PDF
  2. Atodiad Dau – Y Diffiniad O Harddwch Naturiol
    Download PDF
  3. Atodiad Tri – Y Gydberthynas Rhwng Y Bannau A’r Saith Nod Llesiant A’r
    Pum Ffordd O Weithio Yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
    Download PDF
  4. Atodiad Pedwar – Cydberthnas Rhwng Cenhadaeth A’i Hamcanion
    Download PDF
Term Diffiniad

Bioamrywiaeth

Yr amrywioldeb ymhlith organebau byw o bob ffynhonnell gan gynnwys ecosystemau daearol, morol a dyfrol eraill. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fewn a rhwng rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau.

Ôl troed carbon

Mae hyn yn mesur cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan berson, sefydliad, digwyddiad neu gynnyrch.

Atafaelu carbon

(hefyd, storio a dal) (hefyd, atafaelu carbon, storio carbon, dal carbon) Sylweddau sy’n cynnwys carbon, yn enwedig carbon deuocsid, ac sy’n cael eu hamsugno i gronfa storio (e.e. coed, priddoedd) gan leihau carbon deuocsid yn yr atmosffer.

Economi gylchol

Mae economi gylchol yn ddewis amgen i’r economi gwneud-defnyddio-taflu llinol lle’r ydyn ni’n cadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, gan dynnu’r gwerth mwyaf bosibl ohonynt wrth eu defnyddio, ac adennill ac adfywio nwyddau a deunyddiau ar ddiwedd eu hoes o wasanaeth.

Newid hinsawdd

Newid yng nghyflwr yr hinsawdd y gellir ei adnabod gan newidiadau yng nghymedr a/neu amrywioldeb ei briodweddau, ac sy’n parhau am gyfnod estynedig, fel arfer degawdau neu fwy.

Cyflwr (rhywogaeth neu gynefin)

Y gallu i ddarparu gwasanaethau mewn perthynas â’u potensial. Fel arfer, disgrifir hyn mewn perthynas â chyflwr dymunol (da neu ffafriol) ac fe’i diffinnir yn nhermau maint, dosbarthiad, strwythur, swyddogaeth a chyfansoddiad rhywogaethau ar gyfer cynefinoedd, maint a strwythur y boblogaeth, ac ansawdd cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau.

Cysylltedd

Y graddau y mae’r dirwedd yn hwyluso neu’n rhwystro symudiadau ymhlith gwahanol adnoddau.

Economeg Toesen

Fframwaith gweledol ar gyfer datblygiad cynaliadwy – wedi’i siapio fel toesen – sy’n cyfuno cysyniadau am derfynau planedol â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r enw’n deillio o siâp y diagram, h.y. disg gyda thwll yn y canol. Mae twll canol y model yn darlunio cyfran y bobl sydd â diffyg mynediad at hanfodion bywyd (gofal iechyd, addysg, cyfiawnder ac yn y blaen) tra bod y gramen yn cynrychioli’r nenfydau ecolegol (terfynau planedol) y mae bywyd yn dibynnu arnynt ac na ddylid mynd y tu hwnt iddynt. Datblygwyd y diagram gan Kate Raworth.

Ôl troed ecolegol

Yr hyn sy’n dangos cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Mae’n cynrychioli’r arwynebedd tir sydd ei angen i ddarparu deunyddiau crai, ynni a bwyd, yn ogystal ag amsugno’r llygredd a’r gwastraff a grëir, a chaiff ei fesur mewn hectarau global.

Ecosystem

Cymunedau o anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill sy’n rhyngweithio â’u hamgylchedd anfyw (corfforol a chemegol).

Gwasanaethau ecosystem

Fel arfer, fe’i defnyddir i gategoreiddio’r buddion y mae pobl yn eu cael o ecosystemau. Y pedwar categori yw: gwasanaethau darparu, e.e. bwyd a dŵr; gwasanaethau rheoleiddio, e.e. rheoli llifogydd a chlefydau; gwasanaethau diwylliannol, e.e. ysbrydol ac adloniadol; a gwasanaethau ategol, e.e. ffurfiant pridd a chylchrediad maetholion.

Nwyon tŷ gwydr

Grŵp o nwyon sy’n cyfrannu naill ai’n uniongyrchol at newid hinsawdd (gan gynnwys cynhesu byd- eang) oherwydd eu heffaith gadarnhaol ar y newid yn y cydbwysedd ymbelydrol, neu’n anuniongyrchol wrth iddynt gynyddu crynodiadau osôn troposfferig gan gynyddu newid yn y cydbwysedd ymbelydrol (cynhesu’r atmosffer).

Dŵr daear

Yr holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r ddaear neu’r isbridd. Mae’n darparu llif sylfaenol i ffynhonnau, afonydd a gwlyptiroedd ac yn cyfrannu at gyflenwadau dŵr yfed.

Cynefin

Gofodau/ardaloedd ecolegol neu amgylcheddol y mae organeb benodol neu gymuned ecolegol yn byw ynddynt. Fe’u nodweddir yn bennaf gan eu priodweddau ffisegol (e.e. pridd, hinsawdd, ansawdd dŵr ac ati) ac yn ail, gan y rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw yno. Gweler hefyd “Cynefin eang”

Rhywogaethau estron ymledol

Planhigion, anifeiliaid, ffyngau a micro-organebau y mae eu cyflwyniad a/neu ymlediad y tu allan i’w cwmpas naturiol yn y gorffennol neu’r presennol yn peri risg i fioamrywiaeth neu’n arwain at ganlyniadau negyddol eraill nas rhagwelwyd.

Cenhadaeth

Nod mawr a gynlluniwyd i osod cyfeiriad strategol, ac i ysbrydoli a symbylu gweithrediad.

Adnoddau naturiol

Cydrannau byw ac anfyw’r ecosystemau.

Sero net

Torri allyriadau nwyon tŷ gwydr fel eu bod mor agos at sero â phosibl, gydag unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu hail-amsugno o’r atmosffer, gan brosesau naturiol.

Natur bositif

Atal a gwrthdroi’r dirywiad presennol mewn bioamrywiaeth fel bod rhywogaethau ac ecosystemau yn dechrau adfer.

Terfynau planedol

Set o naw proses sy’n rheoleiddio sefydlogrwydd a gwytnwch y Ddaear fel y gall dynolryw barhau i ddatblygu a ffynnu arni am genedlaethau i ddod. Mae croesi’r terfynau hyn yn cynyddu’r risg o greu newidiadau amgylcheddol sydyn neu ddi-droi’n-ôl ar raddfa fawr. Fe’i dyfeisiwyd yn 2009 gan gyn- gyfarwyddwr Canolfan Gwytnwch Stockholm, Johan Rockström, gyda 28 o wyddonwyr eraill o fri rhyngwladol.

Safleoedd gwarchodedig (neu ardaloedd gwarchodedig)

Ardaloedd sydd wedi’u dynodi o dan ddeddfwriaeth yr UE a/neu’r DU ar gyfer nodweddion biolegol neu ddaearegol penodol.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Grŵp (bwrdd) a sefydlwyd ym mhob ardal awdurdod lleol fel y’i diffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae’r byrddau’n cynnwys yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol, awdurdod tân ac achub Cymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, CNC).

Rheoliad(au) (mewn ystyr gyfreithiol, nid yr un peth â rheoleiddio prosesau a gwasanaethau)

Mae "rheoliad" yn weithred ddeddfwriaethol gyfrwymol. Rhaid iddo gael ei gymhwyso yn ei gyfanrwydd ledled Cymru, y DU neu’r UE (yn dibynnu ar y raddfa y mae’r rheoliad yn berthnasol iddi).

Gwytnwch (ecosystemau)

Gallu ecosystemau i ddelio ag aflonyddwch, naill ai drwy eu gwrthsefyll, eu goresgyn, neu addasu iddynt, wrth gynnal eu gallu i ddarparu gwasanaethau a buddion yn awr ac yn y dyfodol.

Risgiau

Y tebygolrwydd o ganlyniad (negyddol fel arfer) i’r amgylchedd, neu effaith bosibl pwysau ar yr amgylchedd.

Cynefinoedd lled-naturiol

Cynefinoedd lle mae’r llystyfiant yn cynnwys tacsonau planhigion brodorol yn bennaf, ond lle mae defnydd tir dynol a gweithgareddau eraill yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu a chynnal a chadw’r gymuned. Ceir enghreifftiau niferus, yn amrywio ar draws sbectrwm y prif ddosbarthiadau
cynefinoedd yng Nghymru, gan gynnwys y rhan fwyaf o fathau o goetir collddail, rhostir corlwyni, a
llawer o ffurfiannau arfordirol. Weithiau, gelwir cynefinoedd y mae gweithgareddau dynol yn
dylanwadu leiaf arnynt yn rhai “lled-naturiol”; ar ben arall y sbectrwm, mae rhai cynefinoedd
diraddiedig, megis cors sydd wedi’i haddasu, hefyd yn cael eu trin fel rhai lled-naturiol.

Nodau Datblygu Cynaliadwy

17 nod a fabwysiadwyd gan holl Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig yn 2015 i ddarparu glasbrint cyffredin ar gyfer heddwch a ffyniant i bobl a’r blaned, yn awr ac yn y dyfodol.

1. Dim Tlodi. 2. Dim Newyn. 3. Iechyd Da a Llesiant. 4. Addysg Dda. 5. Cydraddoldeb Rhywiol. 6. Dŵr Glân a Glanweithdra. 7. Ynni Fforddiadwy a Glân. 8. Gwaith Da a Thwf Economaidd. 9. Diwydiant, Arloesedd a Seilwaith. 10. Llai o Anghydraddoldebau. 11. Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy. 12. Treuliant a Chynhyrchu Cyfrifol. 13. Gweithredu ar yr Hinsawdd. 14. Bywyd o Dan y Dŵr. 15. Bywyd ar y Tir. 16. Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryf. 17. Partneriaethau i Gyflawni’r Nodau.

Targedau

Mae targed yn fynegiant clir o flaenoriaeth polisi, sy’n nodi’n union beth mae’r Llywodraeth eisiau ei wneud ac erbyn pryd. Mae targedau yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n gyfrifol am weithredu, yr hyn sydd angen digwydd, fel y gallant gynllunio, monitro a chyflawni’r newid penodedig.

Llesiant

Cyflwr sy’n ddibynnol ar gyd-destun a sefyllfa, ac yn cynnwys deunydd sylfaenol ar gyfer bywyd da, rhyddid a dewis, iechyd a llesiant corfforol, cysylltiadau cymdeithasol da, diogelwch, tawelwch meddwl, a phrofiad ysbrydol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant. Mae’n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus roi Asesiadau Llesiant at ei gilydd fel bod camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith i wella llesiant. Bydd Dangosyddion Llesiant yn cael eu defnyddio i fesur llwyddiant y camau gweithredu.