Ar ran Llywodraeth Cymru, rwy’n croesawu Bannau sef Cynllun Rheoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Parciau Cenedlaethol, ynghyd ag Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn cynnwys rhai o’r ardaloedd mwyaf trawiadol a dramatig yng nghefn gwlad Cymru.

Maent yn dirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol ac fe’u dynodwyd â’r statws uchaf o gadwraeth. Mae miliynau o ymwelwyr yn mwynhau’r nodweddion hyn bob blwyddyn.

Anaml y bu Parciau Cenedlaethol yn uwch o ran ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol. Mae mannau gwyrdd a gwyllt yn rhoi seibiant i bobl a chyfleoedd iddynt anadlu’n rhydd. Yn anffodus, fodd bynnag, maent hefyd wedi’u rhoi dan bwysau mawr ac yn cael eu cam-drin gan rai. Mae’n rhaid i ni alluogi ymwelwyr i gael profiadau o safon fyd-eang a sicrhau nad yw’r nodweddion arbennig yr ydym yn ceisio eu hamddiffyn yn cael eu difrodi. Rhaid i fuddiannau cymunedau lleol, busnesau a rheolwyr tir hefyd fod yn flaenllaw yn ein meddyliau.

Mae cydbwyso’r diddordebau a’r blaenoriaethau hyn yn gofyn am ddulliau gwirioneddol gydweithredol. Rhaid i Gynlluniau Rheoli’r Parciau Cenedlaethol ymgorffori’r dull hwn o gydweithio a chyd-gynhyrchu, o fewn ac yn gynyddol y tu allan i ffiniau’r Parciau unigol.

Gwaetha’r modd, nid oes unrhyw un o ecosystemau Cymru ar hyn o bryd yn dangos yr holl rinweddau sy’n gysylltiedig â gwytnwch. At ei gilydd, mae amrywiaeth fiolegol yn dirywio, ac mae maint rhai cynefinoedd hefyd wedi gostwng yn sylweddol. Mae ein Harchwiliad Dwfn Bioamrywiaeth wedi nodi argymhellion uchelgeisiol er mwyn inni gyrraedd y targed 30×30 a bydd Parciau Cenedlaethol yn rhan annatod o’r ymdrech i fwrw ymlaen â nifer o gamau allweddol.

Mae Parciau Cenedlaethol yn gorchuddio tua 20% o arwynebedd tir Cymru ac felly, maent yn bartneriaid hanfodol wrth gyflawni ystod eang o flaenoriaethau cenedlaethol a lleol.

Mae gweledigaeth y Cynllun Rheoli hwn yn annog pobl a natur i gydweithio er mwyn gwella llesiant y gymuned a’r byd natur ac er mwyn lleihau carbon. Drwy wneud hynny, fe fydd yn esiampl ar gyfer byw’n gynaliadwy y tu hwnt i’w ffiniau. Mae hyn yn adlewyrchu’n fawr iawn fy mlaenoriaethau innau ar gyfer y teulu o Dirweddau Dynodedig ar hyd a lled Cymru. Edrychwn ymlaen at gefnogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i roi’r weledigaeth feiddgar hon ar waith.