Eich tîm

Mae’r safle hwn a gwaith y Cynllun Rheoli yn ganlyniad tîm ymroddedig o bobl sydd ag angerdd gwirioneddol am oroesiad y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.

 

Gallwch ddarllen mwy amdanom ni a sut i gysylltu â ni isod.

Helen Roderick

helen.roderick@beacons-npa.gov.uk
Mae Helen yn bartner mewn busnes ffermio a chafodd ei geni a’i magu yn y Parc. Mae Helen yn frwd am dechnegau ffermio cynaliadwy ac yn credu’n gryf mai ffermwyr yw dyfodol y Parc. Mae gan Helen hanes hir o ddatblygu cymunedol yn y Parc a hi sy’n arwain ein gwaith gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd.

Naomi Davies

naomi.davies@beacons-npa.gov.uk
Mae Naomi yn ferch leol sy’n byw ar fferm ei rhieni. Mae ei chefndir mewn ymarfer gwledig ac mae ganddi ben da am arallgyfeirio ffermydd a datblygu busnesau. Naomi yw un o’r bobl fwyaf effeithlon y gallech chi eu cyfarfod ac mae’n ein cadw yn drefnus ac ar y trywydd iawn. Naomi sy’n arwain datblygiadau ar safleoedd penodol.

Liz Hutchins

liz.hutchins@beacons-npa.gov.uk
Mae Liz Hutchins yn Uwch Gynghorydd Polisi, yn gweithio ar Gynllun Rheoli Bannau’r Dyfodol. Mae cefndir Liz mewn ymgyrchu amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol ac mae'n angerddol am adeiladu byd tecach mwy cynhwysol wrth i ni ymateb ar frys i'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Ei rôl flaenorol oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear, Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Liz yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac wrth ei bodd yno, ac mae’n dysgu Cymraeg.

Sophie Jones

sophie.jones@beacons-npa.gov.uk
Tyfodd Sophie i fyny yn archwilio’r bannau, a rhoddodd hyn frwdfrydedd a gwerthfawrogiad iddi o’n byd naturiol a’r fioamrywiaeth sy’n byw ynddo. Aeth ymlaen i astudio cysylltiadau rhyngwladol a datblygu bydeang, gan ddatblygu brwdfrydedd am gynaliadwyedd, gwneud newidiadau, a hanes. Mae hyn wedi ei harwain i weithio ar brosiectau sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol, ochr yn ochr â’i gwaith fel gwirfoddolwr amgylcheddol.

Helen Lucoq

helen.lucoq@beacons-npa.gov.uk
Cafodd Helen ei geni yn Abertawe, ond mae ganddi hanes hir a hoffus gyda Bannau Brycheiniog (un o’i hoff ffrindiau yn ei phlentyndod oedd masgot y Parc ar un adeg, Mistar Pigog). Mae Helen yn dipyn o bolymath, gyda’i diddordebau yn amrywio o adrodd storïau, i dreftadaeth, i economeg, er mai cynllunydd tref siartredig yw ei gwaith bob dydd. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn dychryn ei mab ifanc i’r byw, felly mae hi wedi addo gwneud ei gorau glas i ddatrys hwn iddo.

Chris O’Brien

christopher.obrien@beacons-npa.gov.uk
Mae Chris wedi bod yn byw yn Aberhonddu ers mwy na 15 o flynyddoedd. Yn gynllunydd tref siartredig, mae Chris wrth ei fodd yn yr awyr agored sy’n golygu ei fod wedi arbenigo mewn materion amgylcheddol ac mae’n gweithio at gymhwyster arweinydd bryn a rhostir. Mae hefyd yn gredwr brwd ym mudiad y Parc Cenedlaethol ac yn credu y dylai buddion y Parc Cenedlaethol fod yn hygyrch i bobl o bob lliw a llun eu mwynhau.