Mae gweithio mewn partneriaeth yn ganolog gyflawni datblygiadau cynaliadwy fewn Parciau Cenedlaethol oherwydd yr ystod fuddiannau sy’n ymgynnull yno. Canllawiau Ar Gyfer Cynlluniau Rheoli Parc Cenedlaethol
Cyngor Cefn Gwlad Cymru 2007

Nid ydym yn gweithio ar ein pennau ein hunain wrth gyflawni ein cenadaethau.

Rydyn ni’n dibynnu ar gymorth, arbenigedd, cyngor a sgiliau ymarferol gan amrywiaeth o bartneriaid sy’n gweithio gyda ni tuag at yr un nodau.

Drwy gydol y Cynllun hwn, rydyn ni wedi arddangos amrediad o brosiectau sy’n dangos y math o weithredu sydd ei angen ar raddfa fawr os ydym am gyflawni ein gweledigaethau (gweler Sêr y Bannau). Erbyn hyn, hoffem arddangos y partneriaethau yr ydym am weithio gyda nhw i ddatblygu’r camau manwl sydd eu hangen i greu’r newidiadau angenrheidiol. Teimlwn yn freintiedig iawn o gael gweithio gydag ystod ac amrywiaeth mor eang o bartneriaethau, a chredwn ei fod yn dyst i’r ymrwymiad a’r angerdd a deimlir tuag at Fannau Brycheiniog gan gynifer o wahanol bobl a sefydliadau.

Mae rhai o’r partneriaethau hyn (fel ein Partneriaeth Natur Leol er enghraifft) yn canolbwyntio ar bwnc penodol ac yn derbyn ffrydiau ariannu penodol i weithredu. Mae eraill wedi’u grwpio o amgylch ardaloedd gofodol (er enghraifft, Meithrin Mynydd), ac yn mynd i’r afael â’r ehangder o faterion a deimlir yno. Yn y modd hwn, rydyn ni’n gallu dosbarthu awdurdod a dirprwyo penderfyniadau i’r lefel fwyaf lleol posibl, yn unol â’r arferion gorau a ddefnyddir i reoli tirweddau gweithredol byw fel y Parc.

Mae datblygu, cefnogi a gweithio o fewn partneriaethau iach yn un o amcanion allweddol y Cynllun hwn ac yn un o werthoedd hollbwysig ein sefydliad. Ymdrechwn i wneud penderfyniadau ar y cyd lle bynnag y bo modd, gan roi gwerth ar feithrin perthynas fel rhywbeth sy’n greiddiol i lwyddiant, a sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan benderfyniadau wedi’u cynnwys yn y cydlunio.

 

Cyflawni’r Cynllun Gyda’n Gilydd

Diffinnir gweithio mewn partneriaeth gan y Cenhedloedd Unedig fel:

“Perthynas gydweithredol barhaus rhwng neu ymhlith sefydliadau o wahanol fathau o randdeiliaid sy’n alinio eu buddiannau â gweledigaeth gyffredin, gan gyfuno eu hadnoddau a’u cymwyseddau cyflenwol a rhannu risg, er mwyn creu’r gwerth mwyaf posibl a sicrhau budd i bob un o’r partneriaid.”

O fewn y tudalennau hyn, rydyn ni’n nodi bod y Partneriaethau canlynol yn arwyddocaol i gyflawni Cenhadaeth y Bannau. Mae pob adran wedi’i datblygu gan y Partneriaethau eu hunain, yn eu geiriau eu hunain, gyda phob partneriaeth yn endid ynddo’i hun.

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn a gobeithiwn y bydd modd inni ei diweddaru yn ystod cwrs y cynllun, wrth i bartneriaethau newydd ffurfio a datblygu. Am y tro, rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r canlynol am eu hymrwymiad i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gweledigaeth y Cynllun hwn: