Cenadaeth

Dŵr

Nodau
Adnoddau ac amgylcheddau dŵr glân, diogel, gwydn a digonol erbyn 2030.
Mae holl ddŵr Ddaear yn deillio o’r un ffynhonnell, felly rydyn ni gyd yn tynnu dŵr o’r un ffynnon fyd-eang. Mae pob ton ymhob cefnfor, pob llyn, nant ac afon danddaearol, pob diferyn glaw phluen eira phob tamaid iâ mewn rhewlifoedd chapanau rhew pegynol, yn rhan o’r ffynnon fyd-eang hon. Felly p’un ydych chi’n troi tap ymlaen yng Ngogledd America, yn tynnu dŵr ffynnon yng Nghenia neu’n ymdrochi mewn afon yn India, yr un dŵr yw’r cyfan. Ac oherwydd bod cyfan yn gysylltiedig, bydd ffordd yr ydym yn trin dŵr yn ffynnon yn effeithio ar bob rhywogaeth ar blaned, gan gynnwys ni, yn awr ac am flynyddoedd ddod.
Rochelle Strauss
One Well: The Story of Water on Earth

Dalgylchoedd Gwydn

Cefnogi’r dasg o ddarparu adnoddau dŵr glân a chynaliadwy ar gyfer bannau brycheiniog a thu hwnt
Lefelau Maethol
O fewn Dalgylchoedd Wysg a Gwy, bydd lefelau maethynnau o fewn lefelau diogel ar gyfer gwytnwch ecolegol.
Llif Dŵr
Mae lefelau dŵr ein hafonydd, ffynonellau daear a phriddoedd yn ddigonol ar gyfer iechyd ecolegol a dynol.
Ecosystemau Wedi’u Hadfer
Dynodwyd Afonydd Gwy, Tywi ac Wysg yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn sgil eu nodweddion ecolegol, ac mae’r nodweddion hynny wedi’u hadfer yn llawn ac mewn iechyd ecolegol da.
Llifogydd
Llwyddwyd i leihau’r effeithiau ar drefi sy’n agored i lifogydd ar hyd Afonydd Wysg a Gwy yn ystod digwyddiadau tebyg i’r rhai a gafwyd yn 2020.

Amgylcheddau Dŵr o Ansawdd Uchel

Sicrhau y gall pawb sy’n byw ac yn ymweld â bannau brycheiniog fanteisio ar y buddion iechyd a llesiant a ddaw yn sgil amgylcheddau dŵr o ansawdd uchel a natur doreithiog.
Ansawdd Dŵr
Bydd y rhan fwyaf o lygryddion fel metelau trwm, microblastigau a chynhyrchion fferyllol yn cael eu dileu erbyn 2030 ac mae llwybr gweithredu ar gyfer eu dileu yn llwyr yn hysbys.
Dyfroedd Ymdrochi
Bydd ardaloedd o’n hamgylchedd dŵr wedi’u dyrannu fel rhai o safon dŵr ymdrochi, a bydd cod ymddygiad ar gyfer dŵr nofio agored wedi’i fabwysiadu ar draws Bannau Brycheiniog.
Caru Eich Afonydd
Bydd gan drigolion ac ymwelwyr berthynas newydd â’n hamgylcheddau dŵr, yn enwedig afonydd y Parc Cenedlaethol. Cânt eu dathlu am eu gwerth i ddiwylliant, hamdden a’r amgylchedd.

Dŵr

Dŵr yw’r sylwedd mwyaf sylfaenol sy’n gysylltiedig ag iechyd y ddynoliaeth a’r blaned. Dyma’r elfen sy’n cynnal holl blanhigion ac anifeiliaid y Ddaear yn ogystal â’n systemau allweddol, megis cynhyrchiad bwyd, diwydiant a glanweithdra.

 

Mae dŵr fel adnodd yn cael ei ddefnyddio ar gyfradd anghynaliadwy. Amcangyfrifir erbyn 2050 bod tua hanner biliwn o bobl yn debygol o ddioddef straen dŵr. Mae hynny yn ein cynnwys ni yma ym Mannau Brycheiniog ynghyd â’r dalgylchoedd ehangach a gyflenwir gan ein hadnoddau dŵr. Mae 50% o ddŵr a dynnir gan Ddŵr Cymru yn ddyddiol yn dod oddi mewn i’n ffiniau ni.

Yn 2021, cyhoeddodd Canolfan Gwytnwch Stockholm ddata newydd, yn edrych ar “ddŵr gwyrdd”, sef y dŵr sydd wedi’i wreiddio yn y pridd a’r atmosffer ac sy’n hanfodol i ddiogelu gweithrediad y systemau planedol. Canfu eu hasesiad ein bod fel hil ddynol yn defnyddio’r adnodd hwn ar draws y byd ar gyfradd ac ar raddfa sy’n anghynaliadwy, ac a allai fygwth sefydlogrwydd ein planed, neu ein gallu i ecsbloetio’r adnodd ar y lefelau presennol. Roeddent yn annog inni gynnal ymchwiliad newydd i asesu’r bygythiad a achosir gan ein defnydd o systemau dŵr, ac i ganfod ffyrdd o liniaru ac addasu i’r newid o ran argaeledd a hinsawdd.

Nid maint y dŵr yn unig sydd dan fygythiad, yn anffodus mae data byd-eang a lleol yn dangos bod ein hamgylcheddau dŵr yn cael eu niweidio gan effeithiau dynol. Mae ein gweithgareddau’n ychwanegu gormod o faetholion, cemegau, metelau trwm a phlastigau i’r systemau hanfodol hyn. Yn fyd-eang, mae 35% o’n gwlyptiroedd wedi diflannu er 1970, gan arwain at ostyngiad mewn 83% o rywogaethau dŵr croyw.

Yma yn y Parc Cenedlaethol, fe welir yr un bygythiadau. Afonydd a gwlyptiroedd yw nodweddion mwyaf ecolegol bwysig y Parc Cenedlaethol. Maent yn rhan bwysig o’n hamgylchedd hanesyddol a diwylliannol, gan ddarparu cryn fanteision o ran iechyd a llesiant. Fodd bynnag, nhw hefyd yw’r amgylcheddau a’r adnoddau sydd o dan y bygythiad mwyaf.

Mae ystod o effeithiau cyfansawdd wedi cyrraedd y pwynt lle na all prosesau hunan-reoleiddio naturiol sy’n hanfodol i ansawdd a maint yr amgylcheddau dŵr, weithredu’n iawn mwyach. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â lefelau ffosffad sydd mor arwyddocaol ar adeg ysgrifennu hyn, fel bod angen newid sylfaenol mewn arferion rheoli tir a thrin dŵr.

Uchelgais y Cynllun ar gyfer ansawdd, maint ac amgylcheddau dŵr yw sicrhau bod yr adnodd hanfodol hwn yn cael ei warchod er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn gweithio ar draws sefydliadau, cyrff amgylcheddol anllywodraethol, grwpiau dinasyddion a chyrff statudol i sicrhau y gallwn warchod yr adnodd hwn ar gyfer y dyfodol.

Dŵr yw ffynhonnell bywyd dyma yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a’r mwyaf bregus.
Mae cymunedau Bannau Brycheiniog wedi rhyngweithio â’n systemau dŵr a’r “dirwedd las” drwy gydol hanes.
Mae pobl Cymru thu hwnt yn dibynnu ar ein systemau dŵr ar gyfer eu hanghenion corfforol, meddyliol ac adloniadol mae dŵr yn ein cysylltu.
Ein rôl ni yw arwain ffocws newydd ar bwysigrwydd dŵr fewn Parc Cenedlaethol, er mwyn i’r dasg ddiogelu, atgyweirio ac adfer ein systemau dŵr fod wrth galon pob dim wnawn.

Fel sefydliad mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i'r canlynol ar gyfer dŵr

Blaenoriaethu
Byddwn yn blaenoriaethu dŵr a’n systemau dŵr yn ein holl weithgareddau ac yn gweithio gyda’n staff a’n rhanddeiliaid i rannu pwysigrwydd y genhadaeth ddŵr â phawb.
Dalgylch
Byddwn yn gosod esiampl dda drwy sefydlu Partneriaeth Dalgylch Afon Wysg i arwain adferiad ecolegol llawn yno o ran rheoli ansawdd dŵr, maetholion, diogeledd dŵr, amwynderau, bywyd gwyllt a gwasanaethau ecosystem.
Partneriaethau
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i warchod a gwella ein holl systemau dŵr yn y Parc Cenedlaethol – afonydd, llynnoedd, camlesi, mawndiroedd, corsydd a gwlyptiroedd - ar gyfer eu rôl mewn adfer natur, newid hinsawdd, amddiffyn rhag llifogydd, darparu dŵr a chefnogi llesiant ein cymunedau a’n hymwelwyr.
cefnogaeth
Byddwn yn cefnogi cymunedau, cartrefi, busnesau ac ymwelwyr i ailgysylltu â’r “dirwedd las” trwy straeon hanesyddol, diwylliant a daeareg. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector amaeth, ac yn ei gefnogi wrth ymchwilio i ddulliau ac arferion ar gyfer rheoli’r tir sy’n cyfuno’r dasg o gynhyrchu bwyd ac adfer yr ecoleg, a hynny er budd pawb.
Tystiolaeth
Byddwn yn rhannu’r dystiolaeth a’r data fel y gallwn i gyd ddeall yr effaith y mae ein bywydau a’n hymddygiad yn ei chael ar ein dŵr, a’r modd y gallwn ddiogelu ein cyrsiau dŵr a sicrhau y gellir eu mwynhau am flynyddoedd i ddyfod.

Lleisiau Dŵr

Mae Lleisiau Brycheiniog yn gyfres o straeon creadigol, cerddi, caneuon, a chardiau post gan bobl Brycheiniog. Ymgollwch yn eu straeon, eu gwerthoedd a’u hangerdd dros Fannau Brycheiniog.
Araith a draddodwyd er cof am Ioan Brychan