Uchelgeisiau

Er mwyn helpu darllenwyr i ddeall cyrhaeddiad y genhadaeth ar draws y Parc Cenedlaethol, rydym wedi diffinio cyfres o “ddatganiadau uchelgais” sy’n ceisio rhoi darlun clir o’r hyn y mae gweithredu’r cenadaethau’n llwyddiannus yn ei olygu.

Maent yn mynegi’r newidiadau hyn fel deilliannau ar lawr gwlad, ac fel ein cenadaethau maent yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn darparu sail ar gyfer monitro’r Cynllun hwn yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni’r newidiadau mawr hyn, bydd angen i lawer o wahanol sefydliadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd – ni fydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithredu ar ei ben ei hun.

  • Is-bynciau, yn helpu i fapio cyflawniad cenhadaeth
  • Cyfres o ddatganiadau canlyniad – beth fydd yn newid o ganlyniad i gyrraedd nod y genhadaeth

Rôl y Parc Cenedlaethol wrth Ddarparu

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull Cenhadaeth rydym ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau. Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.

Yn ogystal â’n hymagwedd sy’n canolbwyntio ar genhadaeth, credwn hefyd fod gennym ni fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol at genhadaeth Y Bannau: Y Dyfodol. Mae’r rhain yn diffinio gweithgaredd y dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol o weithgarwch ar gyfer y sefydliad cyfan.