Y Bannau yw’r Cynllun Rheoli ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae ei gyhoeddiad yn cyflawni rhwymedigaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i baratoi a pharhau i adolygu Cynllun Rheoli ar gyfer yr ardal.

Fodd bynnag, mae’r cynllun hwn yn anelu at fod gymaint mwy na bodloni gofyniad statudol yn unig. Mae’n Gynllun sy’n ceisio mynegi’n glir ac yn ddigywilydd yr angen am newid eang a brys os ydym am oroesi fel adnodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gynllun sydd â’r nod o ysbrydoli gweithrediadau ac adeiladu clymblaid o’r rhai sy ‘n barod i gyflawni ein huchelgais ar gyfer y lle gwych hwn yr ydym yn ei alw’n gartref, sef Parc y Bannau.

Cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli Newid Gyda’n Gilydd diwethaf yn 2010, a chafodd yr adolygiad cyntaf sy’n rhoi llesiant wrth galon y Parc Cenedlaethol, ei gwblhau a’i gyhoeddi yn 2015. Ers yr amser hwnnw, bu sawl newid yng nghyd-destun y polisi y mae’r Cynllun yn gweithredu o’i fewn; yn fwyaf nodedig, y gydnabyddiaeth gan arweinwyr y byd ein bod yn wynebu Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Bioamrywiaeth. Roedd y ffactorau hyn yn arwydd fod angen newid radical o ran y ffordd y llunnir ac y gweithredir polisïau, o’i gymharu â’r hyn a ragwelwyd gan gynlluniau ddim ond pum mlynedd yn ôl. Mae’r Cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r byd wedi dioddef pandemig rhyngwladol ac wedi dod allan ohono gyda blaenoriaethau newydd ar gyfer y dyfodol. Yn nyddiau tywyll, trasig ac ofnadwy’r cyfnodau clo, fe ddysgon ni ailgysylltu â byd natur. Ni fu’r gwanwyn erioed mor fywiog, ni fu cân yr adar erioed mor glir, ac fe ddaethom o hyd i gysur ym myd natur. Mae hon yn thema sy’n tanategu holl neges y Cynllun. Mae’r cyd-destun polisi newidiol a chymhlethdod y pandemig a’i ganlyniadau yn golygu bod y Cynllun hwn yn wahanol iawn i’r Cynlluniau Rheoli blaenorol.

Rhan o newid radical y Cynllun yw’r ffocws a roir ar y Parc Cenedlaethol fel system gyfannol o dan straen aruthrol. Fe ddaw ein hysbrydoliaeth o fodel economaidd o’r enw ‘Y Doesen” a ddyfeisiwyd gan Kate Raworth, fel y gallwn dynnu darlun clir o’r graddau y mae’r Parc yn mynd y tu hwnt i derfynau cynaliadwyedd economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol.

Rydyn ni’n rhy ddibynnol ar garbon; mae ein bioamrywiaeth yn dirywio; mae ansawdd dŵr rhai o’n hafonydd harddaf wedi’i beryglu’n ddirfawr; bu lefelau ymwelwyr yn uwch nag erioed gan arwain at anhrefn traffig yn ein cymunedau; mae yna argyfwng digynsail o ran fforddiadwyedd tai sydd wedi’i ysgogi gan y farchnad am ail gartrefi dymunol, heb sôn am argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y rhan fwyaf o’n pobl ifanc yn gadael trefi a phentrefi’r Parc hwn a bydd rhai byth yn dychwelyd er gwaethaf eu hawydd i wneud hynny – a bydd eu cyfalaf dynol a chymdeithasol yn diflannu gyda nhw. Mae’r ddemograffeg yn mynd yn hŷn ac yn hŷn wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Mae’r model Toesen yn ein helpu ni i ddangos yn union pa mor bell y mae’n rhaid i’r nodwydd symud os yw ein pwrpasau a’n dyletswyddau i lwyddo yn erbyn y problemau cymhleth hyn.

Mae’r darlun hwn o gyflwr presennol y Parc yn rhoi’r modd inni ganfod lle mae angen gweithredu ar y cyd ar draws ystod o randdeiliaid er mwyn inni symud o’r hen drefn arferol tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Mae angen i ni weld:

 

  • Newidiadau o ran rheoli tir: symud o ddulliau echdynnol â chostau allanol uchel tuag at ddulliau atgynhyrchiol sy’n dal ac yn storio carbon ac yn cydfodoli ag adferiad natur ac ecosystemau gwydn.
  • Newidiadau o ran systemau trafnidiaeth: symud o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy gydag angen i greu trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw a chynaliadwy ynghyd â dewisiadau ar gyfer teithio llesol.
  • Newidiadau o ran ynni: symud o danwydd ffosil i gynhyrchion adnewyddadwy gan ganolbwyntio ar rwydweithiau gwres a phŵer cymunedol a lleol.
  • Newidiadau o ran y ddarpariaeth tai i greu opsiynau mwy fforddiadwy gyda safonau cynaliadwyedd uwch o ran dylunio a gweithredu.
  • Newidiadau o ran ein heconomi: symud o ddulliau echdynnol i rai cylchol ac adfywiol, gyda phwyslais ar ddatblygiadau digidol, sgiliau gwledig newydd a thwf yn yr economi werdd.
  • Newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli iechyd a llesiant dinasyddion o fodel meddygol i fodel cymdeithasol. Darparu ymyriadau ataliol sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn i gysylltu pobl â’r awyr agored a byd natur.

Mae’r Cynllun hwn yn disgrifio pum cenhadaeth uchelgeisiol gyda’r bwriad o ysgogi gweithrediadau ar draws y Parc Cenedlaethol.

Mae’r dull hwn wedi’i ysbrydoli gan Economi Genhadol yr economegydd Mariana Mazzucato. Mae’r cenadaethau’n canolbwyntio ar hinsawdd, dŵr, natur, pobl a lle. Mae amcanion sy’n diffinio llwyddiant yn cyd-fynd â phob cenhadaeth.

Mae’r cenadaethau, a nodir drosodd, a’r amcanion wedi’u datblygu ar sail ymchwil helaeth ac ar gydweithio ag ystod eang o randdeiliaid. Bellach, bydd cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu i gyflawni’r cenadaethau.

Pum Cenhadaeth Rhyng-Gysyltiedig

Hinsawdd
Cyrraedd sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog erbyn 2035.
Dŵr
Adnoddau ac amgylcheddau dŵr glân, diogel, gwydn a digonol erbyn 2030.
Natur
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn natur-bositif erbyn 2030.
Pobl
Byw, gweithio ac ymweld yn ddiogel, yn deg ac yn gynaliadwy.
Lle
Lleoedd hardd, ffyniannus a chynaliadwy, sy’n cael eu dathlu am eu treftadaeth naturiol a diwylliannol, yn awr ac am byth.