“Rydyn ni’n dewis mynd i’r lleuad. Rydyn ni’n dewis mynd i’r lleuad yn degawd hwn gwneud pethau eraill, nid oherwydd eu bod yn hawdd, ond oherwydd eu bod yn anodd, oherwydd bydd nod hwnnw yn fodd drefnu mesur gorau o’n hegni a’n sgiliau, oherwydd mae’r her honno’n un yr ydym yn fodlon ei dderbyn, yn her yr ydym yn anfodlon ei ohirio, ac yn her yr ydym yn bwriadu ei hennill ...”
John F Kennedy
Trosiad o eiriau’r Arlywydd a draethodd ym Mhrifysgol Rice, 12 Medi, 1962.

Pan ddatganodd yr Arlywydd Kennedy ei uchelgais i anfon pobl i’r lleuad a dod â nhw’n ôl yn ddiogel, creodd, mewn un cam diamwys ac ysbrydoledig, y sbardun i fwrw ymlaen â’r prosiect.

Yn sgil y datganiad hwnnw, dechreuodd llu o bobl, o arbenigwyr i ddinasyddion, gydweithio mewn ffyrdd nas gwelwyd o’r blaen er mwyn cyflawni un amcan canolog, a hynny ar fyrder. Roedd y gweithgaredd yn golygu gweithio ar gannoedd o brosiectau, cymryd risgiau, symud ymlaen trwy brofi a methu llawer o weithiau ar hyd y ffordd, cyn cyrraedd y lan yn y pen draw (Mazzacato 2021).

Drigain mlynedd ers lansio Prosiect Apollo, mae’r heriau y mae angen i’r Cynllun hwn fynd i’r afael â nhw – sef newid hinsawdd, adfer byd natur, gwella ansawdd dŵr, creu twristiaeth gynaliadwy a ffyniant economaidd i’n trigolion, i enwi dim ond rhai – yn broblemau cymhleth a dychrynllyd sy’n debyg i’r ymdrech a wnaed i lanio ar y lleuad yn yr ystyr eu bod yn gofyn am y gorau o’n hegni a’n sgiliau.

Am y rheswm hwnnw, mae Y Bannau yn cymryd agwedd genhadol tuag at reoli’r Parc. Byddwn yn gosod nodau beiddgar i weithredu ar ein problemau mwyaf enbyd ac yn eu cyflawni trwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd angen i sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, dinasyddion, swyddogion cyflogedig y cyrff cyhoeddus ac amaethwyr, i gyd ddod at ei gilydd i gyflawni trawsnewidiad beiddgar er lles y cenedlaethau i ddyfod.

Teulu’r Genhadaeth

Mae ein dull cenhadol yn cynnwys pum maes cenhadaeth allweddol sy’n gydgysylltiedig. Cyfeiriwn atynt fel ein teulu cenhadol gan eu bod i gyd yn gydgysylltiedig, yn gyd-ddibynnol yn rhyngberthynol.

Mae’r meysydd pwnc hyn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o Doesen y Parc Cenedlaethol (gweler uchod) ac yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol hynny lle mae’r Parc Cenedlaethol yn torri’r terfynau sy’n ymwneud â gweithredu’n ddiogel (gweler yr adran ar Broblemau). Dyma’r meysydd lle’r ydym yn beryglus o agos at sefyllfaoedd diffwysol a di-droi’n-ôl. Rhaid gweithredu ar y rhain fel mater o frys. Mae’r ddealltwriaeth hon o’r dystiolaeth yn gofyn am weithredu ar y cyd yn y meysydd canlynol: –

  • Hinsawdd
  • Dŵr
  • Natur

Ac, i gydnabod y toriadau sylweddol ar draws bron y cyfan o’n sylfaen gymdeithasol a Chraidd y Parc Cenedlaethol, rydym wedi nodi meysydd cenhadaeth mwy cyffredinol sy’n canolbwyntio ar:-:-

  • Pobl (ymwelwyr, preswylwyr, a pherchnogion busnes)
  • Lle (yr ardal ddaearyddol lle gellir teimlo effeithiau)

Mae gan bob cenhadaeth ei phennod ei hun yn y cynllun hwn. Mae’r penodau hyn yn egluro’r genhadaeth ac yn darparu rhesymeg gyd-destunol ehangach ar gyfer ffocws y genhadaeth. Wrth greu penodau sy’n seiliedig ar genhadaeth, rydyn ni’n cydnabod ein bod yn creu ffiniau ffug rhwng y meysydd cenhadaeth.

Er y gwyddom fod gwahaniadau o’r fath yn ffug; yn anffodus, dyma’r ffordd gliriaf y gallwn ddod o hyd iddi i gyfathrebu ein gweledigaeth. Rydyn ni am gydnabod yma fod llwyddiant ymhob maes cenhadaeth yn dibynnu ar systemau rhyngweithio cymhleth rhwng y meysydd cenhadaeth. Er mwyn deall y ffordd y mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr ystod lawn o’n cenadaethau, byddwn yn dychwelyd at ein model toesen i ddarparu dealltwriaeth gyfannol.

Mae’r datganiadau cenhadaeth hyn yn ffurfio ein Hamcanion Llesiant ar gyfer y cyfnod 2023-2028 ac yn dangos y modd y bydd ardal ddaearyddol y Parc yn cyfrannu at gyflawni’r 7 nod llesiant drwy’r 5 ffordd o weithio.

Dull cydweithredol a beiddgar

Er y gall ein Cenhadaeth ymddangos yn hynod uchelgeisiol, rydym yn gwybod, trwy ymrwymo ein hadnoddau a gweithio gyda’n partneriaid, y bydd y newid angenrheidiol yn gallu digwydd ac yn digwydd.

Meddyliwch am bob un o’n cenadaethau fel adeiladu tŵr o flociau. I adeiladu’ch tŵr, mae angen llawer o flociau i ddod at ei gilydd er mwyn creu’r strwythur terfynol, sef y tŵr ei hun. Mae pob bloc yn cael ei osod yn ei dro ac yn adeiladu ar sylfaen y blociau oddi tanynt. Yn ein tŵr cenhadaeth, mae pob bloc yn cynrychioli prosiect, cynllun neu weithgaredd, ac wrth eu cyfuno maent yn gweithio gyda’i gilydd i greu’r newid sydd ei angen.

Gwaith Y Bannau yw diffinio’r paramedrau ar gyfer y gweithgareddau nesaf hyn, ac nid i ragnodi’r union ffurf y dylent fod. Yn unol â’n gwerthoedd o gyfranogi a chydweithio, ein partneriaid fydd yn penderfynu’r ffordd y byddant yn gweithio gyda ni a’r cyfraniad y byddant yn ei wneud. Yn y tudalennau canlynol, fe welwch astudiaethau achos o weithgareddau sy’n sail i’r tyrau cenhadol hyn, a elwir yn “Sêr y Bannau” a manylion y partneriaethau y byddwn yn gweithio gyda nhw i helpu i gyflawni cenhadaeth Y Bannau.

Rôl Gyflawni’r Parc Cenedlaethol

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull cenhadol, rydyn ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau. Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.

Yn ogystal â’n dull cenhadol, credwn fod gennym fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol i genhadaeth y bannau. Mae hyn yn diffinio gweithgareddau’r dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad cyfan.