Parc Cenedlaethol Y Dyfodol

I weithredu mewn ymateb i’r materion a nodwyd a sicrhau bod y gweithredu hwnnw o fewn y terfyn ecolegol uchaf a’r sylfaen cymdeithasol, mae gofyn cymryd camau trawsnewidiol a chydweithredol. I lywio’r gweithredu hwn, mae’r cynllun yn diffinio gweledigaeth 25 mlynedd, sy’n anelu at roi ein pwrpasau a’n dyletswyddau ar waith o fewn cyd-destun yr 21ain ganrif, gan fod yn effro i broblemau’r hinsawdd a’r argyfwng natur.

Cefnogir y weledigaeth gan ein pum cenhadaeth sy’n anelu at sicrhau ein bod yn rhoi ein pwrpasau a’n dyletswyddau ar waith yn llwyddiannus, i
greu Parc Cenedlaethol ffyniannus i bawb

Bannau Brycheiniog 2048

Mae’r ddelwedd hon yn mynd â ni nôl i’r un olygfa nodweddiadol yn y Parc Cenedlaethol. Ond y tro hwn, rydym wedi symud y cloc ymlaen 25 mlynedd i greu darlun o dirwedd bosib yn y dyfodol.

Yn y dirwedd hon, mae natur a ffermio’n gweithio ochr yn ochr i greu tirwedd gydnerth a bioamrywiol. Bydd dyfodol cynaliadwy ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn arddel adferiad natur, atebion seiliedig ar natur i’r newid hinsawdd, twf gwyrdd, a throi ein cymunedau’n rhai all gynnal bywyd carbon-isel sy’n hygyrch i bawb. Gobeithiwn y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i weithredu, a bod ein hymwelwyr yn elwa ac yn dysgu o gael cyswllt agosach â byd sy’n gyforiog o natur. Dyma sy’n sbarduno ein gweledigaeth ac rydym yn gwahodd ein holl bartneriaid i’w rhannu gyda ni.

Credwn ei bod hi’n hanfodol gweithredu ar hyn nawr, a lle bo modd, ar y cyd â phawb sydd am sicrhau hyfywedd y Parc yn y dyfodol ar gyfer pobl a natur.

Ein Gweledigaeth

Bydd ein Parc Cenedlaethol yn fan o ysbrydoliaeth, a fydd yn ein hysgogi i weithio tuag at ddyfodol llewyrchus a chynaliadwy.

Byddwn yn harneisio’r pŵer o gael natur a phobl yn gweithio ochr yn ochr i’n helpu ni i wynebu’r newid hinsawdd, y dirywiad bioamrywiol, yr adferiad economaidd, a’r argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn 2048, bydd Bannau Brycheiniog yn ecolegol gydnerth a byddwn wedi rhagori ar garbon sero-net.

Bydd ein cymunedau’n ffynnu a byddant yn cydgysylltu ac yn cydweithio â’i gilydd.

Bydd diwylliant, prydferthwch naturiol ac amgylchedd y Parc yn dod ag ysbrydoliaeth a llawenydd i bawb sydd yma’n byw ac yn gweithio, ac yn ymweld â’r lle.

 

Cardiau post o'r Dyfodol

Mae Lleisiau Brycheiniog yn gyfres o straeon creadigol, cerddi, caneuon, a chardiau post gan bobl Brycheiniog. Ymgollwch yn eu straeon, eu gwerthoedd a’u hangerdd dros Fannau Brycheiniog.
Cerdyn post o’r dyfodol
Cerdyn Post o 2047
Llythyr gan Mair Brychan at Dylan Brychan