Fel preswylydd, rwy’n hoffi beicio – mae’n rhoi’r ymdeimlad o ryddid i mi. Gallaf fynd ar fy nghyflymder fy hun, a stopio bryd bynnag y dymunaf. Rwy’i wrth fy modd yn teimlo’r aer a’r haul ar fy nghroen, a’r gwynt yn fy wyneb. Ni fu’r hen Fendith Geltaidd erioed yn fwy addas!
Rwy’n clywed distawrwydd. Clywaf lais natur. Clywaf adar yn galw ac yn canu. Eryr aur yn gwichianfry yn yr awyr uwch fy mhen. Roeddent yn gyffredin ar hyd a lled Cymru yn y 1800au, a chawsant eu hailgyflwyno’n llwyddiannus i’r Parc 10 mlynedd yn ôl. Clywaf y gwynt yn siffrwd trwy ddail y coed. Mae yna lawer mwy o goed nawr, a gyda newid hinsawdd mae llawer o rywogaethau gwahanol wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus i gymryd lle’r stoc gynhenid a ddioddefodd yn drasig o sawl pandemig a’u tarodd yn y 2020au.
Rwy’n stopio ar groesfan afon. Mae’n rhedeg yn glir ac yn lân, ac mae sŵn y dŵr yn crychdonni yn llenwi fy nghlustiau. Clywaf swsial mawr yn y dŵr a sylwi ar ddyfrast yn chwarae gyda’i chenau yn y mannau bas. Mae adar y dŵr yn canu o’r isdyfiant a’r glannau, mae telor y gors yn gwibio drwy’r brwyn yn y gors gyfagos. Ers i’r traffig gael ei reoli, mae’r seinwedd glywedol yn gyforiog o synau natur. Mae’n hyfryd cael profi hyn nawr.
Mae arogl o flodau diwedd haf yn yr aer. Mae’r cloddiau’n llawn o erwain, gwyddfid a malws yn eu blodau. Mae newidiadau mewn dulliau amaeth-ddiwylliannol wedi golygu bod y gwrychoedd yn mynd yn wylltach o lawer ac yn fwy toreithiog o ran blodau, aeron a phryfed. Mae’r grug ar y rhos uwch fy mhen yn dechrau blodeuo. Mae gwenyn allan yn casglu unrhyw neithdar sydd ar ôl ar ddiwedd y tymor.
Wrth i’r tymor nesáu at ei derfyn, mae gwair yn cael ei dorri ar y dolydd blodau gwylltion, ac mae arogl bendigedig o lysiau sych yn treiddio drwy awyr yr hwyrnos wrth i’r haul droi’r tirlun yn aur. Mae’r tractor trydan yn troi’r gwair yn dawel, gan chwythu pryfed a llwch o’i gwmpas ac yn adlewyrchu golau euraidd yr hwyr. Mae’r palalwyf a’r castanau pêr wedi’u plannu yn arddull y safana, ac maent yn eu blodau gyda’u canopïau yn hymian â bywyd a’r aer o’u cwmpas yn felys ag arogl paill.
Rwy’n diosg fy nillad ac yn dod o hyd i dwll nofio yn Afon Wysg. Mae’r dŵr yn hyfryd lân, ac yn oer ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r dŵr croyw yn bywiogi fy nghroen ac wrth i mi orwedd ar draethell yn hanner arnofio, rwy’n syllu ar yr awyr las uwch fy mhen. Rwy’i mewn heddwch llwyr – ni all dim byd guro’r teimlad hwn.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd mai Afon Wysg yw’r afon lanaf yng Nghymru, ac mae nythfa o fisglod dŵr croyw wedi dychwelyd i fyw yn rhannau uchaf yr afon yn llwyddiannus. Mae’n gyforiog o fywyd ac rwy’n teimlo’n ffodus o fedru rhannu hyn gyda’r holl greaduriaid eraill sydd wedi ymgartrefu yma.
Wrth i mi adael y dŵr, mae rhywbeth yn dal fy llygad. Rwy’n estyn i lawr ac yn codi gwrthrych bach silindrog hir. Rwy’n eitha siŵr ei fod e’n rhyw fath o dom. Rwy’n edrych ar fy ffôn ac mae’n cadarnhau fy marn mai baw afanc yw hwn. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae afancod wedi ymgartrefu yn rhannau uchaf Afon Wysg. Gan eu bod yn anifeiliaid nosol, maent wedi bod yn anodd eu gweld, ond mae’r dystiolaeth hon yn cadarnhau eu presenoldeb yn y rhanbarth. Mae grŵp o reolwyr tir a ffermwyr wedi bod yn cydweithio ar brosiect i ail-wylltio’r dirwedd yn nyffrynnoedd Wysg uchaf ac mae’n bleser dechrau gweld ffrwyth eu llafur.
Rwy’i wedi byw yn y Parc ers dros 50 mlynedd bellach, ac wedi gweithio ar y tir am yr holl amser hwnnw, gan gysegru fy ngwaith i gadwraeth y tir a’r coetiroedd ac i amaethyddiaeth organig. Rwy’n hapus i weld bod ymdrechion y gymuned ffermio o’r diwedd yn dechrau gwrthdroi’r duedd o golli bioamrywiaeth. Mae meddylfryd adnewyddol wedi dod i’r amlwg a natur o’r diwedd yn cael ei gwerthfawrogi; nid ydym bellach yn sôn am Gynnyrch Domestig Gros; yn hytrach, rydyn ni’n cyfeirio at Dwf Cyfalaf Naturiol. Mae wedi cymryd degawdau i symud oddi wrth arferion anghynaliadwy, ac mae’r canolfannau addysgiadol a’r colegau newydd yn y Parc yn darparu cyfleoedd cyffrous i’r nifer cynyddol sy’n perthyn i’r genhedlaeth ddiweddaraf o weithwyr a rheolwyr tir.
Rwy’n hapus iawn i fod yn dyst i’r newid hwn, gan wybod y bydd yr amgylchedd ar fy ôl yn meddu ar galon sy’n curo’n gryf, ac yn darparu ffyniant i bawb sy’n galw’r lle hwn yn gartref.
“Oedd, roedd e’n werth e.”
Mae ymdrechion pawb gyda’i gilydd wedi creu brithwaith toreithiog ac amrywiol o gynefinoedd sydd bellach yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o fflora a ffawna – llawer cyfoethocach nag yn 2022.
Mae systemau ffermio wedi newid yn sylweddol – bellach, rydyn ni’n cydweithio mewn clystyrau, ac yn rhannu syniadau, offer a llwythi gwaith. Mae Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi dod o hyd i’r cydbwysedd cywir, gan gefnogi amaethyddiaeth i gynhyrchu bwyd sy’n cynnwys llawer o faetholion ac amrywiaeth eang o fanteision amgylcheddol.
Mewn rhai ardaloedd, mae’r hen systemau caeau wedi cael eu hadfer, gyda gwrychoedd blêr yn hafanau i fywyd gwyllt. Mewn ardaloedd eraill, mae tir caeedig wedi’i agor i diroedd gwyllt helaeth lle mae da byw yn cael eu monitro trwy rwydweithiau ardal lleol a dyfeisiau olrhain GPS. Mae gwrychoedd wedi dod yn hafanau gwyllt, gan orlifo a chreu cysgod a chynefin. Mae anifeiliaid yn pori mewn “systemau safana” ac yn cael eu monitro am eu heffaith ar y tir bob adeg o’r flwyddyn. Bellach, mae dolydd blodau gwyllt yn doreithiog drwy’r Parc, ac mae llawer mwy o goed wedi’u plannu, gan feddiannu tua 30% o’r tir erbyn hyn.
Mae llawer mwy o byllau a gwlyptiroedd, ac mae hyn wedi newid y dirwedd yn sylweddol, gan gynnig mwy fyth o fanteision i bawb.
Bellach, mae cymunedau dynol y Parc yn llawer mwy hunangynhaliol, ac erbyn hyn mae bwyd lleol yn cyflenwi 80% o anghenion y gymuned. Mae ysgolion a chanolfannau cymunedol newydd wedi’u hadeiladu, sy’n rhwymo pobl wledig at ei gilydd, ac yn darparu cyfleoedd i’r cenedlaethau iau.
Mae gwneud y newidiadau wedi bod yn her aruthrol i bawb. Gyda chymorth rhai arweinwyr deinamig a chysylltiadau cymunedol cryf, datblygwyd ffordd newydd o fyw. Mae wedi creu amgylchedd llawer mwy iach ac egnïol i fywyd, ac am ddegawdau i ddyfod.
“Oedd, roedd e’n werth e.”