Testun: Tad-cu yn cael gair olaf 

I fy nheulu annwyl

Mae mis bellach ers i Ioan golli’i fywyd. O’r diwedd, deuthum i glirio ei swyddfa a dod o hyd i hyn ar ei ddesg o dan rai papurau newydd. Bu ond y dim iddo gael ei roi yn y bin! Afraid dweud, fe barodd imi wylo, ond fe lanwodd fi hefyd â gobaith a diolchgarwch.

Ta p’un i, rwy’n mynd â Brân am dro nawr (yr unig un a adawodd allan o’r gerdd!). Rwy’n meddwl y byddwch chi i gyd yn ei gwerthfawrogi’r gerdd.

Am unwaith, gadawaf iddo fe gael y gair olaf …

Welwn ni chi cyn bo hir

Mam-gu

*********

Ffagl

Saith yn dringo’r bryn mewn tywyllwch a thawelwch,
Pob un â’i atebion, dymuniadau, pryderon ac edifeirwch.

Heno, fe gyneuwn un ffagl yr un fel symbol o’r hyn a fwriadwn.
Saith o danau preifat ynghyn am bob neges a anfonwn.

Wrth oleuo’r bryniau, mae Siân yn ein rhybuddio
O’u byrhoedledd, ac o’r dwylo sydd wedi’u llunio.

Mae golau Mair yn dathlu natur yn ei hanterth
A chlywn ei chân am ryddid a nawdd – dysgwn ei nodau prydferth.

Mae Dylan yn adeiladu goleudy i’r rhai sy’n brwydro yn y tywyllwch,
Yma cewch loches, os gofynnwch.

Mae Maia’n adeiladu ffwrnais ac mae grymuster
Y tân yn cynhesu ac yn maethu, a’r fflamau’n magu gwytnwch a dewrder.

Mae Dafydd yn cynnau coelcerth
I losgi’r amheuon sy’n ein dal yn ôl.

Mewn adnoddau, mae gennym y nerth
Er inni dybio ein bod ni’n ddiffygiol.

Mae Megan yn tanio angerdd a balchder yn ei phobl a’i chymdogaeth
Lle mae gweithredoedd yn bwysicach na man genedigaeth.

Mae fy fflam fy hun yn crynu wrth gofio’r chwedlau, y geiriau a’r gwaith celfyddydol.
Mae gwersi mewn hen straeon, ond ni allwn fyw yn y gorffennol.

Rwy’n gadael y bryn ac yn troi tuag adre – rwy’n oer a blinedig.
Mae’r esgyrn yn hen ac rwy’i mor lluddedig.

Wrth edrych yn ôl, mi welaf y bryn yn goleuo’r nos yn ddisglair –
saith tân ynghyn mewn un pair.

Awn i fyny mewn tywyllni,
Down i lawr mewn goleuni.

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Cerdyn Post o 2047
E-bost gan Dylan Brychan i Siân Brychan
Llythyr gan Mair Brychan at Dylan Brychan