Gwaith Staff Sefydliadau Bannau Brycheiniog

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull Cenhadol, rydyn ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau.

Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.

Yn ogystal â’n dull cenhadol, credwn fod gennym fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol i genhadaeth y Bannau. Mae hyn yn diffinio gweithgareddau’r dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad cyfan

Cyfraniadau cyffredinol gan staff o Y Bannau

Mae’r canlynol yn diffinio ymrwymiad ein sefydliad i ymgymryd â gweithgareddau trosfwaol a fydd yn cyfrannu at wireddu ein cenadaethau.

 

  1. Byddwn yn defnyddio ein pwerau i ddod â phobl a sefydliadau allweddol ynghyd i ffurfio partneriaethau sy’n canolbwyntio ar gyflawniad, fel y gallant rannu gwybodaeth ac arbenigedd, a defnyddio adnoddau mewn modd cydgysylltiedig ac effeithlon. Mae’r ddogfen hon yn diffinio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithredu er budd y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn parhau i’w cefnogi.
  2. Byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ac ehangder ein partneriaeth yn y maes ymchwil academaidd, gan anelu at ddefnyddio arbenigedd yn y maes hwnnw i fynd i’r afael â phroblemau go iawn y Parc Cenedlaethol. Mae’r bartneriaeth yn y broses o greu grwpiau astudio craidd ar gyfer meysydd pwnc allweddol, megis mawn, ffosffadau a threftadaeth, ac a fydd o gymorth i gyflawni’r cenadaethau. Gall penodau cenhadaeth unigol ganfod meysydd eraill lle mae angen ymchwil pellach i gefnogi cyflawniad.
  3. Byddwn yn gwreiddio egwyddorion, gwerthoedd a chenhadaeth Y Bannau yn holl waith y sefydliad gan gynnwys ein strwythurau penderfynu a ffyrdd o weithio, ein rheolaeth ariannol, ein cyfathrebiadau cyhoeddus a’n heiriolaeth, a’r modd y byddwn yn datblygu pob cynllun a pholisi pellach y gofynnir i’r Parc Cenedlaethol ei gynhyrchu yn ôl statud neu anghenraid.
  4. Byddwn yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, yn awr ac yn y dyfodol, i gyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni’r genhadaeth. Byddwn yn argymell yr holl gyrff hynny sy’n gweithredu o fewn y Parc ac sy’n rhwym i a62(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (1995) i gyflawni’r genhadaeth gan roi sylw dyledus i’n pwrpasau a’n dyletswyddau ni yn eu gweithgaredd nhw.
  5. Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i ymblannu syniadau Y Bannau y tu hwnt i’n ffiniau ni, gan greu meddylfryd o weithredu rhagorol a thrawsnewidiol.

Hinsawdd

Ein rôl yw dod â’r dystiolaeth a’r data ynghyd er mwyn i bob un ohonom ddeall yn well y modd y mae ein gweithredoedd, ein ffyrdd o fyw a’n hymddygiadau o fewn y Parc Cenedlaethol yn achosi newid yn yr hinsawdd. At hynny, gall bob un ohonom dargedu ein hymdrechion i leihau’r defnydd o danwydd ffosil, atafaelu carbon, neu fabwysiadu technolegau newydd drwy’r dulliau mwyaf effeithiol yn y lleoedd mwyaf effeithiol.

Ein rôl hefyd yw ysgogi gweithrediadau, gan ddod â sefydliadau partner, trigolion ac ymwelwyr at ei gilydd i adeiladu dyfodol carbon-isel a chynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol.

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth yr Hinsawdd

Gosod
Byddwn yn gosod datgarboneiddio wrth wraidd holl weithgareddau ein sefydliad - gan gynnwys y rheolaeth o’r tir a’r adeiladau, trafnidiaeth, ynni, caffael, polisïau a gweithdrefnau, yn unol â nod y Sector Cyhoeddus i gyflawni Sero Net yng Nghymru erbyn 2030. Byddwn yn cefnogi ein staff a’n haelodau i fabwysiadu arferion carbon-isel yn y gweithle a’r cartref.
Deall
Byddwn yn gosod datgarboneiddio wrth wraidd holl weithgareddau ein sefydliad - gan gynnwys y rheolaeth o’r tir a’r adeiladau, trafnidiaeth, ynni, caffael, polisïau a gweithdrefnau, yn unol â nod y Sector Cyhoeddus i gyflawni Sero Net yng Nghymru erbyn 2030. Byddwn yn cefnogi ein staff a’n haelodau i fabwysiadu arferion carbon-isel yn y gweithle a’r cartref. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ac yn defnyddio data i ddeall y modd y disgwylir i newid hinsawdd effeithio ar ddyfodol y Parc Cenedlaethol o ran ei amgylchedd, pobl, lleoedd a threftadaeth hanesyddol, fel y gallwn ni ddod at ein gilydd a pharatoi i fod yn gydnerth.
Sero Net
Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr hinsawdd, partneriaid a chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Cyflawni Sero Net, Atafaelu Carbon ac Addasu Hinsawdd ar gyfer y Parc Cenedlaethol, dan gyfarwyddyd yr arferion gorau yn y maes gan gynnwys menter Ras i Sero y Cenhedloedd Unedig
Partner
Byddwn yn cefnogi ac yn adeiladu partneriaethau gyda busnesau, cymunedau, trigolion ac ymwelwyr i ddatblygu a chyflawni prosiectau i weithredu ar newid hinsawdd gan gynnwys mentrau’n ymwneud â thrafnidiaeth leol gynaliadwy, ynni, dal carbon a datrysiadau bwyd. At hynny, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gael atebion sy’n cynhyrchu incwm lleol, yn darparu sgiliau, hyfforddiant a swyddi, ac yn gyrru syniadau a thechnolegau newydd yn eu blaen.
Tystiolaeth
Byddwn yn rhannu tystiolaeth a dadansoddiadau gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd i hysbysu’r rhai sy’n dymuno gweithredu ar newid hinsawdd ac annog a chefnogi’r rhai sy’n ansicr o’r ffordd y gallant wneud gwahaniaeth.

Dŵr

Dŵr yw ffynhonnell bywyd – dyma yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a’r mwyaf bregus.

Mae cymunedau Bannau Brycheiniog wedi rhyngweithio â’n systemau dŵr a’r “dirwedd las” drwy gydol hanes.

Mae pobl Cymru a thu hwnt yn dibynnu ar ein systemau dŵr ar gyfer eu hanghenion corfforol, meddyliol ac adloniadol – mae dŵr yn ein cysylltu
Ein rôl ni yw arwain ffocws newydd ar bwysigrwydd dŵr o fewn y Parc Cenedlaethol, er mwyn i’r dasg o ddiogelu, atgyweirio ac adfer ein systemau dŵr fod wrth galon pob dim a wnawn.

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at y genhadaeth ddŵr

Blaenoriaethu
Byddwn yn blaenoriaethu dŵr a’n systemau dŵr yn ein holl weithgareddau ac yn gweithio gyda’n staff a’n rhanddeiliaid i rannu pwysigrwydd y genhadaeth ddŵr â phawb.
Esiampl dda
Byddwn yn gosod esiampl dda drwy sefydlu Partneriaeth Dalgylch Afon Wysg i arwain adferiad ecolegol llawn yno o ran rheoli ansawdd dŵr, maetholion, diogeledd dŵr, amwynderau, bywyd gwyllt a gwasanaethau ecosystem.
Partneriaethau
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i warchod a gwella ein holl systemau dŵr yn y Parc Cenedlaethol – afonydd, llynnoedd, camlesi, mawndiroedd, corsydd a gwlyptiroedd - ar gyfer eu rôl mewn adfer natur, newid hinsawdd, amddiffyn rhag llifogydd, darparu dŵr a chefnogi llesiant ein cymunedau a’n hymwelwyr.
Cefnogi
Byddwn yn cefnogi cymunedau, cartrefi, busnesau ac ymwelwyr i ailgysylltu â’r “dirwedd las” trwy straeon hanesyddol, diwylliant a daeareg. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector amaeth, ac yn ei gefnogi wrth ymchwilio i ddulliau ac arferion ar gyfer rheoli’r tir sy’n cyfuno’r dasg o gynhyrchu bwyd ac adfer yr ecoleg, a hynny er budd pawb.
Rhannu
Byddwn yn rhannu’r dystiolaeth a’r data fel y gallwn i gyd ddeall yr effaith y mae ein bywydau a’n hymddygiad yn ei chael ar ein dŵr, a’r modd y gallwn ddiogelu ein cyrsiau dŵr a sicrhau y gellir eu mwynhau am flynyddoedd i ddyfod.

Natur

Mae ein hamgylchedd naturiol yn ein cynnal yn gorfforol, yn feddyliol, yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.

Mae’r Bannau yn dirwedd fyw, yn frithwaith o gynefinoedd ac ecosystemau naturiol, lled-naturiol a rheoledig. Mae’n gartref i goetiroedd, mawndiroedd, rhostiroedd, porfa, dolydd a mwy.

Ein rôl yw defnyddio ein sgiliau a’n data i ddeall y cymhlethdod hwn, ac i ddefnyddio’r wybodaeth i weithio mewn partneriaeth â phawb sy’n rheoli neu’n berchen ar dir yn y Parc (gan gynnwys ni ein hunain) er mwyn diogelu, atgyweirio ac adfywio ein cynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau allweddol.

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at y Genhadaeth Natur

Archwilio
Byddwn yn archwilio ac yn sianelu’r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy’n ysgogi newid amgylcheddol er mwyn cefnogi ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau i sefydlu ffyrdd newydd o weithio sy’n cefnogi cymunedau ffyniannus ac yn atgyweirio ac yn adfer ein hecosystemau hanfodol.
Gosod
Bydd adfer byd natur a gwarchod ein tirwedd byw yn rhan annatod o’n holl weithgareddau yn y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn cynyddu ein rôl i warchod a diogelu fel ein bod yn eiriolwyr ar gyfer adferiad natur ym mhopeth a wnawn
Esiampl dda
Byddwn yn gosod esiampl trwy roi blaenoriaeth i warchod ac adfer ein tir ein hunain ar gyfer adferiad natur a thargedu ein cefnogaeth i rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau gwarchodedig a flaenoriaethwyd o fewn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys nodweddion SoDdGA ac ACA
Data
Byddwn yn defnyddio ein data ni ynghyd â data ein partneriaid ac ymchwilwyr i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur, gan flaenoriaethu rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau’r Parc Cenedlaethol er mwyn diogelu ac adfer, a monitro cynnydd.
Partneriaid
Byddwn yn sefydlu partneriaethau gyda thirfeddianwyr a’r sector amaethyddol i archwilio a sefydlu dulliau adfywiol ar gyfer ffermio a rheoli tir sydd hefyd yn cefnogi ein heconomi wledig ac yn ein paratoi ni ar gyfer y dyfodol
Strategaeth
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i rannu dulliau a strategaethau sy’n cynnig yr arferion gorau, gan gefnogi pawb i ddeall y ffordd y gallant gyfrannu’n weithredol at gadwraeth ac adferiad natur, gan gynnwys rheoli rhywogaethau estron goresgynnol.

Pobl

Ni all pobl na natur ffynnu heb ei gilydd – mae pob un ohonon ni’n rhan o dirwedd gymhleth y Parc Cenedlaethol..

Mae pobl wedi ffurfio tirwedd ac amgylchedd y Bannau ers miloedd o flynyddoedd ac yn ogystal â’i greu a’i warchod, mae weithiau wedi’i ddifrodi.
Ein rôl ni yw cysylltu neu ailgysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol a gweithio mewn partneriaeth fel y gallwn adfer cydbwysedd o fewn y Parc rhwng natur ar yr un llaw a chymunedau a phobl iach a llewyrchus ar y llaw arall.

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth y Bobl

Gwreiddio
Byddwn yn gwreiddio llesiant ym mhopeth a wnawn - byddwn yn blaenoriaethu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn yn sicrhau bod ein polisïau a’n gweithdrefnau yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau o gynaliadwyedd, cynhwysiant a chefnogi’r economi leol.
Estyn allan
Byddwn yn estyn allan at bobl i ddeall y ffordd y maen nhw’n cysylltu neu ddim yn cysylltu â’r Parc Cenedlaethol ac yn dysgu’r modd y gallwn ailadeiladu’r cysylltiad hwnnw. Byddwn yn ymdrechu i gael gwared ar y rhwystrau cymdeithasol a chorfforol i gyfranogiad.
Cefnogaeth
Byddwn yn cefnogi’r economi leol trwy weithio i gefnogi mentrau cymdeithasol o’r ardal, yn caffael y cynnyrch a’r gwasanaethau a brynwn o’r cyffiniau, ac yn archwilio modelau ar gyfer cynhyrchu incwm a fydd yn cefnogi cymunedau, amaethyddiaeth a byd natur i ffynnu, e.e. taliad am wasanaethau ecosystem
Cryfhau
Byddwn yn cryfhau ein cysylltiad â’n cymunedau, tirfeddianwyr/porwyr, busnesau, trigolion ac ymwelwyr trwy fod yn fwy gweladwy, gan gynnig cymorth, rhannu ein harbenigedd a chwilio am ffyrdd o gydweithio.
Dathlu
Byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant Cymreig
Mynediad
Bydd y modd yr ydym yn gwneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bawb, yn batrwm i eraill. Byddwn yn gweithio gyda’r Fforwm Mynediad Lleol i weithredu ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
Rheoli
Byddwn yn cyd-ddylunio Strategaeth Ymwelwyr Cynaliadwy gan weithio gydag ystod eang o randdeiliaid gyda'r nod o sicrhau bod y Parc yn cyflawni ei amcan i fod yn gyrchfan enghreifftiol sy'n rheoli anghenion ymwelwyr ag anghenion yr amgylchedd.

Lle

“Cartref yw lle mae’r galon” – mae gan bob un ohonom gysylltiad cryf â lleoedd ac mae pob man yn arbennig gyda chryfderau, adnoddau a nodweddion unigryw.

Rydyn ni’n cydnabod bod pob lle yn wahanol a thrwy ddeall y lle, gallwn gynorthwyo’r bobl yno i ffynnu ac i gefnogi eu hamgylchedd naturiol.

Ein rôl felly yw defnyddio’r data, y sgiliau a’r partneriaethau i gysylltu â phobl yn eu lleoedd a gweithio gyda nhw i gynllunio, gweithredu a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Mae ein cyfraniad at y “genhadaeth lle” i’w gweld yn y pum maes allweddol canlynol:

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth Lle Bannau Brycheiniog commits to the following contributions towards the Place mission

Deall
Byddwn yn defnyddio ein data a’n tystiolaeth i fapio a deall y lleoedd yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli, fel y gallwn gynorthwyo’r rhai sy’n gweithio gyda ni i reoli’r lleoedd hyn ar gyfer pobl, treftadaeth ac adferiad byd natur.
Datblygu
Byddwn yn gweithio gyda chymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer lleoedd sy’n adeiladu ar nodweddion arbennig eu hardal, er mwyn gwella ansawdd bywyd, cefnogi llesiant economaidd a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.
Sicrhau
Byddwn yn sicrhau bod mannau arbennig y Parc Cenedlaethol - ein Geoparc, Awyr Dywyll, Safle Treftadaeth y Byd, Canolfannau Ymwelwyr, mannau o bwys ar gyfer diwylliant, treftadaeth, hamdden ac amgylcheddau gwarchodedig - yn cael eu rheoli i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn enghreifftiau o natur a phobl yn cysylltu ac yn ffynnu gyda’i gilydd.
Cysylltiadau
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i uno lleoedd a gwneud cysylltiadau o fewn a thu hwnt i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Byddwn yn mynd â rhyfeddod y Parc Cenedlaethol at y bobl a byddwn yn helpu ymwelwyr, busnesau a thrigolion i ddeall, dathlu a gwerthfawrogi nodweddion a lleoedd arbennig y Parc Cenedlaethol.
Cefnogi
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi’r economi leol ac yn datblygu trafnidiaeth gynaliadwy a fydd o gymorth i greu lleoedd gwydn a ffyniannus