Mae’n cwmpasu 515 milltir sgwâr [sy’n] cynnwys Bannau Brycheiniog, Mynyddoedd Du Bannau Sir Gâr [Y Mynydd Du], ac mae ei olygfeydd amrywiol afonydd rhostiroedd, llethrau mynydd dyffrynnoedd coediog ymhlith gorau yn wlad.
Gorchymyn Dynodi 1957

Dynodwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957. Yn ôl y gorchymyn sy’n rhoddi statws Parc Cenedlaethol, pwrpas y dynodiad yw gwarchod harddwch naturiol yr ardal a hyrwyddo’i fwynhad gan y cyhoedd.

Mae deall cyflwr ein harddwch naturiol felly yn flaenoriaeth drosfwaol ac yn un sydd wrth wraidd ein holl weithgareddau eraill Rydym wedi diffinio harddwch naturiol yn flaenorol fel rhywbeth sy’n cwmpasu ystod eang o ffactorau ac yn cyfuno ansawdd y dirwedd ag amrywiaeth ecolegol a chysylltiadau diwylliannol (gweler hefyd atodiad 2). Er bod profiad ac ystyr harddwch naturiol yn dibynnu ar ymatebion unigol, rydym yn ei ddeall yn fwyaf clir trwy graffu ar ansawdd y dirwedd. Mae hynny’n ddealladwy, gan mai ansawdd eithriadol ein tirwedd yw’r hyn yr ydym yn enwog amdano; caiff ei werthfawrogi gan filiynau o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae’r nodwedd hanfodol hon o’r Parc Cenedlaethol yn agored i newid. Er bod ein tirwedd yn ymddangos yn ddigyfnewid, mae’n bwysig deall nad yw’n endid statig. Mae ein tirwedd yn gynnyrch milenia o brosesau daearegol, geomorffolegol a dynol, prosesau o newid sy’n parhau hyd heddiw ar wahanol gyflymder. Mae’r effeithiau hyn eisoes yn gadael eu hôl ar ein tirwedd.

Canfu asesiad a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Reading yn 2021 mai dim ond 5 o’r 16 math o dirwedd a arddangosir yn y Parc Cenedlaethol sydd mewn cyflwr Da fel y mae’r tabl isod yn ei ddangos. Mae’r asesiad hwn yn waith sy’n mynd rhagddo a chaiff gwaith pellach ei wneud i’w alinio â mentrau blaenorol y Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â’u mentrau i ddyfod.

Cyflwr Math o Dirwedd

Da

Ffermdiroedd Bugeiliol Hynafol

Gwlyptiroedd Glan Llyn

Bryniau a Llethrau Gweundir

Llwyfandiroedd

Llociau Bugeiliol yr Ucheldir

Cymedrol

Bryniau a Llethrau Calchfaen

Bryniau a Llethrau Creigiog

Tir Amaeth Sefydledig

Llethrau a Chymoedd Coediog

Gwael

Iseldiroedd Ffermio Hynafol

Porfeydd Ucheldir Sefydledig

Tiroedd amaeth pentrefol

Gwael Iawn

Llwyfandir Gweundir Coediog

Llethrau Gweundir Coediog

Llociau Bugeiliol Coediog Dolydd

Afonydd

Harddwch Naturiol

Yn gyffredinol, nid oedd canfyddiadau’r asesiad yn syndod.

Mae rhai mathau o dirwedd yn meddu ar ymyriadau dynol diweddar megis conwydd a blannwyd ar ôl y rhyfel (llethrau gweundir coediog), neu arferion amaethyddol a gymhellwyd gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) (e.e. tiroedd amaeth pentrefol). Mae’r tirweddau hyn mewn cyflwr cyffredinol waeth na’r rhai lle mae effaith gweithgarwch dynol yn isel a lle mae nifer y cynefinoedd lled-naturiol yn parhau’n uchel; er enghraifft, mathau o dirweddau ucheldirol (bryniau a llethrau rhostir) (Griffiths a Warnock 2021).

Mae amrywiaeth y tirweddau ar draws y Parc Cenedlaethol yn gofyn am wahanol opsiynau ar gyfer eu rheoli ac am weithrediadau sy’n briodol i’w cymeriad. Fodd bynnag, mae rhai bygythiadau cyffredin i’w hintegredd yn bodoli1. Gellir eu crynhoi fel a ganlyn:-

  • Newid yn yr Hinsawdd (prinder dŵr / perygl llifogydd / colledion bywyd gwyllt / llai o ddiogeledd bwyd)
  • Newid yn y fioamrywiaeth (colledion cynefinoedd / colledion rhywogaethau / goresgyniad rhywogaethau / darnio cynefinoedd)
  • Newid mewn arferion ffermio (colli ffermwyr o’r gymuned / colli sgiliau / costau cynyddol a/neu golli cynhyrchiant sy’n cymell arferion dwys)
  • Newid o ran proffil ynni (costau tanwydd cynyddol / llai o gyflenwadau olew / allyriadau carbon / sbardun ar gyfer ynni adnewyddadwy)
  • Newid yn y boblogaeth (mewnfudo / poblogaeth sy’n heneiddio / newid o ran anghenion tai / seilwaith cyfyngedig)
  • Anghenion trafnidiaeth (allyriadau carbon / costau tanwydd / cyfyngiadau o ran trafnidiaeth wledig)
  • Globaleiddio (colli traddodiadau diwylliant / cynyddu gwastraff / gorddefnyddio)