Ein Nodweddion Arbennig

Mae gan bob Parc Cenedlaethol gymeriad unigryw, a rôl allweddol unrhyw Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol yw diffinio hanfod y lle sy’n ei wneud yn arbennig ac yn apelgar, ac yn deilwng o gael ei warchod. Gelwir y rhain yn “nodweddion arbennig” y Parc ac maent yn allweddol i’r dynodiad.

Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddeg nodwedd arbennig ddiffiniedig sydd wedi’u grwpio o amgylch tirwedd, cymuned, profiadau a bywyd gwyllt. Gan fod y nodweddion arbennig hyn yn aml yn cael eu teimlo yn hytrach na’u prosesu’n rhesymegol trwy ddatganiadau polisi, rydym wedi gofyn i feirdd ac artistiaid lleol ymateb i’r nodweddion arbennig, er mwyn helpu i gyfleu’r ymdeimlad emosiynol o’r hyn sy’n gwneud y Parc yn arbennig.

Mae pob Parc Cenedlaethol yn y DU, ac yn wir ar draws y byd, yn cael eu gwerthfawrogi am “harddwch” eu tirwedd. Er bod ‘Prydferthwch Naturiol’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n aml wrth sôn am Barciau Cenedlaethol a’u tirweddau, yn aml fe’i dehonglir yn nhermau darluniadol yn unig, sydd yn ei dro yn rhoi’r argraff gyffredinol fod Parciau Cenedlaethol yn bodoli i warchod y ffordd y mae ardal yn edrych, yn hytrach na’u swyddogaethau sylfaenol eraill.

Mae gan Y Bannau ddiffiniad llawer ehangach o harddwch naturiol (gweler y blwch drosodd); un sy’n cwmpasu ystod eang o elfennau megis presenoldeb bywyd gwyllt, dimensiynau diwylliannol a threftadaeth ac elfennau canfyddiadol nad ydynt yn hawdd eu rhoi mewn geiriau. Rydym hefyd yn nodi nad yw ein tirwedd yn “naturiol” yng ngwir ystyr y gair. Mae’r lle hwn wedi’i siapio a’i feithrin gan bobl dros filoedd o flynyddoedd ac wedi arwain at dirwedd sy’n ddyledus i nifer o ddylanwadau dynol dros filoedd o flynyddoedd, megis clirio coedwigoedd, amgáu tir, amaethu, draenio, coedwigaeth, arferion crefyddol, aneddiadau, a thynnu dŵr.

Mae ein nodweddion arbennig wedi’u diffinio i roi llais i sawl elfen o’n Harddwch Naturiol. Rydyn ni’n diffinio’r rhain yma i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sy’n gwneud y Parc mor arbennig ac yn deilwng o warchodaeth genedlaethol.

Harddwch Naturiol

Mae “harddwch naturiol”, pan gaiff ei ddefnyddio’n gyffredinol ac yn benodol fel yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a deddfwriaeth arall, yn gysyniad cymhleth ac amlochrog sy’n ymwneud â thirwedd yn ei hystyr ehangaf.

Mae’n ymwneud yn bennaf â thirweddau gwledig sydd ddim wedi’u difetha ac er nad ydynt o reidrwydd yn eang, maent yn rhydd i raddau helaeth o effeithiau datblygiad andwyol neu drefol. Er bod y ddeddfwriaeth yn nodi’n glir ei bod yn cynnwys fflora, ffawna, nodweddion daearegol a ffisiograffig, mae’n berthnasol nid yn unig i dirweddau lle mae natur yn tra-arglwyddiaethu ond hefyd i’r rhai sydd wedi’u llunio a’u meithrin gan weithgareddau dynol.

Mae pobl yn dirnad ac yn gwerthfawrogi “harddwch naturiol” trwy eu holl synhwyrau, gan ymateb i lawer o wahanol agweddau’r dirwedd, gan gynnwys ei gymeriad unigryw, ei nodweddion esthetig, presenoldeb ei fywyd gwyllt, ei ddimensiynau diwylliannol a hanesyddol a’i nodweddion canfyddiadol megis yr ymdeimlad o fod yn llonydd, yn bellennig ac yn rhydd. Mae’r modd y mae pobl yn dirnad “harddwch naturiol” yn cael ei lywio gan nodweddion personol, cefndiroedd diwylliannol a diddordebau unigol. Mae “harddwch naturiol” yn digwydd, i wahanol raddau, mewn llawer o dirweddau, ond nid ymhob tirwedd o bell ffordd. Fodd bynnag, gellir barnu bod rhai lleoedd yn arddangos “harddwch naturiol” i raddau eithriadol ac o ganlyniad, gellir eu cydnabod fel mannau sy’n haeddu cael eu gwarchod ar lefel genedlaethol.

Tirweddau Arbennig

Harddwch Naturiol
Godidowgrwydd y Parc a’i harddwch naturiol eithriadol. Fe welir godidowgrwydd y Parc a’i harddwch naturiol eithriadol ar draws amrywiaeth o dirweddau sydd wedi’u cysylltu mewn cytgord, gan gynnwys ceunentydd a rhaeadrau ysblennydd, daeareg carst glasurol gyda chalchbalmant, ogofâu a llyncdyllau, tirffurfiau rhewlifol cyferbyniol fel clogwyni a dyffrynnoedd llydan a gerfiwyd o hen dywodfaen coch a bryniau amlwg sy’n cynnig golygfeydd am filltiroedd ym mhob cyfeiriad. Tirwedd sy’n rhoi’r ymdeimlad o ddyfnder amser ac amseroldeb
Patrymau Byw
Patrymau , lliwiau a gweadau cyferbyniol - “clytwaith” byw o batrymau, lliwiau a gweadau cyferbyniol yn cynnwys tirweddau amaethyddol cymen, ucheldiroedd agored, llynnoedd ac afonydd troellog gydag ambell goedlan, lonydd gwledig, gwrychoedd, waliau cerrig ac aneddiadau gwasgaredig wedi’u grwpio o amgylch tirweddau, cymunedau, profiadau a bywyd gwyllt.
Tirweddau Garw
Mae’r tirweddau hyn yn arw, yn anghysbell ac yn heriol yng nghyd-destun y DU. Maent yn dirweddau garw, anghysbell a heriol o ran eu daearyddiaeth.

Cymunedau Arbennig

Ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol
Ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol - sef “Cymreictod” - a nodweddir gan yr iaith Gymraeg frodorol, cysylltiadau crefyddol ac ysbrydol, arferion a digwyddiadau unigryw, bwydydd a chrefftau traddodiadol, trefi a phentrefi hanesyddol sydd ddim wedi’u difetha ryw lawer, ffermydd teuluol, a pharhad y sgiliau traddodiadol a ddatblygwyd gan drigolion lleol i fyw ac ennill bywoliaeth yma, fel arferion tir comin a phori.
Ymdeimlad glòs o gymuned
Ymdeimlad glòs o gymuned lle mae trefi a phentrefi bychain, bugeiliol yn gymharol ddiogel, yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn parhau i feddu ar ysbryd o gydweithrediad

Profiadau Arbennig

Pleserus a hygyrch
Heddwch, llonyddwch a thywyllwch. Dyma Barc Cenedlaethol sy’n cynnig awyr dywyll yn y nos, ynghyd â heddwch a llonyddwch gyda chyfleoedd am fwynhad didramgwydd, ysbrydoliaeth, ymlaciad ac adnewyddiad ysbrydol
Seiniau, golygfeydd, arogleuon a chwaeth
Dyma Barc Cenedlaethol sy’n cynnig yr ymdeimlad o fywiogrwydd a llesiant a ddaw wrth fwynhau awyr iach, dŵr glân, cefn gwlad, tir agored a bwydydd a gynhyrchir yn lleol.
Ymdeimlad o ddarganfod
Dyma Barc Cenedlaethol sy’n cynnig yr ymdeimlad o ddarganfyddiad lle mae pobl yn archwilio cyfrinachau cudd a straeon fel hanesion achyddol, safleoedd defodol cynhanesyddol, olion aneddiadau gwledig canoloesol, safleoedd diwydiannol cynnar, mythau a chwedlau lleol a thrysorau daearegol o’r oes cyn cof.
Heddwch, llonyddwch a thywyllwch
Dyma Barc Cenedlaethol sy’n cynnig awyr dywyll yn y nos, ynghyd a heddwch a llonyddwch gyda chyfleoedd am fwynhad didramgwydd, ysbrydoliaeth, ymlaciad ac adnewyddiad ysbrydol.

Natur Arbennig

Mosaig o amrywiaeth
Mae’r ddaeareg a’r hinsawdd yn amrywio’n fawr ar draws y Parc gan greu tirwedd sy’n glytwaith cywrain ac yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth. Mae’r Parc yn gartref i rostiroedd, glaswelltiroedd a choetiroedd, gydag ucheldiroedd ac iseldiroedd, llynnoedd naturiol a chynefinoedd glannau afon. Mae’r Parc yn cynnwys calchbalmant a gorgorsydd o bwys rhyngwladol a chenedlaethol. Mae nifer o rywogaethau sydd mewn perygl wedi goroesi yn y Parc, ac i rai ohonynt, dyma fan pellaf eu cynefin naturiol.
Tirwedd Fyw
Mae toreth o fywyd gwyllt yn ffynnu mewn cynefinoedd lled-naturiol y mae pobl wedi byw ynddynt a’u siapio ers milenia. Mae’r dirwedd yn frith o wrychoedd hynafol llawn bywyd ac maent yn amgáu dolydd gwair sy’n gyforiog o fywyd gwyllt. At hynny, mae coetiroedd hynafol yn gorchuddio rhai dyffrynnoedd sy’n meddu ar ochrau serth. Mae coed hynafol yn addurno’r dirwedd ac yn dwyn creithiau a achoswyd gan ganrifoedd o ddibyniaeth ar eu hadnoddau. Mae’r ucheldiroedd lle mae’r grug yn dominyddu, yn cael eu cynnal drwy bori ceffylau, defaid a gwartheg ac maent yn dyst i’r berthynas agos rhwng bioamrywiaeth a ffermio.