Nis oes tir arafach
na chyflymach; ’does
dim pridd disymud lletach,
fflam, heb fflach o ymffrost
er pob goncwest, llam a charlam,
yn gyson ei guriad, er heb galon –
ar risgl y ddear, ni a’n cymgogion
gorfoledd craith, gorfoledd oedran,
gorfoledd carnedd Pen y Fan.

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Ar Bnawn o Fai ar Ben y Fan
Blaen y Glyn
Gwyfynod y Bannau