Cenhadaeth

Lle

Nodau
Lleoedd llewyrchus, hardd, llewyrchus a chynaliadwy, yn cael eu dathlu am eu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol, yn awr ac am byth
Pwyswch eich bysedd yn dynn ar tywodfaen cen hwn. Cafodd maen, glaswellt a’r pridd eu gosod, eu llunio a’u hail-lunio yma. Mewn amrantiad, gallwch weld yn glir holl oesoedd maen yn ochrau’i gilydd.
Raymond Williams
Awdur - People of the Black Mountains

Cydweithio ar gyfer dyfodol gwell

Canolbwyntiodd y gweithredu cydweithredol ar ystod o feysydd gofodol er mwyn cydgynhyrchu ymatebion i’r argyfyngau ym myd natur, yr hinsawdd a’r economi.
Lleoedd Gwydn
Mae’r lleoedd hyn yn gynaliadwy yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol i’r dyfodol, ac yn darparu mynediad da at dai, cyflogaeth a gwasanaethau i ddiwallu anghenion y gymuned. Maen nhw’n llai dibynnol ar gadwyni cyflenwi allanol am hanfodion yn sgil y cynnydd yng nghynnyrch ynni adnewyddadwy, cyflenwad bwyd lleol a chyfleoedd ar gyfer perchnogaeth gymunedol.
Lleoedd Llewyrchus
Mae’r lleoedd hyn wedi cynyddu’u cyfran o’r cyfoeth cymunedol a gynhyrchir yn yr economi leol trwy ddatblygu’r economi sylfaenol, mentrau cymdeithasol a’r economi werdd
Lleoedd Ysbrydoelig
Mae’r lleoedd hyn yn adeiladu ar rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol a’n dynodiadau rhyngwladol sy’n dathlu diwylliant, treftadaeth, yr amgylchedd naturiol a’r Gymraeg.
Lleoedd Wedi'u Cynllunio'n Dda
Mae pawb yn teimlo cysylltiad â’u lle ac mae hyn o fudd i iechyd a llesiant pobl. Mae ein lleoedd yn darparu amgylchedd adeiledig o ansawdd uchel sy’n rhoi man diogel i’n preswylwyr ac ymwelwyr gwrdd, byw, gweithio, chwarae a chysylltu â’i gilydd. Gall ein busnesau ffynnu trwy gysylltu â phobl, gwasanaethau a seilwaith.
Lleoedd Arloesol
Mae’r lleoedd hyn yn meddu ar rwydweithiau cysylltiedig o ddinasyddion sy’n cydweithio’n arloesol â busnesau a sefydliadau allweddol er mwyn cynnig atebion i heriau sy’n seiliedig ar le
Lleoedd Hanesyddol
Mae amgylchedd diwylliannol a hanesyddol y lleoedd hyn mewn cyflwr da, yn cael ei werthfawrogi, ei ddathlu a’i ddeall yn well gan drigolion ac ymwelwyr. Mae synergedd rhwng tirwedd y Parc Cenedlaethol a’n parciau, ein gerddi hanesyddol, ein ffermydd hanesyddol, a’n bythynnod gwledig, ac mae hynny’n sail i’n dealltwriaeth a’n rheolaeth o Le.
Lleoedd Canolog
Mae ein trefi marchnad hanesyddol yn cael eu hadfywio i fod yn ganolfannau bywiog a hyfyw ar gyfer y dyfodol.
Lleoedd Iach
Mae’r lleoedd hyn yn rhoi’r modd inni gysylltu â’n harddwch naturiol i fod yn well, yn iach ac yn hapus. Rydyn ni’n gwasanaethu ac yn cefnogi ystod o opsiynau “gwyrdd” a chymdeithasol ar gyfer ein cymuned a thu hwnt.
Lleoedd Hardd
Caiff ein harddwch naturiol ei warchod a lle bo angen ei adfer, fel y gall pawb werthfawrogi a charu ein tirwedd fawreddog.
Lleoedd Sy'n Cysylltu â Natur
Yn y lleoedd hyn, mae modd cysylltu’n feunyddiol â byd sy’n gyforiog o natur ac sy’n cael ei werthfawrogi

Ein Lleoedd ni

Mae lleoedd ym Mannau Brycheiniog yn amrywio o gadwyni mynyddoedd i bentrefi bychain. Maen nhw’n gartrefi ac yn gymunedau, yn ecosystemau helaeth sy’n darparu dŵr neu aer glân y tu hwnt i’w ffiniau, ac yn rhwydweithiau ffyrdd sy’n cysylltu pobl a lleoedd. Mae lleoedd yn siapio ein hunaniaeth, ein gweithrediadau a’n teimladau. Maen nhw’n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Yng nghyd-destun Y Bannau, gellir diffinio ein lleoedd yn fras o amgylch pedwar grŵp allweddol. Mae rhai o’r grwpiau hyn yn meddu ar bartneriaethau hirsefydlog, ac mae llawer o’r rhain wedi cyfrannu eu haddewidion eu hunain i gyflawni Cenhadaeth y Bannau a chewch ragor o fanylion yn y bennod nesaf ar Bartneriaid. Mewn meysydd eraill, mae cyfleoedd i ffurfio partneriaethau newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y modd y bydd y rhain yn datblygu dros oes y Cynllun hwn.
Tirweddau
Ardaloedd gofodol eang sy’n gweithio gyda’i gilydd i greu ein harddwch naturiol, ein hamgylchedd hanesyddol a’n hecosystemau gweithredol. Gall y tirweddau hyn fod yn seiliedig ar ucheldir fel Partneriaeth y Mynydd Du (gweler tud x), neu ddalgylch afon fel Partneriaeth Dalgylch Wysg (gweler tud x). Rydyn ni’n canolbwyntio ar y lleoedd hyn oherwydd y cysylltiadau hanfodol rhwng pobl a’r amgylchedd, y dreftadaeth ddiwylliannol a natur gyda’r nod o reoli’r rhyngweithiadau hyn er budd pawb.
Trefi a Phentrefi
Dyma’r aneddiadau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Gallai’r rhain fod yn drefi fel Aberhonddu neu’n gymunedau ffermio llai a mwy gwasgaredig fel Llanddeusant. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y lleoedd hyn oherwydd y bygythiadau sylfaenol sy’n wynebu cymunedau gwledig, gyda’r nod o sicrhau y gall y cymunedau hyn ffynnu am genedlaethau i ddyfod.
Lleoedd Pot Mêl
Mae’r rhain yn lleoedd y mae pobl wrth eu boddau’n ymweld â nhw. Mae gan y lleoedd hyn rai rhinweddau arbennig sy’n eu gwneud yn ddeniadol ond gallant arwain at lefelau niweidiol o or-dwristiaeth – lleoedd fel Bro’r Sgydau. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y lleoedd hyn oherwydd yr angen i reoli effeithiau negyddol yr ymwelwyr, a’u troi yn fanteision cadarnhaol i gymunedau a’r economi leol ac, ar yr un pryd, yn brofiadau cadarnhaol i ymwelwyr.
Cordiorau Trafnidiaeth
Mae’r Parc yn gartref i rai coridorau trafnidiaeth allweddol sydd yn draddodiadol wedi bod yn fodd i symud ceir preifat o A i B. Ein ffocws ar y lleoedd hyn yw deall y modd y gall atebion trafnidiaeth gynaliadwy helpu i gefnogi cymunedau, ymwelwyr a’r economi leol yn ogystal â’r trawsnewidiad i sero net.

Cyfannol Cynlluniau Lle

Mae’r genhadaeth hon yn canolbwyntio ar gyd-greu a chyflwyno Cynlluniau Lle Cyfannol gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol.

Mae Cynllun Lle yn gydweithrediad rhwng cymunedau lleol a sefydliadau statudol, wrth iddynt gyd-greu gweledigaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer y dyfodol, ynghyd â chynllun gweithredu. Bydd yr union feysydd ffocws ac ymyrraeth yn seiliedig ar ddealltwriaeth o faterion a chyfleoedd y lleoliadau unigol, ond gallent gynnwys, er enghraifft, gweithgaredd yn ymwneud â

  • Diogeledd bwyd yn y dyfodol, e.e. creu cadwyni cyflenwi bwyd lleol, newidiadau mewn defnydd tir.
  • Sgiliau a swyddi yn y dyfodol, e.e. canfod anghenion hyfforddi ar sgiliau i feithrin gwytnwch cymunedol.
  • Cysylltu â natur fel rhan o ddarpariaeth iechyd ataliol a gwella mynediad i fannau gwyrdd naturiol.
  • Twristiaeth gynaliadwy, e.e. creu mynediad cynaliadwy i dwristiaeth yn yr ardaloedd dan bwysau.
  • Lliniaru ac addasu’r hinsawdd, e.e. cynllunio ynni cymunedol.
  • Gwella a gwarchod yr amgylchedd adeiledig a’i dreftadaeth.
  • Cefnogi’r economi leol a mentrau cymdeithasol.
  • Cydlyniant a llesiant cymunedol.
  • Trafnidiaeth gynaliadwy, rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan.
  • Creu Canol Trefi’r Dyfodol
Pwyswch eich bysedd yn dynn ar tywodfaen cen hwn. Cafodd maen, glaswellt a’r pridd eu gosod, eu llunio a’u hail-lunio yma. Mewn amrantiad, gallwch weld yn glir holl oesoedd maen yn ochrau’i gilydd.
Trosiad ddyfyniad gan 
Raymond Williams
awdur People of the Black Mountains

Mae’r Parc Cenedlaethol yn dirwedd ddynodedig. Mae’n lle sydd wedi’i warchod oherwydd ei ansawdd golygfaol a’i brydferthwch cynhenid, ac mae’n ymgyffwrdd â’r teimladau dwfn hynny sydd gan bobl tuag at natur a harddwch naturiol.

Mae ein dynodiad yn deillio o gyfnod yn ein hanes lle’r oedd mynediad i dirweddau o’r fath yn anghyfartal ac yn rhanedig. Rhoddodd mudiad y Parciau Cenedlaethol yn y 1940au yr hawl i’r genedl gyrchu’r lleoedd hyn ar gyfer eu y buddion iechyd a llesiant, buddion yr oedd eu hangen yn ddirfawr ar fyd oedd newydd brofi arswyd yr Ail Ryfel Byd.
Mewn byd ôl-COVID, rydym yn cydnabod bod angen y cysylltiadau hyn yn awr yn fwy nag erioed, ond yn sgil yr unfed ganrif ar hugain, fe wynebodd y Parciau Cenedlaethol gyfres o anghenion a gofynion dybryd eraill. Rôl y tirweddau hyn yn awr yw cefnogi’r dasg o adfer byd natur a dal carbon mewn ffyrdd na all lleoliadau trefol mo’u cyflawni. Gwnawn hyn er budd cenedlaethau’r dyfodol yn ein rôl fel adnodd i’r genedl. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r Parc Cenedlaethol weithio’n galetach ac yn gallach fel lle, er mwyn cysylltu pobl a natur i sicrhau bod y ddau yn ffynnu mewn ffordd sydd o fudd i’r ddwy ochr, yn awr ac am byth.

Y cysyniad o Le yw angor ein cenadaethau, a dyna sy’n asio’r gwaith hwn ynghyd. Ein hymdriniaeth o Le sy’n peri inni weithio gyda’n gilydd i roi’r atebion ar waith, i ysgogi’r newid, ac i adeiladu dyfodol ar gyfer ein hinsawdd, dŵr, natur a phobl. Rydyn ni’n gweithio gyda’r bobl a’r asiantaethau sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn y lleoedd hyn, i wahanol raddau, er mwyn pennu’r heriau allweddol a chydweithio i ddod o hyd i’r atebion sy’n gweithio ar lawr gwlad. Wrth wneud hyn, rydyn ni’n ceisio mynd at wraidd yr hyn sy’n gwneud lleoedd yn fannau gwych i weithio, byw a chwarae ynddynt trwy ddarparu gwasanaethau ecosystem megis glanhau’r aer a’r dŵr, a chloi’r carbon.

Rydyn ni wedi dewis datblygu’r genhadaeth hon trwy gynllunio lleoedd cyfannol gan fod hyn yn ymgorffori’r egwyddorion arweiniol y mae’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn eu harddel ar gyfer tirweddau gwarchodedig fel Bannau Brycheiniog – sef, rheoli lleoedd gyda’r bobl a thrwy’r bobl, ac yn bennaf ar gyfer a chan y bobl.
Rydyn ni’n dathlu’r cynllunio ar y lefel leol hon fel proses o rymuso, wrth inni ddosbarthu awdurdod o’r gweithredwyr statudol i bobl y Parc Cenedlaethol.
Trwy’r gweithredu hwn y mae esgor ar arloesedd a chysylltiadau. Am hynny, mae’r uchelgais i ymgorffori’r broses o gynllunio lleoedd ar wahanol raddfeydd, mewn gwahanol fannau, yn hollbwysig i gyflawni pob un o’n Cenadaethau ni.

Trwy’r cysylltiadau hyn, rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith gwydn o leoedd llawn gobaith, yn barod i gwrdd â heriau’r unfed ganrif ar hugain

 

Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i'r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth Lle

Deall
Byddwn yn defnyddio ein data a’n tystiolaeth i fapio a deall y lleoedd yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli, fel y gallwn gynorthwyo’r rhai sy’n gweithio gyda ni i reoli’r lleoedd hyn ar gyfer pobl, treftadaeth ac adferiad byd natur.
Datblygu
Byddwn yn gweithio gyda chymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer lleoedd sy’n adeiladu ar nodweddion arbennig eu hardal, er mwyn gwella ansawdd bywyd, cefnogi llesiant economaidd a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.
Sicrhau
Byddwn yn sicrhau bod mannau arbennig y Parc Cenedlaethol - ein Geoparc, Awyr Dywyll, Safle Treftadaeth y Byd, Canolfannau Ymwelwyr, mannau o bwys ar gyfer diwylliant, treftadaeth, hamdden ac amgylcheddau gwarchodedig - yn cael eu rheoli i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn enghreifftiau o natur a phobl yn cysylltu ac yn ffynnu gyda’i gilydd.
Cysylltiadau
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i uno lleoedd a gwneud cysylltiadau o fewn a thu hwnt i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Byddwn yn mynd â rhyfeddod y Parc Cenedlaethol at y bobl a byddwn yn helpu ymwelwyr, busnesau a thrigolion i ddeall, dathlu a gwerthfawrogi nodweddion a lleoedd arbennig y Parc Cenedlaethol.
Cefnogi
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi’r economi leol ac yn datblygu trafnidiaeth gynaliadwy a fydd o gymorth i greu lleoedd gwydn a ffyniannus

Lleisiau Lle

Mae Lleisiau Brycheiniog yn gyfres o straeon creadigol, cerddi, caneuon, a chardiau post gan bobl Brycheiniog. Ymgollwch yn eu straeon, eu gwerthoedd a’u hangerdd dros Fannau Brycheiniog.
Email from Mair Brychan
Lle