Sustainable Transport Partnership

Helen Roderick

Rheolwr Rhanddeiliaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n yn edrych ar ffyrdd o wneud teithio o amgylch Bannau Brycheiniog yn fwy
cynaliadwy.

Fel Parc Cenedlaethol, rydyn ni’n rasio i gyrraedd sero net erbyn 2030, ac mae trafnidiaeth yn achosi cyfran fawr o’n hallyriadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni greu Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i nodi meysydd lle gallwn ddatgarboneiddio. Rydyn ni’n gweithio o fewn y cyd-destun polisi cenedlaethol, gan alinio â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Strategaeth Cerbydau Trydan a Strategaethau Teithio Llesol.

Teithio

Mae teithio yn cyfrif am 70% o ôl troed carbon ymwelwyr, a 31% o ôl troed carbon preswylwyr; felly, mae newid y ffordd yr ydyn i’n teithio yn rhan allweddol o’n taith tuag at ddatgarboneiddio. Bydd Cynllun Trafnidiaeth Gynaliadwy yn lleddfu’r pwysau ar ein “safleoedd pot mêl”, ac yn ei dro, ar ein cymunedau a effeithir gan ymwelwyr sy’n teithio mewn ceir yn bennaf. Er nad yw’n syndod, un o’r canfyddiadau cyntaf a ddaeth i’r amlwg wrth inni gasglu tystiolaeth yw bod parcio a rheoli traffig yn anodd, a bod amlder y drafnidiaeth gyhoeddus yn dameidiog.

Rydyn ni’n dibynnu ar weithio mewn partneriaeth i gyflawni ein nodau ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy, gan mai ychydig iawn o bwerau sydd gennym dros y ddeddfwriaeth berthnasol. Rydyn ni’n ymgynnull partneriaid fel ein Hawdurdodau Lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio ein dull gweithredu. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gyda nifer o sefydliadau, a chan fod cynifer o bobl eisoes yn ymwneud â thrafnidiaeth o amgylch y Parc, bydd dod o hyd i gysondeb a dulliau o weithredu ar y cyd yn wirioneddol allweddol.

Ein nod, yn syml, yw sicrhau bod Parc Cenedlaethol yn meddu ar drafnidiaeth hygyrch charbon- isel, heb fod yn niweidiol i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.
Helen Roderick
Rheolwr Rhanddeiliaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Our Action

Ar hyn o bryd, rydyn ni wrthi’n casglu ein tystiolaeth sylfaenol , yn edrych ar y wybodaeth a’r ffeithiau a fydd yn ein helpu i lunio ein gweledigaeth, ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith. Byddwn yn treialu “parcio a theithio” rhwng Merthyr ac Aberhonddu a fydd yn cwmpasu rhai o’n mannau prysur fel Pen-y-Fan, a byddwn hefyd yn edrych ar y dechnoleg sydd ar gael i ganiatáu parcio rhwydd.

A ydych yn gwneud unrhyw beth diddorol y dylem wybod amdano?