Cenhadaeth

Pobl

Nodau
Byw, gweithio, ymweld - yn ddiogel, yn deg ac yn gynaliadwy
Mae cymdeithasau dynol yn debyg beiriannau ceir sy’n ail-ddylunio’u hunain yn gyson lle mae pob cydran/person yn gysylltiedig â’i gilydd
Danny Dorling
Dyfyniad a droswyd o Why Demography Matters

Ansawdd Bywyd

Gwella ansawdd bywyd a llesiant pawb sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn y bannau
Bwyd Y Dyfodol
Bydd cynaliadwyedd a fforddiadwyedd y bwyd iach sydd ar gael i drigolion ac ymwelwyr wedi gwella trwy greu rhwydweithiau lleol ar gyfer cynhyrchu a manwerthu bwyd yn gynaliadwy.
Sgiliau A Swyddi’r Dyfodol
Bydd cymysgedd demograffig y bobl sy’n byw yn y Parc wedi cynyddu o ganlyniad i fuddsoddi yn nyfodol y sgiliau gwledig.
Cartrefi’r Dyfodol
Bydd pobl sydd angen neu sydd eisiau byw yma yn gallu gwneud hynny o fewn eu modd. Bydd mesurau helaeth yn erbyn ail gartrefi a chartrefi gwyliau ar waith lle bo angen. I’r rhai na allant fforddio prisiau’r farchnad, bydd opsiynau tai carbon-isel ar gael dan arweiniad y gymuned.
Gwres A Phŵer Y Dyfodol
Byddwn wedi cyflawni “trosglwyddiad cyfiawn” i ffurfiau carbon-isel o wres a phŵer.
Cludiant Y Dyfodol
Bydd argaeledd a hygyrchedd ar gyfer opsiynau trafnidiaeth carbon-isel wedi cynyddu. Bydd opsiynau teithio llesol yn haws i’w defnyddio o ddydd i ddydd; felly hefyd y cynlluniau symudedd eraill megis rhannu e-geir a llogi e-feiciau.
Bywydau’r Dyfodol
Bydd pobl Bannau Brycheiniog yn meddu ar ymdeimlad o berthyn i’w cymunedau ac yn uniaethu â phrofiadau ymwelwyr sy’n ofalgar, yn gydlynol ac yn gyfoethog.
Cysylltiadau’r Dyfodol
Bydd cysylltedd digidol yn cael ei wella gan ddarparu mynediad cyfartal i wasanaethau, cyfleusterau a swyddi.
Economi’r Dyfodol
Bydd cymunedau a busnesau lleol yn elwa o economi fywiog a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu cyfoeth yn lleol a’r economi sylfaenol. Bydd buddsoddiad newydd cynaliadwy yn gweithio ochr yn ochr â busnesau cartref i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da.
Cyfiawnder, Amrywiaeth, Cynhwysiant
Byddwn yn herio ac yn dileu gwahaniaethiad a rhwystrau i gyfranogiad lle bynnag y maent yn digwydd, gan greu Parc Cenedlaethol lle gall pawb ddod o hyd i gyfleoedd a’r ymdeimlad o berthyn.
Ymwelwyr Y Dyfodol
Byddwn yn cynnal y fflam ar gyfer twristiaeth gynaliadwy. Mae ymweld â Bannau Brycheiniog yn darparu profiad unigryw ac yn hyrwyddo cefnogaeth ar gyfer adferiad natur, llesiant cymunedol a’r economi leol. Bydd ymwelwyr yn gwybod ein stori ac yn cael eu cymell i’n helpu ni i ymateb i heriau allweddol, yn bennaf trwy eu gweithredoedd a’u hymddygiad eu hunain.
Y Gymraeg A’r Diwylliant Cymreig
Mae diwylliant Cymreig yn ffynnu ac yn cael ei ddathlu fel rhan o dapestri cyfoethog bywydau diwylliannol Cymru. Mae ymwybyddiaeth a gwybodaeth o’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar gynnydd ymhlith ein trigolion a’n hymwelwyr. Mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn cael eu caru a’u gwerthfawrogi gan bawb, waeth beth fo’u lefel rhuglder yn yr iaith.
Busnesau Cynailiadwy
Bydd rhwydwaith cefnogi busnesau ar gael a fydd yn ymroddedig i adeiladu economi leol gynaliadwy a theg o fewn Bannau Brycheiniog.

Y gofod cyfiawn a diogel

Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys pobl amrywiol a thirwedd hynafol. Yma, rydyn ni’n sôn am y rhai sy’n byw o fewn ein ffiniau, y rhai sydd wedi adeiladu’u bywydau yma, ymgartrefu yma, magu teuluoedd, caru, chwerthin ac wynebu’u hofnau yma.

Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at bobl sy’n rhedeg busnesau o’r Parc ac efallai eu bod yn croesawu un o’r 5 miliwn o ymwelwyr a welwn bob blwyddyn; efallai eu bod yn ffermio’r tir, yn magu stoc ar y bryniau fel y gwnaed ers cenedlaethau, neu’n gwneud rhywbeth cwbl wahanol, pwy a ŵyr! Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at yr ymwelwyr sy’n dod i edmygu’r golygfeydd, ac i droedio’n ysgafn ar ein tir a mwynhau ychydig o’n lletygarwch enwog.

Ein pobl yw ein cryfder, a thrwy ein pobl y byddwn yn sicrhau’r newid sydd ei angen ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Rydyn ni’n ailadrodd yr angen am newid dro ar ôl tro er budd cenedlaethau’r dyfodol o drigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnes.

Fodd bynnag, mae ein poblogaeth breswyl yn heneiddio, a chydag amser bydd hynny’n golygu llai o weithwyr iau a fydd, yn ei dro, yn cael effaith gynyddol ar wasanaethau, cyfleusterau, ac economi a chynaliadwyedd y dyfodol. Mae hefyd yn dylanwadu ar agweddau wrth i leisiau pobl ifanc gilio o’n cymunedau.

Mae cymunedau’n cael eu herio gan y gyfran uchel o dai a ddefnyddir fel ail gartrefi a chartrefi gwyliau. Er bod y rhain yn dod â budd economaidd, maent hefyd yn creu bylchau mewn cymunedau lle mae tai’n wag, ac wrth i gymunedau brinhau mewn niferoedd, mae eu cydlyniaeth a’u hymdeimlad o berthyn yn dioddef. Mae ein proffil ymwelwyr wedi newid yn aruthrol ers cyfnodau clo COVID. Rydyn ni’n gweld mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen a chan nad oes seilwaith gan rai ardaloedd o’r Parc i gefnogi’r lefelau hynny, mae ymwelwyr a chymunedau yn gorfod delio â chanlyniadau sy’n llai na chadarnhaol.

Wrth ystyried y boblogaeth barhaol a thros dro, fe welwn ein bod wedi symud y tu hwnt i derfynau lle gall cymdeithas a’r blaned weithredu’n ddiogel. Mae ein cymunedau yn cael eu peryglu ac nid yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Er yn anfwriadol, mae ein hymwelwyr yn achosi niwed i’r union amgylcheddau naturiol y maent wedi dod i’w gweld a’u gwerthfawrogi. Dyna pam mae ein cenhadaeth yn canolbwyntio mor gryf ar ddiwallu anghenion o ddydd i ddydd mewn modd sy’n parchu terfynau systemau’r blaned. Mae newid y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad i’r Parc yn hollbwysig os ydym am sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy iddynt o fewn y Parc Cenedlaethol.

Ni all pobl na natur ffynnu heb ei gilydd mae pob un ohonon ni’n rhan dirwedd gymhleth Parc Cenedlaethol. Mae pobl wedi ffurfio tirwedd ac amgylchedd Bannau ers miloedd flynyddoedd ac yn ogystal â’i greu a’i warchod, mae weithiau wedi’i ddifrodi. Ein rôl ni yw cysylltu neu ailgysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol gweithio mewn partneriaeth fel gallwn adfer cydbwysedd fewn Parc rhwng natur ar yr un llaw chymunedau phobl iach llewyrchus ar llaw arall.

Fel sefydliad mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i'r canlynol ar gyfer Pobl

Gwreiddio
Byddwn yn gwreiddio llesiant ym mhopeth a wnawn - byddwn yn blaenoriaethu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn yn sicrhau bod ein polisïau a’n gweithdrefnau yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau o gynaliadwyedd, cynhwysiant a chefnogi’r economi leol.
Cofleidiad
Byddwn yn estyn allan at bobl i ddeall y ffordd y maen nhw’n cysylltu neu ddim yn cysylltu â’r Parc Cenedlaethol ac yn dysgu’r modd y gallwn ailadeiladu’r cysylltiad hwnnw. Byddwn yn ymdrechu i gael gwared ar y rhwystrau cymdeithasol a chorfforol i gyfranogiad.
Cefnogaeth
Byddwn yn cefnogi’r economi leol trwy weithio i gefnogi mentrau cymdeithasol o’r ardal, yn caffael y cynnyrch a’r gwasanaethau a brynwn o’r cyffiniau, ac yn archwilio modelau ar gyfer cynhyrchu incwm a fydd yn cefnogi cymunedau, amaethyddiaeth a byd natur i ffynnu, e.e. taliad am wasanaethau ecosystem.
Cysylltu
Byddwn yn cryfhau ein cysylltiad â’n cymunedau, tirfeddianwyr/porwyr, busnesau, trigolion ac ymwelwyr trwy fod yn fwy gweladwy, gan gynnig cymorth, rhannu ein harbenigedd a chwilio am ffyrdd o gydweithio.
Hyrwyddo Cymraeg
Byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant Cymreig.
Hygyrchedd
Bydd y modd yr ydym yn gwneud y Parc Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bawb, yn batrwm i eraill. Byddwn yn gweithio gyda’r Fforwm Mynediad Lleol i weithredu ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
Strategaeth
Byddwn yn cyd-ddylunio Strategaeth Ymwelwyr Cynaliadwy gan weithio gydag ystod eang o randdeiliaid gyda'r nod o sicrhau bod y Parc yn cyflawni ei amcan i fod yn gyrchfan enghreifftiol sy'n rheoli anghenion ymwelwyr ag anghenion yr amgylchedd.

Lleisiau Pobl

Mae Lleisiau Brycheiniog yn gyfres o straeon creadigol, cerddi, caneuon, a chardiau post gan bobl Brycheiniog. Ymgollwch yn eu straeon, eu gwerthoedd a’u hangerdd dros Fannau Brycheiniog.
E-bost gan Dylan Brychan i Siân Brychan