Coleg y Mynydd Du

Ben Rawlence Director

Fe sefydlon ni Goleg y Mynydd Du mewn ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil y Chwalfa Hinsawdd. Mae’r chwalfa hinsawdd yn gyfnod newydd sy’n gofyn am newid enfawr yn y modd yr ydym yn trefnu ein heconomïau a’n cymdeithasau yn ogystal â’n perthynas â natur.

Cnewyllyn y syniad oedd: beth all ryw le penodol ei ddysgu i chi? Os ydym am astudio senarios y dyfodol, pa le gwell i wneud hynny nag yn harddwch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n wynebu heriau i’w ecosystemau? Ac am le hyfryd i astudio! Ein nod yw darparu hyfforddiant ar y sgiliau a’r meddylfryd sydd eu hangen ar gyfer addasu i’r hinsawdd ac sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.

Ein Cenhadaeth

Hoffem weld cynnydd o ran bioamrywiaeth, datblygiad dynol ac adferiad byd natur yn y Parc Cenedlaethol ochr yn ochr â channoedd o raddedigion yn ein helpu i wireddu’r newidiadau hynny fel rhan o’u hastudiaethau. Ymhellach, os gallwn ysbrydoli ffordd newydd o feddwl am bwrpas sylfaenol y Parciau Cenedlaethol sef addysgu, hysbysu ac ailgysylltu pobl â systemau cynnal bywyd ein planed, yna byddwn wedi llwyddo. Credwn y dylai Parciau Cenedlaethol, yn eu hystyr ehangaf, gael eu gweld fel prifysgolion cyhoeddus sydd â chenhadaeth ddinesig.

Credwn mai’r her ganolog yw darganfod ffordd i adeiladu cymdeithasau cynaliadwy o fewn terfynau’r blaned. Mae hyn yn dipyn o gamp, a chredwn fod gan ein myfyrwyr rôl arwyddocaol i ddod o hyd i ffyrdd o weithredu strategaeth Y Bannau, a thrwy hynny arddangos ein rhanbarth fel esiampl i’r DU: dyma’r ffordd y gallwn ni fynd ati i daclo’r problemau enfawr o ordreuliant a dinistr natur.
Ben Rawlence
Cyfarwyddwr Coleg y Mynydd Du

Ein Gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda’r Parc Cenedlaethol ar leoliadau gwaith a briffiau heriol, ac yn hyrwyddo gwyddoniaeth dinasyddion i ganfod atebion i gwestiynau’r byd go iawn, er mwyn rhoi newid ar waith. Byddwn hefyd yn denu dwsinau os nad cannoedd o fyfyrwyr i’r Parc, i wella ein heconomi, ein diwylliant ac i wneud y Parc yn gyrchfan ar gyfer meddwl a gweithredu mewn modd arloesol.

Gwireddu Breuddwyd Y Bannau

Mae’r freuddwyd hon yn rhan allweddol o’n cenhadaeth a’n cynnig i fyfyrwyr. Rydyn ni’n hyderu ac yn disgwyl y bydd myfyrwyr yn mynychu Coleg y Mynydd Du yn rhannol er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, gan ddysgu o’r profiad a mynd ymlaen i wireddu gweledigaethau mewn mannau eraill.

A ydych yn gwneud unrhyw beth diddorol y dylem wybod amdano?