Ein Bwyd

Duncan Fisher & Sue Holbrook

 

Rydyn ni’n bobl leol brofiadol a rhagweithiol yn gweithio gyda’n gilydd trwy Ein Bwyd 1200 sy’ngymdeithas budd cymunedol.

Rydyn ni’n ymateb i argyfwng sy’n bygwth ein hinsawdd, ein natur, ein cyflenwadau bwyd a’n hiechyd. Rydyn ni’n gweithio trwy bartneriaethau, gan gynnwys gyda’r Parc Cenedlaethol a phartneriaid eraill Y Bannau

Ein Bwyd

Er mwyn creu economi fwyd leol a bywiog, mae angen i ni gynyddu’r galw am fwyd lleol – gan drigolion, awdurdodau lleol, a dinasoedd cyfagos. Ar yr un pryd, mae angen inni dyfu mwy o fwyd yn lleol, gan ddefnyddio egwyddorion adfywiol sy’n cloi carbon ac sydd ddim yn niweidio natur â llygredd ffosffad neu nitrad. I wneud hynny, rhaid inni ddod o hyd i dir, denu tyfwyr medrus i drin y tir hwnnw, a chefnogi’r ffermydd bach newydd hyn gyda chyllid, tai, cynllunio, marchnata a thechnoleg.

Ein Nodau

Bydd llwyddiant yn cynnwys wyth eitem: llai o allyriadau carbon yn ein rhanbarth yn deillio o dyfu a bwyta bwyd; cyflenwadau lleol diogel ar gyfer yr adegau pan amharir ar gadwyni bwyd byd-eang; mwy o swyddi lleol; darparu bwyd iach a mwy maethlon; llai o lygredd; diogelu a gwella bioamrywiaeth; cydlyniant cymunedol cryfach mewn perthynas â’r fasnach fwyd; a chymorth i liniaru tlodi bwyd lleol

Rydyn ni’n dechrau gyda ffrwythau llysiau oherwydd maen nhw’n hanfodion wythnosol ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer economi bwyd lleol all, wrth iddo dyfu, gynnal bwyd arall dyfir yn lleol.
Duncan Fisher & Sue Holbrook
Rheolwyr Prosiect Ein Bwyd 1200

Ein Gweithredoedd

Rydyn ni’n cynyddu’r galw am ffrwythau a llysiau lleol trwy gynnal ymgyrchoedd marchnata yn y
dref, gweithio gydag awdurdodau lleol i gyflenwi ysgolion, a gweithio gyda rhaglenni bwyd Caerdydd i adeiladu cadwyni cyflenwi yno hefyd. Rydyn ni’n cefnogi datblygiad busnesau garddwriaeth fasnachol sy’n fach ond yn gynhyrchiol iawn, gan ddefnyddio technegau adfywio (cloi carbon, adeiladu bioamrywiaeth y pridd, a dilyn egwyddorion organig) ac yn cyflogi tua 1 person/erw. Rydyn ni’n paru tyfwyr â thirfeddianwyr preifat, yn chwilio am ffermydd i brynu i mewn iddynt, yn hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar gyfer llu o fentrau bwyd bychain, ac yn chwilio am ffermydd sirol at yr un diben. Rydyn ni’n gweithio i gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer hyfforddiant yn y maes garddwriaeth fasnachol ac yn siarad â disgyblion ysgol am yrfa mewn tyfu bwyd yn y dyfodol. Rydyn ni’n helpu ffermwyr newydd i ddatblygu gwerthiant a marchnata ar y cyd, dod o hyd i gyllid dechrau- a-thyfu, dod o hyd i dai, a defnyddio technolegau di-garbon ar gyfer ffermydd bach. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu rheoliadau a pholisïau cynllunio cefnogol.

Rydyn ni am gyfathrebu â’r cyhoedd lleol ar y cyd ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Rydyn ni hefyd am weithio gyda’r Awdurdod i greu rheoliadau cynllunio sy’n cefnogi ffermio adfywiol ar raddfa fach

Mae cynllun Y Bannau yn golygu y gallwn weithio mewn partneriaeth â’r Parc Cenedlaethol a’i holl bartneriaid eraill. Fel pawb arall, ni allwn gyflawni ein nodau heb bartneriaethau cryf.

A ydych yn gwneud unrhyw beth diddorol y dylem wybod amdano?