Hi Mam 
Eistedd ar llawr, wedi fy amgylchynu â phentwr focsys. Maya wedi mynd Peckham ffarwelio â’i mam (Sanaa yn dweud, helo gyda llaw.) Gwneud  paned ac yn meddwl byddwn yn anfon neges atat. 

Maethu credu ein bod yn dod adre. Efallai fod hynny yn dy synnu ond mae’n teimlo felly i mi (o leiaf.) I fod yn onest, wnaeth fy nghalon erioed adael. Gweddill y corff adawodd pan nad oeddwn yn siŵr ble roeddwn yn ffitio.

Ers i ni wybod am y babi, rydw i wedi bod yn meddwl rhagor – bod yn rhan o rywle, perthyn. Mae Mam-gu yn cael lloches mewn natur, tithe a Dad ar y tir ond mae angen pobl arna’i, mwy na theulu. Mae angen i mi gael fy ngweld, fy ngwerthfawrogi; bod gen i ran i chwarae a bob pobl yn bwysig. Roedd Llundain yn lloches am gyfnod ond mae’n ddinas fawr a gwyllt. Rydym am fod rhywle sydd yn ein cydgysylltu; rhywle allwn ni wneud cyfraniad a gweld newid diriaethol.

Mae edrych ar y newyddion ofnadwy am y teulu yna, druan wedi dwyn llawer o atgofion yn ôl i Maya. Mae hi dal i gael hunllefau; cleifion diddiwedd yn dioddef o anhwylder yr haul a’r gwres, dim system awyru a’r ysbysty yn adfeilion o’i hamgylch. Mae wedi bod dros 10 mlynedd nawr. Bydd yn dda iddi gael gweithio yn y ganolfan iechyd, newydd cyn iddi fynd ar famolaeth. Cafodd ei chyfrafod cyntaf â Dr Hughes, gyda llaw a ti’n iawn, mae’n hyfryd.

Roedd hi’n anodd bryd hynny, toedd? Roeddwn i’n siarad â Scott am y gwaharddiad mudo ac hyd yn oed ar ôl iddo gael ei godi, roedd yr awyrgylch yn anodd – tensiwn ynghylch wynebau newydd, yn enwedig rhai o dras arall. Dywedodd Scott ambell beth bryd hynny wrth Maya oedd rhywfaint yn anaddas. Dywedodd fod yr holl gyfnod yn aneglur nawr. Disgrifiodd y cyfnod fel breuddwyd hunllefus lle yr oedd yn cerdded-gysgu. Cafodd ei galedu gan anobaith y cyfnod. Yr hyn sydd yn ddoniol yw ei fod yn awr yn gweithio ar y polisi datganoli yr oeddet yn sôn amdano a’i fod yn siarad yn frwdfrydig am fanteision lluosogrwydd, dros goffi. Dywedodd fod amrywiaeth yn “hollbwysig ar gyfer gwydnwch lleol lle y mae sgiliau , profiadau a safbwyntiau gwahanol yn caniatáu i le addasu ac esblygu’n gyflym.” Doeddwn i methu stopio chwerthin wrth feddwl mai dyma’r un boi arferai dynnu arna’i!

Mae’n ddoniol sut mae rhai pethau’n teimlo mor anochel. Dim ond wedyn rydych chi’n sylweddoli nad oes dim yn barhaol. Mae’r mwyafrif o bethau’n ddewis ac mae dewisiadau’n cael eu gwneud gan bobl. Doedd hi ddim yn teimlo fel bod gennym ddewis ar y pryd – finnau mor ddiflas a Maya mor flinedig ac yn gorweithio. Efallai y dylem fod wedi aros, bod yn rhan o’r grŵp newidiodd bethau? Dwi ddim yn siŵr os byddem wedi gallu gwneud hynny.

Ond, ry’n ni’n dod adre! A dy’n ni ddim ar ein pennau’n hunain chwaith. Gwelais Dan yn y dafarn – mae Elle yn disgwyl hefyd. Mae’n dweud ei fod wedi bod yn gweithio gyda ti a’r grŵp ynni ar brosiect newydd, arall – cyffrous. Roedd Bryony yno hefyd. Symudodd yn ei hôl, llynedd â’i phartner newydd. Maent wedi derbyn grant gan y llywodraeth ar gyfer menter gymdeithasol, newydd – rhywbeth am wlân a deunyddiau adeiladu (roedd yn swnllyd iawn yn y Bull, felly dwi ddim 100% yn siŵr.) Hefyd, nei di fyth gredu pwy fydd ein cymdogion newydd. . . . . Jo a Matt! Maent yn symud i un o’r tai cymunedol, cyfagos. Mae Jo newydd orffen ei hyfforddiant ac yn edrych am dir i ddechrau gardd farchnad. Dywedais wrthi am siarad â chi. Gwneud synnwyr? Mae gennym ni’r tir, mae ganddi hi’r sgiliau a’r archwaeth – gan na fydda i a Megan yn ei ddefnyddio!

Roedd yn dda gweld cymaint o wynebau cyfeillgar, eto. Mae’n heintus – camau gweithredu cadarnhaol, pobl dda a’r ewyllys gorau. Mae bob amser wedi bodoli ond roedd angen sbardun a rheswm i ddwyn pobl ynghyd. Arferai Tad-cu ddweud nad oedd pwynt edrych ar ôl y cwm hyfryd hwn os nad oedd fodd meithrin a chynaeafu’r bobl hyfryd yn ogystal. Efallai y gall Dad ddefnyddio hynny yn ei bregeth!

Mae Maya yn ei hôl. Mae’n edrych yn flinedig felly byddai’n well i mi fynd. Mae pobl yn cynnig sedd iddi ar y bws a’r tiwb yn awr. Amser am baned arall!

Methu aros i dy weld di a phawb arall dros y penwythnos.

Cariad mawr,

Dylan

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Cerdyn Post o 2047
E-bost oddi wrth Mair Brychan at weddill y teulu
Llythyr gan Mair Brychan at Dylan Brychan