Pellter na phair
ball ar ffyddlondeb
na therfyn ar deyrngarwch;
’does ffin
ar bili-palas
ar ieir bach yr haf,
nac ar löynod y pellteroedd
sy’n fythol alltud
yn eu gwlad eu hunain –
tlysau caled mewn bro haearn –
symudliw, gadarn,
rhodd hael
gwyfynod gwynlas
sêr y bannau.