Heb un gair a minnau’n byw yn gaeth
dihengais i Aberhonddu at ffrind ffraeth;
ond fy ffrind, ni fynnwn fynd i Ben y Fan…

Mynnwn gilio’n neb mewn i’r gwely’n wan
a meddwi o hyd ym medd dyddiau a aeth,
cilio’n glyd rhag y byd a’i bedwar ban.

Ddoe gwelwn angladd a neb yn y llan,
neb ond y ficer, drwy’i reidrwydd fe ddaeth;
a bu ynof ofn mynd i Ben y Fan;

Ofn rhag imi fyw wrth ddringo am lan,
ofn byw’n rhydd fel bod yn droednoeth ar draeth,
ofn byw i weld y byd a’i bedwar ban.

Ond o gam i gam, dod i wneud ei ran
wnaeth yr awyr iach, a’m sobri a’i faeth
wrth i’r hen boenau fynd wrth Ben y Fan.

A daeth ambell air a gwên yn y man,
wrth i’r cip o’r copa ein dal fel saeth
a ninnau’n un â’r byd a’i bedwar ban,
ar bnawn o Fai ar Ben y Fan.

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Copa Pen y Fan
Blaen y Glyn
Gwyfynod y Bannau