(Mae Glyn wedi bod yn enw yn ein teulu ni
byth ers i’m hen-dadcu adael Cwm Caerfanell yn yr 1880au.
Roedd ei dad yn porthmona merlod mynydd i Lundain)

Ni ddaw’r dŵr yn ei ôl
o Hafren, i Wysg, i Gaerfanell;
na merlod Torpantau chwaith,
o’u heol garlam tua’r dwyrain
dan ofal fy hynafiaid gynt.

Ond fe ddown ninnau
o ferw ein strydoedd a’n cul-de-sacs
i geisio ein gwynfyd dros dro,
rhwng Carreg Cennen a Sgyryd Fawr.

Down yma yn westeion
i hen, hen gymdogaeth,
i gael ein meddiannu gan y mynyddoedd hyn
a’n hawlio gan eu cymoedd coediog.
Bydd rhai’n morgruga’n ufudd
ar lwybr Pen y Fan,
tra bo eraill yn mynd gyda’r gwynt,
o Gwm Aman neu Gwm Iou,
ar drywydd y llonydd
sy’n meddwi’r synhwyrau…

A dof innau i’r Glyn yma,
dan lethrau Allt Forgan,
lle aeth cartre ‘nheulu gynt
yn furddun ac yna’n sarn;
ond mae’r enw o leiaf
yn dal i ffrydio drwof,
a iaith y lle hwn
ar drot ar fy nhafod o hyd.

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Copa Pen y Fan
Ar Bnawn o Fai ar Ben y Fan
Gwyfynod y Bannau