Grŵp Dŵr y Bannau
Nigel Elgar Rheolwr Prosiect, Rhaglen Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog Dŵr Cymru
Mae Grŵp Dŵr y Bannau yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n cynnwys clwstwr o chwe ffermwr, a gefnogir gan Ddŵr Cymru.
Mae’r grŵp yn cael ei ysbrydoli gan y dirwedd ddilychwin a geir ym mynyddoedd uchel y Catskills, lle mae eu dull o reoli dalgylchoedd ar sail natur wedi ennill clod rhyngwladol. Gyda’i gilydd, mae’r grŵp wedi datblygu dull sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall amaeth ei wneud i warchod yr amgylchedd dŵr. Mae’r dull hwn yn grymuso ffermwyr i ddarparu atebion i’r peryglon sy’n wynebu ansawdd dŵr ac sydd hefyd yn dod â buddion i’w busnesau fferm.
Ffermio Sy’n Diogelu Ansawdd Dŵr
Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall y modd y gallwn ni ymgysylltu’n gynaliadwy â busnesau fferm fel rhan o ddull cyfannol ar gyfer rheoli ansawdd dŵr. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i ganfod yr ymyriadau syml hynny y gellir eu hatgynhyrchu i fod o fudd i ansawdd y dŵr ac effeithlonrwydd y busnesau fferm, e.e. gwneud y defnydd mwyaf posibl o wrtaith a brynir i mewn, a gweithredu mesurau syml i atal erydiad pridd a dŵr ffo.
Drwy nodi atebion lle mae pawb ar eu hennill, rydyn ni’n gobeithio datblygu model y gellir ei fabwysiadu gan wahanol dirfeddianwyr a ffermwyr a’i roi ar waith yn hawdd mewn mannau eraill. Bydd hyn yn lleihau risgiau yn yr amgylchedd dŵr crai yn sylweddol, ac ar yr un pryd yn cefnogi sector amaethyddol ffyniannus.
Mae gan lawer o’r ymyriadau fferm sy’n cael eu treialu’r potensial i gyflawni gwelliannau i’n hamgylchedd naturiol trwy daclo’r heriau a ddaw yn sgil newid hinsawdd. Gyda chefnogaeth aelodau Grŵp Dŵr y Bannau a Dŵr Cymru, hoffem i’r Parc Cenedlaethol gyfrannu at greu a hwyluso clystyrau o ffermwyr eraill ar hyd a lled ei diriogaeth, a’u cefnogi’n frwd i atgynhyrchu’r dull arloesol hwn.
Yr Hyn Y Mae’r Bannau Yn Ei Olygu I Ni
Dylai sector ffermio ffyniannus a chytbwys fod yn floc craidd i adeiladu’r Bannau.
Mae gan ffermio ran allweddol i’w chwarae wrth gynnal y tirweddau hardd a’r amgylcheddau naturiol, gan helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol, cymunedau a diwylliant Cymru. Bydd technegau ffermio cynaliadwy hefyd yn cyfrannu at ddiogelu ffynonellau dŵr yfed o’r ardal strategol bwysig hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Credwn fod newid parhaol yn bosibl, ond bydd angen newid meddylfryd ar draws cyrff cyhoeddus a rheolwyr tir; hyderwn y bydd APCBB yn ymuno â ni ar y daith hon.