Stump Up For Trees
Keith Powell and Robert Penn, Cyd-sylfaenwyr, Ceiniogi’r Coed
Ni yw Keith Powell, ffermwr seithfed genhedlaeth o’r Mynyddoedd Duon, a Robert Penn, awdur a darlledwr lleol, a gyda’n gilydd ni yw sylfaenwyr Ceiniogi’r Coed, elusen gymunedol sydd wedi’i lleoli yn Nwyrain Bannau Brycheiniog, gyda chenhadaeth i blannu miliwn o goed.
Dim ond yn 2020 y ffurfiwyd yr elusen, ond fe dyfodd y syniad yn gyflym, a bellach mae gennym ystod eang o aelodau o’r gymuned leol yn gweithio gyda ni fel ymddiriedolwyr, cyflogeion a gwirfoddolwyr
Mae ein model yn syml ac rydyn ni’n canolbwyntio ar weithio gyda’r gymuned ffermio leol i ail-bwrpasu’r ardaloedd lleiaf cynhyrchiol o dir amaethyddol ar gyfer plannu coed, bioamrywiaeth a dulliau o reoli llifogydd yn naturiol
Fel rhan o’n hymgyrch peilot, plannwyd 135,000 o goed llydanddail brodorol ar ddarn 64-hectar o redyn dwfn ar lethrau serth Comin Bryn Arw, yn y Mynyddoedd Duon. Dyma’r coetir mwyaf a grëwyd yng Nghymru yn ystod y tymor plannu yn 2020-21; dyma hefyd oedd yr ymgyrch blannu gyntaf ar y fath raddfa ar dir comin.
Ein Gweledigaeth
Gobeithiwn, erbyn i’n prosiect gyrraedd ei benllanw, y byddwn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i goedwedd a bioamrywiaeth y Parc. Credwn fod llwyddiant ein prosiect yn golygu gwella’r goedwedd ar draws y rhanbarth, gan gynnwys mwy o goetiroedd llydanddail brodorol a gwrychoedd ar ffermydd, ac adfer cynefinoedd helaeth ar dir comin.
Ein Gweithgareddau
Mae gwireddu ein huchelgais i blannu miliwn o goed o fewn y dirwedd fyw, weithredol hon yn golygu ein bod yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau ar gyfer y plannu – yn hytrach na phlannu coetiroedd llydanddail a gysylltir fel arfer â chynlluniau plannu coed, byddwn yn ailsefydlu hen wrychoedd a phlannu gwrychoedd newydd, yn hyrwyddo amaeth-goedwigaeth (lle mae cynhyrchu bwyd a choedwriaeth yn cael eu cyfuno), ac yn creu coed pori (ffriddoedd) ar dir comin. Yn y bôn, mae angen plannu coed yn y ffordd orau bosibl, yn y lle iawn ac am resymau da iawn.
Mae Bannau’r Dyfodol yn cynnig gobaith i bawb. Mae gwybod ein bod yn rhan o fudiad ehangach o fewn y rhanbarth i wella’r dirwedd er budd pobl a natur yn werth y byd i ni.