Y Prosiect Pen-Pont

Forrest Hogg, Rheolwr Prosiect Ystâd Pen-pont

Cafodd y prosiect ei lansio yn 2019 ar Ystâd Pen-pont sy’n cynnwys 2,000 o erwau o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Prosiect Pen-pont yn pontio’r cenedlaethau ac yn dod â phobl ifanc, ffermwyr, coedwigwyr, tirfeddianwyr, artistiaid ac ecolegwyr ynghyd i adfywio bioamrywiaeth, hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru a chysylltu pobl leol â natur, gyda’r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.

Yng Nghymru, canfu’r adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2019, fod 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Er bod camau cadwraeth yn hanfodol heddiw, mae angen inni sicrhau bod ein hatebion yn rhai hirdymor, yn gynhwysol ac yn cryfhau amrywiaeth ar bob lefel. Dyna’r rheswm yr ydym yn gweithio ar draws y cenedlaethau ym Mhen-pont.

Dyma drosiad o’r hyn a ysgrifennodd y bardd Gary Snyder wrth sôn am graidd y dull hwn a’r gydnabyddiaeth “nad yw ardaloedd gwyllt yn ymwneud â thirweddau dihalog. Yn hytrach, maent yn ymwneud â thirweddau sy’n ddigon cyfoethog ac amrywiol i fod o ddiddordeb i bawb – i’r rhai sy’n ddynol ac i’r rhai sydd ddim yn ddynol.” Mewn geiriau eraill, rydym yn cydnabod bod tir a dyfrweddau ac iddynt ystyr diwylliannol dwfn, ac o’r herwydd, mae prosesau cymdeithasol cynhwysol a grymusol yn ganolog i gyflawni adfywiad a gwytnwch ecolegol parhaol. Trwy’r gwaith hwn, rydym yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc a’r gymuned leol fel y gallant adfywio prosesau naturiol.

Partneriaid y prosiect yn cwrdd â ffermwyr lleol © Gweithredu dros Gadwraeth
All photography rights reserved; Penpont Project

Rhannu’r Her

Rydyn ni’n byw yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd o ran bioamrywiaeth, ac mae’r chwalfa hinsawdd yn dechrau cael effaith ddifrifol ar bob peth byw. Rydyn ni wedi gweld llifogydd digynsail yn difrodi ein cartrefi, mae clefydau coed yn difa ein coetiroedd ac mae sychder eithafol yn yr haf yn effeithio ar ein hamaeth

Rydyn ni hefyd yng nghanol argyfwng cymdeithasol. Mae ein plant yn treulio llai a llai o amser ym myd natur, ac erbyn hyn fe gaiff ei gydnabod yn ehangach fod unrhyw ddatgysylltiad oddi wrth natur yn effeithio’n negyddol ar bobl ifanc o ran eu gweithgareddau dysgu, eu hymddygiad, eu hiechyd a’u llesiant. Oni bai ein bod yn newid hyn, maent yn llai tebygol o frwydro i amddiffyn ein treftadaeth naturiol fel oedolion.

Mae Prosiect Pen-pont yn ceisio mynd i’r afael â’r materion rhyng-gysylltiedig hyn trwy ddull sy’n pontio’r cenedlaethau. Y nod yw iacháu’r tir a darparu cyfleoedd niferus i bobl ifanc ac aelodau o’r gymuned, i gysylltu â natur a chymryd camau ystyrlon.

Mae’r cynllun hwn yn cynrychioli gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer tirwedd gynhwysol ac ecolegol- gyfoethog sy’n gwerthfawrogi ein traddodiadau a’n ffyrdd fyw. Hyderwn gall ein prosiect gyfrannu at trawsnewidiad hwn bod yn rhan gymuned sy’n tyfu ac yn cydweithio gwrdd â her fwyaf argyfyngus ein hoes

Cydweithio Am Lwyddiant

Daw llwyddiant trwy gydweithio a chyd-greu tirwedd sy’n gyfoethog o ran cynefinoedd a bioamrywiaeth, a lle mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn cael ei gwerthfawrogi a’i chadw. Mae gweledigaeth y prosiect yn cwmpasu anghenion ac uchelgeisiau ystod eang o gyfranogwyr – o bobl ifanc yn ymweld â’r safle’n rheolaidd, i’r ffermwyr a’r gymuned sy’n byw ac yn gweithio ym Mhen- pont o ddydd i ddydd. Mae’r mudiad amaethecolegol yn cynnig trywydd pwerus tuag at fodel rhannu-tir lle mae adfer natur a ffermio yn gweithio gyda’i gilydd. Trwy adfer ein gwrychoedd, cynyddu argaeledd y gorchudd coed a’r cynefinoedd, a mabwysiadu arferion amaeth a chadwraeth adfywiol, gallwn adfywio’r tiroedd a’r dyfroedd a darparu amrywiaeth o gyd fuddiannau i gymunedau. Mae Cymru hefyd yn arwain y ffordd gyda deddfwriaeth arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac rydym yn gobeithio ymgorffori hyn yn ein gwaith.

Ein Prosiect

Rydym wedi ffurfio Cyngor Cyd-reoli sy’n penderfynu ynghylch y modd y dylid adfywio dros 450 erw o dir gan ddefnyddio cyfuniad o arferion gan gynnwys pori cadwraethol, arferion amaethyddol adfywiol, amaeth-goedwigaeth, adfer cynefinoedd, a chamau gweithredu i gefnogi rhywogaethau. Rydyn ni wedi cynnal ystod eang o arolygon ecolegol sylfaenol gydag amrywiaeth o arbenigwyr ac ecolegwyr lleol i fesur ein llwyddiant.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn gefnogwr allweddol i’r prosiect hyd yn hyn. Rydyn ni’n aelodau o’r Cynllun Mapio Coed ac wedi cydweithio gyda Wardeniaid y Parc ac aelodau o’r gymuned leol i blannu dros 3,000 o goed, adfer gwrychoedd a hau hadau blodau gwyllt mewn ardaloedd penodedig. Gobeithiwn weithio hyd yn oed yn agosach gyda’r Parc a grwpiau lleol eraill wrth i ni barhau i roi ein cynllun gweithredu ar waith.

A ydych yn gwneud unrhyw beth diddorol y dylem wybod amdano?