Curlew Recovery Lifeline

Nicola Davies
Ecolegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae’r gylfinir yn rhywogaeth eithaf eiconig yng nghefn gwlad Cymru. Mae ei gri nodedig yn atseinio trwy ddyffrynnoedd yr iseldir ac wedi bod yn arwydd o ddyfodiad yr haf am genedlaethau di-ri.

Yn anffodus, oddi ar 1993, mae poblogaeth yr aderyn hwn yng Nghymru wedi gostwng dros 90%. Os bydd y trywydd hwn yn parhau’n ddi-dor, rhagwelir y bydd y gylfinir yn wynebu difodiant ledled y wlad erbyn 2033. Bellach, ystyrir y gylfinir fel y flaenoriaeth fwyaf ym maes cadwraeth adar yng Nghymru. Mae gylfinirod Bannau Brycheiniog yn cynrychioli’r boblogaeth fridio fwyaf deheuol sydd i’w chael ar ddolydd iseldir Cymru ond yn anffodus, mae’n debyg mai dyma yw’r un sydd fwyaf agored i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn datblygu prosiect o’r enw CWRLIP sydd wedi’i leoli yn nalgylch afon Wysg ac ardal Llan- gors i atal difodiant y gylfinir dros y blynyddoedd nesaf. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â sawl dull o adfer y gylfinir gan gynnwys gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr, arolygu a monitro, gwneud defnydd o addysg a chyhoeddusrwydd, dylanwadu ar lunwyr polisi, mapio cynefinoedd, ac adfer cynefinoedd.

Rydyn ni’n gweithio mewn un o 12 Ardal Gylfinir Pwysig (ICA) ledled Cymru gan ddefnyddio “Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir” fel fframwaith cyffredinol i’n harwain, a chan weithio ochr yn ochr â Gylfinir Cymru sef cyd-weithgor sy’n cynrychioli sectorau o lywodraeth, cadwraeth, amaeth a rheolaeth helfeydd yng Nghymru.

Her Ddifrifol

Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud â’r gylfinir yn unig. Rhywogaeth “ymbarél” yw’r gylfinir, sy’n golygu y bydd camau i helpu’r gylfinir i oroesi trwy ddarganfod mwy amdano a diogelu ei gynefinoedd, hefyd o fudd i ystod eang o fywyd gwyllt arall. Y broblem yw ein bod ni’n gwybod am y bygythiad mawr i’r cynefinoedd hyn a bod dim llawer o amser ar ôl i atal y gylfinir rhag diflannu o’n tirwedd am byth.

Pwysigrwydd Y Gymuned Ffermio

Mae llwyddiant y prosiect hwn yn dibynnu ar adeiladu partneriaeth gref â ffermwyr a rheolwyr tir yn nyffryn Wysg. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr mewn ardaloedd penodol er mwyn helpu i ddatblygu systemau amaethyddol hyfyw sy’n cefnogi cynefin y gylfinir trwy ddatblygu arferion cynaliadwy ar gyfer rheoli’r tir.

Mae’r dyheadau nodir yn Bannau yn dod â gobaith ecolegydd fel fi sy’n gweithio ym maes cadwraeth natur ar lawr gwlad. Mae’n codi’r posibiliadau, ac yn rhoi nerth mi wybod bod yna amrywiaeth bobl ar gael fydd yn gweithio gyda’i gilydd atal dirywiad ym myd natur er budd ddynoliaeth.
Nicola Davies
Ecolegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gwaith Y Parc Cenedlaethol

Rydym yn bartner arweiniol yn y prosiect hwn, ac wedi ymrwymo i gefnogi cadwraeth y gylfinir fel rhan o rwydwaith Cymru gyfan. Byddwn yn ymdrechu i godi arian i gyflawni CWRLIP a fydd yn seiliedig ar arferion gorau, gwyddoniaeth a thystiolaeth, a thrwy weithio gyda’r gymuned ffermio i adennill poblogaethau’r gylfinir. Byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu’r partneriaethau allweddol hynny sydd eu hangen i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant, ac yn gweithio gydag ein rheolwyr tir er mwyn cyfuno eu gwybodaeth a’u harbenigedd â’n rhai ni fel y gallwn ni warchod yr aderyn godidog hwn am genedlaethau i ddod.

Mae Llwyddiant Yn Golygu Popeth

Nid yw methiant yn opsiwn. Mae’r prosiect hwn a’i olwg ar lwyddiant yn unig. Rhaid inni atal dirywiad y gylfinir yn ein tirwedd a gweithio tuag at wella’i allu i ffynnu ochr yn ochr â systemau amaeth cynhyrchiol. Byddai methiant nid yn unig yn golygu colli rhywogaeth eiconig o Fannau

Brycheiniog, byddai hefyd yn arwain at ddirywiad llawer mwy yn iechyd y Parc o ran ei ecosystemau a’i fioamrywiaeth.

A ydych yn gwneud unrhyw beth diddorol y dylem wybod amdano?