Ein Nodweddion Arbennig
Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddeg nodwedd arbennig ddiffiniedig sydd wedi’u grwpio o amgylch tirwedd, cymuned, profiadau a bywyd gwyllt. Gan fod y nodweddion arbennig hyn yn aml yn cael eu teimlo yn hytrach na’u prosesu’n rhesymegol trwy ddatganiadau polisi, rydym wedi gofyn i feirdd ac artistiaid lleol ymateb i’r nodweddion arbennig, er mwyn helpu i gyfleu’r ymdeimlad emosiynol o’r hyn sy’n gwneud y Parc yn arbennig.
Mae pob Parc Cenedlaethol yn y DU, ac yn wir ar draws y byd, yn cael eu gwerthfawrogi am “harddwch” eu tirwedd. Er bod ‘Prydferthwch Naturiol’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n aml wrth sôn am Barciau Cenedlaethol a’u tirweddau, yn aml fe’i dehonglir yn nhermau darluniadol yn unig, sydd yn ei dro yn rhoi’r argraff gyffredinol fod Parciau Cenedlaethol yn bodoli i warchod y ffordd y mae ardal yn edrych, yn hytrach na’u swyddogaethau sylfaenol eraill.
Mae gan Y Bannau ddiffiniad llawer ehangach o harddwch naturiol (gweler y blwch drosodd); un sy’n cwmpasu ystod eang o elfennau megis presenoldeb bywyd gwyllt, dimensiynau diwylliannol a threftadaeth ac elfennau canfyddiadol nad ydynt yn hawdd eu rhoi mewn geiriau. Rydym hefyd yn nodi nad yw ein tirwedd yn “naturiol” yng ngwir ystyr y gair. Mae’r lle hwn wedi’i siapio a’i feithrin gan bobl dros filoedd o flynyddoedd ac wedi arwain at dirwedd sy’n ddyledus i nifer o ddylanwadau dynol dros filoedd o flynyddoedd, megis clirio coedwigoedd, amgáu tir, amaethu, draenio, coedwigaeth, arferion crefyddol, aneddiadau, a thynnu dŵr.
Mae ein nodweddion arbennig wedi’u diffinio i roi llais i sawl elfen o’n Harddwch Naturiol. Rydyn ni’n diffinio’r rhain yma i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sy’n gwneud y Parc mor arbennig ac yn deilwng o warchodaeth genedlaethol.
Harddwch Naturiol
Mae “harddwch naturiol”, pan gaiff ei ddefnyddio’n gyffredinol ac yn benodol fel yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a deddfwriaeth arall, yn gysyniad cymhleth ac amlochrog sy’n ymwneud â thirwedd yn ei hystyr ehangaf.
Mae’n ymwneud yn bennaf â thirweddau gwledig sydd ddim wedi’u difetha ac er nad ydynt o reidrwydd yn eang, maent yn rhydd i raddau helaeth o effeithiau datblygiad andwyol neu drefol. Er bod y ddeddfwriaeth yn nodi’n glir ei bod yn cynnwys fflora, ffawna, nodweddion daearegol a ffisiograffig, mae’n berthnasol nid yn unig i dirweddau lle mae natur yn tra-arglwyddiaethu ond hefyd i’r rhai sydd wedi’u llunio a’u meithrin gan weithgareddau dynol.
Mae pobl yn dirnad ac yn gwerthfawrogi “harddwch naturiol” trwy eu holl synhwyrau, gan ymateb i lawer o wahanol agweddau’r dirwedd, gan gynnwys ei gymeriad unigryw, ei nodweddion esthetig, presenoldeb ei fywyd gwyllt, ei ddimensiynau diwylliannol a hanesyddol a’i nodweddion canfyddiadol megis yr ymdeimlad o fod yn llonydd, yn bellennig ac yn rhydd. Mae’r modd y mae pobl yn dirnad “harddwch naturiol” yn cael ei lywio gan nodweddion personol, cefndiroedd diwylliannol a diddordebau unigol. Mae “harddwch naturiol” yn digwydd, i wahanol raddau, mewn llawer o dirweddau, ond nid ymhob tirwedd o bell ffordd. Fodd bynnag, gellir barnu bod rhai lleoedd yn arddangos “harddwch naturiol” i raddau eithriadol ac o ganlyniad, gellir eu cydnabod fel mannau sy’n haeddu cael eu gwarchod ar lefel genedlaethol.