Annwyl Dylan 
Un o’r pethau braf am fod yn Fam-gu ti yw fy mod hefyd yn cael bod yn ffrind agos ti.

Pan oeddet yn fachgen bach, byddet yn dod am dro drwy’r cwm, gyda Helyg a fi. Byddet yn rhannu dy holl gyfrinachau a dy bryderon gan glebran am bob math o bethau wrth i mi ddangos y planhigion a’r creaduriaid i ti. Mae’r sgyrsiau braf rheiny – drwy’r coedwigoedd, y caeau a nentydd yn dwyn llawer iawn o atgofion i’r cof.
Bryd hynny, byddai’r pethau symlaf fel y capiau cwyr ar lan yr afon neu grafanc y frân yn ei flodau ger y nant yn goleuo dy wyneb. Weithiau, byddem yn gweld rhywbeth hynod gyffrous – neidr ddefaid, cudyll bach neu’r goden fwg enfawr ac mi fyddet yn parablu amdanynt am wythnosau.
Y penwythnos diwethaf, wrth i ni gerdded yr un hen lwybr, gallwn ddweud, Dyl nad oeddet yn sylwi arnynt. Roeddet yn dioddef; fel petai cwmwl tywyll uwch dy ben. Mae’n rhaid ei fod yn dy lethu, gymaint. Roeddwn am ddweud wrthyt beth roeddwn i’n ei weld a beth rwyf wedi ei weld ar y fferm, ar y bryn yn ystod yr holl flynyddoedd. Rwyf hefyd am rannu rhwybeth â ti; rhywbeth does neb yn gwybod amdano, dim ond Datcu. Ers blynyddoedd, rwyf innau hefyd wedi dioddef o’r un hen deimladau tywyll. Er mwyn eu rheoli, byddwn yn crwydro i fyny’r lôn ac o amgylch y cwm â llyfr nodiadau yn fy mhoced. Byddwn yn nodi fy meddyliau, fy nheimladau a’r pethau bach y byddwn yn sylwi arnynt: blodau yn y gwrychoedd, tro’r tymhorau yn y coed a ieir bach yr haf yn yr awel.
Yn fuan iawn, deuthum yn dipyn o arbenigwraig! Gallwn adnabod ac enwi’r mwyafrif o bethau. Unwaith rwyt ti’n rhoi enw ar rywbeth, mi alli ddechrau ei ddeall a dod i wybod beth mae’n gwneud. Roeddwn i’n rhan o gannoedd o operau sebon bychan, yn llawn cymeriadau lliwgar! Byddai ambell un yn ffrind. Mae’n rhaid fod hynny’n swnio’n rhyfedd i ti. Dy hen Fam-gu dwp! Roedd angen hyn arna’i. Mae wedi bod yn dipyn o daith! Mi brofais golled, newid a sylwi fel roedd pob dim yn crebachu. Yn aml, byddwn yn teimlo nad oedd fodd i ddim gael adferiad ond mi fyddai’n gwneud hynny! Rydym yn penderfynu adfer yn hytrach na distrywio, diogelu yn hytrach na dymchwel. Fy ngobaith yw y galli di weld hynny eto drwy lygaid dy ieuenctid.
Rwy’n teimlo’n bod ni, i fod i sylwi. Efallai, am ei fod bob amser wedi bod yn bwysig i ni. Nid dy fai di yw na alli di weld. Gallai’r holl amser yna yn Llundain ddim fod wedi dy helpu. Mae’n rhaid i ti ei feithrin. Os nad ydym yn edrych, nid ydym yn gweld. As os na allwn ni weld, pa obaith sydd i ni ddewis y llwybr sydd o’n blaenau? Dyma i ti ran fach o’n stori ni; ambell ran y des ar eu traws yn fy llyfrau nodiadau. Efallai y byddant yn gymorth i ti weld y llwybr yna’n gliriach.

21 Gorffennaf 1992

Dwy flynedd yn awr ar y fferm. Daeth Mam i ymweld am y tro cyntaf. Es i â hi am dro o amgylch y tir ac i fyny’r bryn. Buchod coch cota ymhobman. Casglais rai ar gyfer Dafydd. Mynydd o forgrug yn y coed a llond llaw o glust yr ysgyfarnog, 8 tegeirian frith, gyffredin ar y ddôl a britheg y gors ger y nant. Cymaint ohonynt! Doedd gan Mam ddim llawer o ddiddordeb. Mae’n dweud ei bod yn cofio ‘cymylau’ ohonynt hanner can mlynedd yn ôl a ieir bach yr haf yn gyforiog ar y canghenau. Dwi ddim yn siŵr os ydw i’n ei chredu ond mae’n ddarlun braf!

14 Mai 2016

Dafydd, Siân a Dyl bach yn aros am benwythnos. Siân, 8 mis yn feichiog (merch fach!) Es â Dyl am antur. Am hwyl! Mae pob dim yn rhyfeddod iddo. Gwelsom chwilod, cacynen gynffon goch, clochdar y cerrig ac ehedydd. Gwynion y coed a 2 iâr fach amryliw. Blwyddyn wael i ieir bach yr haf. Lwcus nad yw’n cymryd llawer i gadw Dyl yn hapus. Dysgais iddo alwad y bras melyn. Doeddwn i ddim yn gallu ei stopio! Heb weld un ers i’r cloddiau gael eu dymchwel.

29 Ebrill 2027

Ffrae fawr ar y fferm, eto. Y cae gwaelod yn gors. Y cyndau wedi pydru. Dafydd yn meddwl y dylem ail-blannu; Ioan yn dweud fod dim pwynt. Dal i obeithio am adfywiad – ddim yn siŵr os yw’r symiau’n gweithio. Cerddais i fyny’r bryn er mwyn clirio’r meddwl. Cynnes – dim cot. Y llwybr mewn cyflwr gwael. Ochr y llwybr wedi dymchwel ers i’r gwaith tir mawn ddod i ben. Dŵr yn llifo ar hyd y llwybr. Cerddais yn ôl drwy’r coed – mwy o dyllau bychan yn y coed – masarnen, helygen. Chwilen Hirgorn Asia? Y peth olaf rydym ni ei eisiau ond roeddem yn gwybod mai mater o amser fyddai. Methu gweld llawer o ddim byd arall. Rhaid codi calon. Cig oen i swper heno er mwyn dathlu arholiadau Dyl.

13 Medi 2035

Crasboeth – haf poeth arall. Yr olaf o’r masarn i’w dymchwel. Wedi dod o hyd i gysgod o dan gnau cyll – un o’r ‘arbrawf’ silvopasture’. 4 mlynedd yn ôl. Y defaid i weld yn fodlon, yn. hamddena o dan yr helyg, yn cnoi porthiant. Ffordd bell i fynd ond yn ôl Callum, mae’r pridd wedi gwella ers y tro diwethaf. Gwelais cetonia aurata, lindys melyn a chacynen y rhos ar fy nhaith. Coch dan aden gyntaf y flwyddyn hefyd – falch ei fod wedi dod yn ei ôl ers llynedd. Bob amser yn rhyfeddod – aros am gyfle arall eto. Siân a Daf yn brysur â’u cynheaf ffacbys cyntaf (dal yn meddwl fod hyn yn ddoniol.) Y tir yn rhy galed ar gyfer gwenith yr Almaen ac felly’n oedi. Dylan yn ymweld ac yn helpu. Braf ei weld yn gweithio mor galed.
10 Tachwedd 2041

Perswadiais Ioan i ymuno â mi. Roedd yn anodd ei gael i frig y bryn ond roedd werth yr ymdrech. Cawsom ein croesawu gan garped amryliw o fwswgl Sphagnum! Am adferiad. Gwely o goed cyll a chnau ar y ddôl goediog. Afalau, gerllyg ac eirin ar y coed. Y gweddill mewn jariau, poteli, yn y selar neu wedi eu rhoi i gymdogion. Wedi pasio cwlwm trwchus o gen barfog yn y coed a chapiau cwyr yn y cae gwaelod – fel eira pinc dan draed. Socanod y coed yn niferus a’r nico a’r bras melyn yn ffrwydrio o’r parth ‘gwyllt.’ Soniais wrth Ioan am ‘geiswyr lloches yr hinsawdd’ sydd wedi’u gweld eleni – iâr fach amryliwl, y gynffon las a gwas y neidr ger y pwll. Eraill, fel brych y coed wedi hen fynd erbyn hyn. Newid parhaus. Ddim wedi aros allan yn rhy hir – Ioan wedi blino ac yn oer. Cerdded yn ôl, law yn llaw – fel yr hen ddyddiau. Machlud gogoneddus y tu ôl i ni.

A dyna ni. Mae hi wedi bod yn dipyn o daith. Edrych ymlaen at beth ddaw nesaf a mor falch dy fod yn dod yn ôl.

Cariad,

Mamgu

 

Darganfod mwy o leisiau o'r parc

Cerdyn Post o 2047
E-bost oddi wrth Mair Brychan at weddill y teulu
E-bost gan Dylan Brychan i Siân Brychan