Gwaetha’r modd, ni wnes i etifeddu ei ddawn eiriol, felly ni fydd fy araith ffarwel mor delynegol ag y mae’n ei haeddu. Ond fe wnaf fy ngorau glas i ddod o hyd i rai o’r geiriau sydd eu hangen arnom.
Pan dwi’n cau fy llygaid ac yn meddwl am dad, mae’n eistedd wrth ymyl y dŵr. Rhed yr afon ar hyd ymyl deheuol y fferm ac roedd ganddo gysylltiad dwfn â hi. Er mwyn deall y dyn, rhaid i chi hefyd ddeall yr afon.
Ym 1995, pan oeddwn i’n 10 oed, dysgodd Dad fi i bysgota. Wrth edrych yn ôl, rwy’n gweld nawr faint yn fwy a ddysgodd i mi ger y glannau hynny.
Bryd hynny, roedd yr afon yn llawn o eogiaid, gwangod, brithyllod, a lampreiod ifanc yn sleifio. Roedden ni bob amser yn taflu’r hyn a ddalon ni yn ôl, “ar gyfer swper y dyfrgi”. Credai Dad fod afon iach yn drysor i’w rannu a bod natur “yn donc i’n sioncio ni”. Mae’r geiriau hynny wedi aros gyda mi, ac fel yr afon, ar ei orau, roedd yn ddyn llawn bywyd, llawn cân.
Ond hefyd fel yr afon, nid oedd yr ysbryd hwnnw bob amser yn llifeirio. Yn ystod sychder 2028, gostyngodd y dŵr i’r lefel isaf a gofnodwyd erioed, yn is nag y gallai unrhyw un ei gofio. Roedd yr afon yn drewi, methodd y cynhaeaf a bu’n rhaid dogni’r dŵr. Byddai’n anodd dychmygu atgof mwy poenus. Fel y mwyafrif o bobl, bu bron iddo dorri i lawr.
Er hynny i gyd, tra oedd eraill yn ymladd dros ffynhonnau lleol, roedd dad yn barod i rannu ein ffynnon ni â chymdogion. Roedd mam yn meddwl ei fod e’n wallgof. Efallai yr oedd e. Ond enillodd lawer iawn o barch yr haf hwnnw, a phan gysylltodd yn ddiweddarach â’r un cymdogion gyda chynlluniau i daclo’r sychder a’r llifogydd ar y cyd trwy arafu’r llif, dal y dŵr croyw a gwella’r pridd – fe wrandawodd pawb. Dwi hyd yn oed yn clywed bod Bryn yn bwriadu ailenwi ei bwll storio er anrhydedd i dad! Byddai’r hen ramantydd wedi gwirioni ar hynny, rwy’n siŵr.
Roedd Dad yn deall nad oes unrhyw weithred, da neu ddrwg, yn bodoli ar ei ben ei hun. Efallai y byddai’n llifo o amgylch y tro, yn mynd o’r golwg ac o’r meddwl, ond byddai rhywun, rhywle i lawr yr afon, yn teimlo’r effeithiau. “Ddylai neb arall fyth orfod tacluso dy lanast di” sgrechiodd unwaith ar draws y cae, ar ôl fy nal i’n taflu can oddi ar y bont. Wnes i mo hynny eto.
Bu fyw ei fywyd yn driw i’r syniad hwn, y cyfrifoldeb hwn.
Ond, wrth gwrs, er ei fod yn amddiffyn ei fangre ei hun, ni allai reoli’r hyn a ddigwyddai i fyny’r afon, nac ar ôl i’r llif ei basio. Roedd yr afon ar ei gliniau ar ddechrau’r ail ddegawd gan droi o wyrdd i frown. Ar ôl degawd arall o gamdriniaeth, ar 23 Mai 2030, fe ddatganodd ecolegydd a oedd yn ymweld yn swyddogol â’r afon, ei bod wedi marw. A chyda thranc yr afon, bu farw rhan ohono yntau. Drannoeth, fe allwn ei weld o’r tŷ yn eistedd yn dawel am oriau, yn cerfio neges ar garreg fawr ger y lan. Wedi iddo orffen, fe’i rholiodd i’r afon ac ni siaradodd amdano fyth wedyn.
Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni afon eto. A dweud y gwir, yr wythnos cyn i Dad farw, roedden ni’n eistedd ger yr afon ac yn gwylio siglen lwyd yn pigo trychfilod oddi ar wyneb y dŵr. Dywedodd mai dyma’r tro cyntaf iddo ei weld un yno ers 15 mlynedd. Roedd yn teimlo fel gwyrth fach. Ond y gwir yw ei fod yn ffrwyth llafur nifer o ddwylo a nifer o feddyliau ystyfnig (llawer ohonyn nhw yn yr ystafell hon), yn cydweithio o dan yr arweiniad cywir i glirio’r llanast a grëwyd gan eraill – llanast nad oedden ni’n barod i’w oddef mwyach.
Y bore ar ôl i dad farw, fe droediais i mewn i’r afon yn yr union fan lle’r oedd wedi rholio’i garreg fawr i’r dŵr. Ar ôl 20 munud o chwilio, fe ddes i o hyd iddo.
Rwyf am orffen trwy ddarllen y geiriau a gerfiodd ar garreg.
“Nid yr afonydd sy’n erfyn am eu gofal, ond y galon ddynol.”
Efallai bod dad wedi mynd, ond mae ein hafon yn fyw unwaith eto. Ni allaf feddwl am ffordd well o anrhydeddu’r dyn hardd a hael hwn na pharhau i ofalu am yr afon fel y gwnaeth yntau. Diolch am wrando, ac am eich holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.