Mae hi’n hydref ac mae’r coed yn mynd i gysgu. Gallaf glywed yr Afon Wysg yn rhuo drwy’r dyffryn ar ôl cyfnod arall eto o law trwm. Yn y pellter, gallaf glywed llif gadwyn. Mae fy ngŵr, fy merch a’m hŵyr yn gosod un o’n cloddiau … gan drosglwyddo’r sgil hynafol i’r genhedlaeth nesaf.
Wedi’r storm, mae tawelwch. Mae’r haul yn tywynnu ar fy wyneb, a daw disgleirdeb o liw y dail hydrefol.
Rwy’n codi cragen cnau cyll sydd wedi’i gnoi. Mae gwiwerod coch wedi dychwelyd i’r ardal. Rwy’n dangos i fy wyres lle’r oedd y wiwer wedi cnoi’r gragen a thynnu’r gneuen.
Rwy’n meddwl am y gorffennol …
Ddylwn i ddim bod wedi poeni cymaint. Roeddwn i’n ofni’n fawr mai cymdeithas gadwraethol yn unig oedd y Parc. Tybiwn mai ei rôl oedd atal unrhyw ddatblygiad yn y Parc, a chaniatáu ond y criw crand i brynu eiddo yma. Roeddwn i’n ofni y byddai’r Parc yn dod yn llawn o bentrefi noswylio dienaid, ond roeddwn i’n anghywir.
Mae ein busnes fferm yn delio â bîff, defaid ac eco-dwristiaeth, ac mae’n parhau i ffynnu hyd heddiw. Rydyn ni’n ddiolchgar am ddulliau newydd PCBB – maent wedi galluogi inni adeiladu eco-gartref modiwlaidd sy’n ynni-effeithlon o fewn y fferm. Roeddem yn gymwys gan y gallem brofi ein bod yn gwneud ein bywoliaeth yn bennaf o’r tir, ac sy’n digwydd cario drosodd i weithgareddau eraill a seiliwyd ar y tir hefyd. Mae hyn yn golygu y gall fy ngŵr a minnau barhau i fyw ar y fferm lle’r ydym wedi byw y rhan helaethaf o’n bywydau a bydd modd inni drosglwyddo ein gwybodaeth a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol. Erbyn hyn, rwy’n gallu gwylio’r wyrion tra bod fy mhlant wrthi’n wyna, yn cneifio ac yn tywys grwpiau ysgol o gwmpas y tir. Mae fy wyrion hefyd yn gallu byw ar y fferm yn awr, ac mae hynny o gymorth hanfodol i mi hefyd am eu bod yn cadw llygad arna i, gan fynd i ôl a chario pethau, gan roi’r modd imi barhau i fod yn annibynnol ac yn ddefnyddiol.
Pan ddynodwyd yr ardal hon yn Barc Cenedlaethol, roedd fy nhad-yng-nghyfraith yn mynd i Ysgol Ystradfellte ac fy mam-yng-nghyfraith i Ysgol Trallong. Yn ddiweddarach, aeth fy ngŵr i Ysgol Crai ac es innau i Ysgol Libanus. Roedd yr holl ysgolion hyn wedi hen ddiflannu erbyn 2022. Roedd pobl ifanc yn symud allan o’r ardal oherwydd diffyg swyddi a thai. Yn awr, yn y flwyddyn 2047, mae’r sefyllfa wedi’i gwrthdroi; nid yn unig mae’r bywyd gwyllt yn ffynnu ond mae ein cymunedau yn llewyrchus hefyd, gyda chenedlaethau gwahanol yn byw ochr yn ochr â’i gilydd, yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.
Yn groes i’r disgwyl, llwyddodd y Parc i gael y cydbwysedd yn iawn. Cafodd y dirwedd ei gwarchod nid fel photo o ryw amser arbennig, ond fel lle byw a deinamig, gyda chymunedau o bob oed yn ferw o brysurdeb a’r tir yn gyforiog o rywogaethau.