Wrth wrando, fe glywaf adar yn galw, y gwynt yn siffrwd yn ysgafn ar ddail y coed, a mamaliaid bychain yn gwibio trwy’r isdyfiant. Mae gylfinir yn galw yn y pellter.
Mae peillwyr yn sïo’n dawel wrth fynd o gwmpas eu busnes.
Mae’n arogli’n ffres, mae’r aer yn arogli’n lân, mae blodau gwyllt o’r dolydd a’r gwrychoedd cyfagos ar fin hadu ond mae awgrym o’u harogl yn parhau. Yn fuan, unwaith y bydd y blodau wedi hadu, bydd yr aer yn llawn o arogl glaswellt ffres wedi’i dorri.
Rwy’n sefyll yn stond, mae’r gwynt yn chwythu fy ngwallt yn ysgafn, mae cynhesrwydd yr haul ar ddiwedd yr haf yn cynhesu fy nghroen – nid yw’n rhy boeth ond mae’n ddigon cynnes.
Sylwaf ar fesen ar y ddaear. Ychydig yn gynnar efallai, ond mae’n symbol o adfywiad a chynaliadwyedd i mi. Mae’n braf meddwl y gallai’r fesen hon dyfu’n goeden hynafol, flynyddoedd lawer i’r dyfodol, gan ddarparu cynefin i gynifer o rywogaethau.
Rwy’n teimlo’n ddigyffro, yn hamddenol ac yn rhydd, ac eto rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ysgogi gan yr awyrgylch. Mae’r bywyd gwyllt yn fy annog i. Mae’n ysbrydoledig gweld y dirwedd hon, lle mae pobl a natur, o bob cefndir yn cydweithio ac yn cydfodoli mewn cytgord a pharch.
Rwy’n ysgrifennu am y pethau yr wyf wedi’u dysgu ac yn eu gyrru atat ti, sef fy hun yn y gorffennol …
Mae gan natur y gallu i adfer. Does ond angen i ni weithio gyda’n gilydd ac egluro’r pwysigrwydd o gydweithio. Peidiwch â bod ofn gweithredu, i feddwl yn fawr. Bydd natur yn gwella, a bydd y gwaith yn talu ar ei ganfed. Gallwch wneud hyn – cofiwch weld popeth fel cyfle i wella’r blaned a’r Parc Cenedlaethol. Pob lwc!