Cenhadaeth
Ansawdd Bywyd
Y gofod cyfiawn a diogel
Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys pobl amrywiol a thirwedd hynafol. Yma, rydyn ni’n sôn am y rhai sy’n byw o fewn ein ffiniau, y rhai sydd wedi adeiladu’u bywydau yma, ymgartrefu yma, magu teuluoedd, caru, chwerthin ac wynebu’u hofnau yma.
Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at bobl sy’n rhedeg busnesau o’r Parc ac efallai eu bod yn croesawu un o’r 5 miliwn o ymwelwyr a welwn bob blwyddyn; efallai eu bod yn ffermio’r tir, yn magu stoc ar y bryniau fel y gwnaed ers cenedlaethau, neu’n gwneud rhywbeth cwbl wahanol, pwy a ŵyr! Rydyn ni hefyd yn cyfeirio at yr ymwelwyr sy’n dod i edmygu’r golygfeydd, ac i droedio’n ysgafn ar ein tir a mwynhau ychydig o’n lletygarwch enwog.
Ein pobl yw ein cryfder, a thrwy ein pobl y byddwn yn sicrhau’r newid sydd ei angen ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Rydyn ni’n ailadrodd yr angen am newid dro ar ôl tro er budd cenedlaethau’r dyfodol o drigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnes.
Fodd bynnag, mae ein poblogaeth breswyl yn heneiddio, a chydag amser bydd hynny’n golygu llai o weithwyr iau a fydd, yn ei dro, yn cael effaith gynyddol ar wasanaethau, cyfleusterau, ac economi a chynaliadwyedd y dyfodol. Mae hefyd yn dylanwadu ar agweddau wrth i leisiau pobl ifanc gilio o’n cymunedau.
Mae cymunedau’n cael eu herio gan y gyfran uchel o dai a ddefnyddir fel ail gartrefi a chartrefi gwyliau. Er bod y rhain yn dod â budd economaidd, maent hefyd yn creu bylchau mewn cymunedau lle mae tai’n wag, ac wrth i gymunedau brinhau mewn niferoedd, mae eu cydlyniaeth a’u hymdeimlad o berthyn yn dioddef. Mae ein proffil ymwelwyr wedi newid yn aruthrol ers cyfnodau clo COVID. Rydyn ni’n gweld mwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen a chan nad oes seilwaith gan rai ardaloedd o’r Parc i gefnogi’r lefelau hynny, mae ymwelwyr a chymunedau yn gorfod delio â chanlyniadau sy’n llai na chadarnhaol.
Wrth ystyried y boblogaeth barhaol a thros dro, fe welwn ein bod wedi symud y tu hwnt i derfynau lle gall cymdeithas a’r blaned weithredu’n ddiogel. Mae ein cymunedau yn cael eu peryglu ac nid yw eu hanghenion yn cael eu diwallu. Er yn anfwriadol, mae ein hymwelwyr yn achosi niwed i’r union amgylcheddau naturiol y maent wedi dod i’w gweld a’u gwerthfawrogi. Dyna pam mae ein cenhadaeth yn canolbwyntio mor gryf ar ddiwallu anghenion o ddydd i ddydd mewn modd sy’n parchu terfynau systemau’r blaned. Mae newid y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad i’r Parc yn hollbwysig os ydym am sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy iddynt o fewn y Parc Cenedlaethol.