Cenadaeth
Dŵr
Dalgylchoedd Gwydn
Amgylcheddau Dŵr o Ansawdd Uchel
Dŵr
Dŵr yw’r sylwedd mwyaf sylfaenol sy’n gysylltiedig ag iechyd y ddynoliaeth a’r blaned. Dyma’r elfen sy’n cynnal holl blanhigion ac anifeiliaid y Ddaear yn ogystal â’n systemau allweddol, megis cynhyrchiad bwyd, diwydiant a glanweithdra.
Mae dŵr fel adnodd yn cael ei ddefnyddio ar gyfradd anghynaliadwy. Amcangyfrifir erbyn 2050 bod tua hanner biliwn o bobl yn debygol o ddioddef straen dŵr. Mae hynny yn ein cynnwys ni yma ym Mannau Brycheiniog ynghyd â’r dalgylchoedd ehangach a gyflenwir gan ein hadnoddau dŵr. Mae 50% o ddŵr a dynnir gan Ddŵr Cymru yn ddyddiol yn dod oddi mewn i’n ffiniau ni.
Yn 2021, cyhoeddodd Canolfan Gwytnwch Stockholm ddata newydd, yn edrych ar “ddŵr gwyrdd”, sef y dŵr sydd wedi’i wreiddio yn y pridd a’r atmosffer ac sy’n hanfodol i ddiogelu gweithrediad y systemau planedol. Canfu eu hasesiad ein bod fel hil ddynol yn defnyddio’r adnodd hwn ar draws y byd ar gyfradd ac ar raddfa sy’n anghynaliadwy, ac a allai fygwth sefydlogrwydd ein planed, neu ein gallu i ecsbloetio’r adnodd ar y lefelau presennol. Roeddent yn annog inni gynnal ymchwiliad newydd i asesu’r bygythiad a achosir gan ein defnydd o systemau dŵr, ac i ganfod ffyrdd o liniaru ac addasu i’r newid o ran argaeledd a hinsawdd.
Nid maint y dŵr yn unig sydd dan fygythiad, yn anffodus mae data byd-eang a lleol yn dangos bod ein hamgylcheddau dŵr yn cael eu niweidio gan effeithiau dynol. Mae ein gweithgareddau’n ychwanegu gormod o faetholion, cemegau, metelau trwm a phlastigau i’r systemau hanfodol hyn. Yn fyd-eang, mae 35% o’n gwlyptiroedd wedi diflannu er 1970, gan arwain at ostyngiad mewn 83% o rywogaethau dŵr croyw.
Yma yn y Parc Cenedlaethol, fe welir yr un bygythiadau. Afonydd a gwlyptiroedd yw nodweddion mwyaf ecolegol bwysig y Parc Cenedlaethol. Maent yn rhan bwysig o’n hamgylchedd hanesyddol a diwylliannol, gan ddarparu cryn fanteision o ran iechyd a llesiant. Fodd bynnag, nhw hefyd yw’r amgylcheddau a’r adnoddau sydd o dan y bygythiad mwyaf.
Mae ystod o effeithiau cyfansawdd wedi cyrraedd y pwynt lle na all prosesau hunan-reoleiddio naturiol sy’n hanfodol i ansawdd a maint yr amgylcheddau dŵr, weithredu’n iawn mwyach. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â lefelau ffosffad sydd mor arwyddocaol ar adeg ysgrifennu hyn, fel bod angen newid sylfaenol mewn arferion rheoli tir a thrin dŵr.
Uchelgais y Cynllun ar gyfer ansawdd, maint ac amgylcheddau dŵr yw sicrhau bod yr adnodd hanfodol hwn yn cael ei warchod er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Byddwn yn gweithio ar draws sefydliadau, cyrff amgylcheddol anllywodraethol, grwpiau dinasyddion a chyrff statudol i sicrhau y gallwn warchod yr adnodd hwn ar gyfer y dyfodol.