Cenhadaeth
Cydweithio ar gyfer dyfodol gwell
Ein Lleoedd ni
Cyfannol Cynlluniau Lle
Mae’r genhadaeth hon yn canolbwyntio ar gyd-greu a chyflwyno Cynlluniau Lle Cyfannol gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol.
Mae Cynllun Lle yn gydweithrediad rhwng cymunedau lleol a sefydliadau statudol, wrth iddynt gyd-greu gweledigaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer y dyfodol, ynghyd â chynllun gweithredu. Bydd yr union feysydd ffocws ac ymyrraeth yn seiliedig ar ddealltwriaeth o faterion a chyfleoedd y lleoliadau unigol, ond gallent gynnwys, er enghraifft, gweithgaredd yn ymwneud â
- Diogeledd bwyd yn y dyfodol, e.e. creu cadwyni cyflenwi bwyd lleol, newidiadau mewn defnydd tir.
- Sgiliau a swyddi yn y dyfodol, e.e. canfod anghenion hyfforddi ar sgiliau i feithrin gwytnwch cymunedol.
- Cysylltu â natur fel rhan o ddarpariaeth iechyd ataliol a gwella mynediad i fannau gwyrdd naturiol.
- Twristiaeth gynaliadwy, e.e. creu mynediad cynaliadwy i dwristiaeth yn yr ardaloedd dan bwysau.
- Lliniaru ac addasu’r hinsawdd, e.e. cynllunio ynni cymunedol.
- Gwella a gwarchod yr amgylchedd adeiledig a’i dreftadaeth.
- Cefnogi’r economi leol a mentrau cymdeithasol.
- Cydlyniant a llesiant cymunedol.
- Trafnidiaeth gynaliadwy, rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan.
- Creu Canol Trefi’r Dyfodol
Mae’r Parc Cenedlaethol yn dirwedd ddynodedig. Mae’n lle sydd wedi’i warchod oherwydd ei ansawdd golygfaol a’i brydferthwch cynhenid, ac mae’n ymgyffwrdd â’r teimladau dwfn hynny sydd gan bobl tuag at natur a harddwch naturiol.
Mae ein dynodiad yn deillio o gyfnod yn ein hanes lle’r oedd mynediad i dirweddau o’r fath yn anghyfartal ac yn rhanedig. Rhoddodd mudiad y Parciau Cenedlaethol yn y 1940au yr hawl i’r genedl gyrchu’r lleoedd hyn ar gyfer eu y buddion iechyd a llesiant, buddion yr oedd eu hangen yn ddirfawr ar fyd oedd newydd brofi arswyd yr Ail Ryfel Byd.
Mewn byd ôl-COVID, rydym yn cydnabod bod angen y cysylltiadau hyn yn awr yn fwy nag erioed, ond yn sgil yr unfed ganrif ar hugain, fe wynebodd y Parciau Cenedlaethol gyfres o anghenion a gofynion dybryd eraill. Rôl y tirweddau hyn yn awr yw cefnogi’r dasg o adfer byd natur a dal carbon mewn ffyrdd na all lleoliadau trefol mo’u cyflawni. Gwnawn hyn er budd cenedlaethau’r dyfodol yn ein rôl fel adnodd i’r genedl. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r Parc Cenedlaethol weithio’n galetach ac yn gallach fel lle, er mwyn cysylltu pobl a natur i sicrhau bod y ddau yn ffynnu mewn ffordd sydd o fudd i’r ddwy ochr, yn awr ac am byth.
Y cysyniad o Le yw angor ein cenadaethau, a dyna sy’n asio’r gwaith hwn ynghyd. Ein hymdriniaeth o Le sy’n peri inni weithio gyda’n gilydd i roi’r atebion ar waith, i ysgogi’r newid, ac i adeiladu dyfodol ar gyfer ein hinsawdd, dŵr, natur a phobl. Rydyn ni’n gweithio gyda’r bobl a’r asiantaethau sydd â’u gwreiddiau’n ddwfn yn y lleoedd hyn, i wahanol raddau, er mwyn pennu’r heriau allweddol a chydweithio i ddod o hyd i’r atebion sy’n gweithio ar lawr gwlad. Wrth wneud hyn, rydyn ni’n ceisio mynd at wraidd yr hyn sy’n gwneud lleoedd yn fannau gwych i weithio, byw a chwarae ynddynt trwy ddarparu gwasanaethau ecosystem megis glanhau’r aer a’r dŵr, a chloi’r carbon.
Rydyn ni wedi dewis datblygu’r genhadaeth hon trwy gynllunio lleoedd cyfannol gan fod hyn yn ymgorffori’r egwyddorion arweiniol y mae’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn eu harddel ar gyfer tirweddau gwarchodedig fel Bannau Brycheiniog – sef, rheoli lleoedd gyda’r bobl a thrwy’r bobl, ac yn bennaf ar gyfer a chan y bobl.
Rydyn ni’n dathlu’r cynllunio ar y lefel leol hon fel proses o rymuso, wrth inni ddosbarthu awdurdod o’r gweithredwyr statudol i bobl y Parc Cenedlaethol.
Trwy’r gweithredu hwn y mae esgor ar arloesedd a chysylltiadau. Am hynny, mae’r uchelgais i ymgorffori’r broses o gynllunio lleoedd ar wahanol raddfeydd, mewn gwahanol fannau, yn hollbwysig i gyflawni pob un o’n Cenadaethau ni.
Trwy’r cysylltiadau hyn, rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith gwydn o leoedd llawn gobaith, yn barod i gwrdd â heriau’r unfed ganrif ar hugain