Cenadaeth

Natur

Nodau
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n Natur-Bositif erbyn 2030
Beth os awn ni tu hwnt gyfyngu ar difrod? Beth os yw ein gweithgareddau economaidd nid yn unig yn lleihau effeithiau, ond hefyd yn gwella ecosystemau? Mae agwedd gadarnhaol at natur yn cyfoethogi bioamrywiaeth, yn storio carbon, yn puro’r dŵr ac yn lleihau’r risg bandemig. Mae agwedd gadarnhaol at natur yn gwella gwytnwch ein planed, ein cymdeithasau a’n heconomïau.
Johan Rockström
Sefydliad Potsdam ar gyfer Ymchwil i Effaith Hinsawdd

Adfer Cynefinoedd

Bydd pob un o brif gynefinoedd y parc cenedlaethol, gan gynnwys glaswelltir, coetir brodorol, rhostir yr ucheldir, a mawndir, ar y ffordd i adferiad.
Dirywiad Wedi Ei Atal
Mae colli cynefin trwy newid defnydd tir yn cael ei atal, mae gor-ecsbloetio yn cael ei gwtogi, ac mae rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu rheoli.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Cael eu Cadw
Mae holl nodweddion SoDdGA mewn cyflwr ffafriol.
Cynefin Diraddiedig Wedi’i Adfer a Natur Wedi Dychwelyd.
Cynnydd ym maint y cynefin sydd mewn cyflwr ecolegol ffafriol
Natur Wedi Dychwelyd
Cynnydd yn arwynebedd pob cynefin trwy adfer tir oedd wedi’i drawsnewid a’i droi’n gynefin naturiol.

Cadwraeth Rhywogaethau

Mae rhywogaethau blaenllaw sy’n nodweddu’r parc cenedlaethol neu gynefinoedd penodol yn cynyddu mewn nifer neu ehangder
Lleihau Bygythiadau
Mae bygythiadau critigol i rywogaethau ar drai, gan gynnwys rheolaeth niweidiol o dir a dŵr a’r goresgyniad gan rywogaethau estron.
Niferoedd Wedi Cynyddu
Mae nifer pob rhywogaeth flaenllaw yn cynyddu.
Ystod Wedi Cynyddu
Mae gwasgariad pob rhywogaeth flaenllaw yn cynyddu.
Brecon Beacons Action Curlew Recovery Project. Image of Curlew

Rheoli’r Ecosystem

Mae swyddogaethau a gwasanaethau’r ecosystem a gynhyrchir gan y parc cenedlaethol yn cael eu gwella
Mae’r Gwytnwch yn Well
Mae cysylltedd ar gynnydd o fewn a rhwng yr ecosystemau fel y gall natur addasu’n well i newid hinsawdd.
Mae’r Gwasanaethau Ecosystem yn Cael eu Cefnogi
Mae holl ecosystemau'r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys ardaloedd sy’n cael eu defnyddio’n ddwys, yn cael eu rheoli i wneud y gorau o ystod o wasanaethau’r ecosystem, gan gynnwys bwyd, dŵr, hinsawdd ac amwynder.
Adsefydlu Ecosystemau
Mae risgiau ecosystem, gan gynnwys erydiad pridd, llygredd, llifogydd a thân, yn cael eu lliniaru i gefnogi natur a chymdeithas fel y gallant addasu i’r newid hinsawdd.

Natur

Tynnodd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2019, sylw at y ffaith fod Cymru wedi colli 73 o rywogaethau ers y 1970au gyda 666 arall mewn perygl o ddiflannu.

Canfu’r Adroddiad ar Gyflwr y Parc yn 2020 fod wyth rhywogaeth ar y “rhestr goch” wedi prinhau dros 50% yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys y wennol ddu werdd, y llinos werdd, y siglen lwyd, melyn yr eithin, y gylfinir, tinwen y garn a’r ydfran.

Dangoswyd bod rhai o’n hadar mwyaf cyfarwydd, fel y ji-binc a’r titw tomos las, wedi prinhau rhwng 25 a 50%. Gwelwyd y gostyngiadau hyn ar draws llu o rywogaethau a chynefinoedd, sy’n dynodi problemau eang o fewn ecosystemau, gyda chanlyniadau dwys i fyd natur a’r ddynoliaeth.

Mae’r Genhadaeth Natur – sef, sicrhau bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Natur-bositif erbyn 2030 – yn bwriadu troi’r gornel ar y dirywiad presennol gan weld byd natur ar i fyny erbyn 2030.

Mae angen inni atal y dirywiad mewn cynefinoedd, adfer y rhai sydd wedi’u diraddio, a dychwelyd rhai yn ôl at natur, ac mae’n rhaid inni gyflawni hyn heb aberthu un cynefin i achub un arall. Rhaid canolbwyntio mwy ar y 60 a mwy o Safleoedd Biolegol o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr addawol ac yn esiamplau o gadwraeth dda. Mae angen rhoi sylw penodol i atal dirywiad rhywogaethau blaenllaw a chynyddu eu niferoedd a’u hamrywiaeth, trwy leihau bygythiadau ac ehangu cynefinoedd. Mae gwasanaethau a gynhyrchir gan ecosystem y Parc Cenedlaethol – dŵr yfed, lle i ddal a storio carbon, lle i gysylltu â natur – yn hanfodol i’r bobl y tu mewn a thu hwnt i’r Parc Cenedlaethol. Mae angen gweithredu mwy cydlynol a mwy cydgysylltiedig ac mae angen gwneud mwy i ddiogelu’r gwasanaethau hyn, a chefnogi’r dasg o gynhyrchu bwyd lleol yn gynaliadwy.

Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn ardaloedd gwarchodedig Categori V, sy’n golygu eu bod yn “dirweddau gweithredol byw”. Mae’n hanfodol fod Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu’n llawn at addewid Llywodraeth y DU i sicrhau bod 30% o’r tir a’r môr yn cael eu diogelu ar gyfer byd natur erbyn 2030, a’n bod ar ben hynny’n bodloni argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig sy’n deillio o Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth. Y prif gynefinoedd yn y Parc Cenedlaethol yw’r glaswelltiroedd (gan gynnwys glaswelltiroedd lled-naturiol a glaswelltiroedd sydd wedi’u gwella, yn ogystal â glaswelltiroedd calchaidd ac asid), coetiroedd (dail llydan, conwydd a chymysg), rhostir, mawndir, tir amaeth, gwlyptiroedd a dŵr agored. Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys 104 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gyda 72 (69%) ohonynt yn SoDdGA biolegol a 13 (13%) yn gymysg. Mae’r SoDdGA biolegol yn cyfrif am 12,668 hectar (9% o’r Parc Cenedlaethol) ac mae’r SoDdGA cymysg yn cyfrif am 16,041 hectar (12% o’r Parc). Mae SoDdGA yn cwmpasu pob un o brif gynefinoedd y Parc (glaswelltir, mawndir, coetir, rhostir, gwlyptir a chyrff dŵr).

Ein gweledigaeth yw bod yr holl Barc Cenedlaethol yn gweithredu’n effeithiol fel ardal warchodedig, ac yn cefnogi defnydd tir a strategaethau rheoli sy’n cyfrannu at adfer cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau a gweithredu ecosystemau. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei arwain gan argymhellion Cymdeithas Ecolegol Prydain i Barciau Cenedlaethol sef “cyflawni dros natur yn y tymor hir (effeithiolrwydd)” ac “adeiladu gwytnwch ecolegol a gwella bioamrywiaeth (yn wyneb newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill”.

Mae cyflawni canlyniad cadarnhaol ar gyfer y byd natur yn ein herio i werthuso cyflwr a thueddiadau presennol y Parc Cenedlaethol, ac i gyflwyno adnoddau ychwanegol a sylweddol lle mae eu hangen fwyaf. Bydd cydweithredu effeithiol, ar raddfa lawer mwy, wrth wraidd y dasg o gyflawni hynny’n effeithiol. Ffermwyr yw’r grŵp mwyaf o ddefnyddwyr tir yn y Parc Cenedlaethol a byddant yn ganolog i’r datblygiadau arloesol sydd eu hangen i wireddu’r genhadaeth natur.

Mae ein hamgylchedd naturiol yn ein cynnal yn gorfforol, yn feddyliol, yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.
Mae’r Bannau yn dirwedd fyw, yn frithwaith gynefinoedd ac ecosystemau naturiol, lled-naturiol rheoledig. Mae’n gartref goetiroedd, mawndiroedd, rhostiroedd, porfa, dolydd mwy.
Ein rôl yw defnyddio ein sgiliau a’n data ddeall cymhlethdod hwn, ac ddefnyddio’r wybodaeth weithio mewn partneriaeth â phawb sy’n rheoli neu’n berchen ar dir yn Parc (gan gynnwys ni ein hunain) er mwyn diogelu, atgyweirio ac adfywio ein cynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau allweddol

Fel sefydliad mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i'r canlynol ar gyfer Natur

Chwilio
Byddwn yn archwilio ac yn sianelu’r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy’n ysgogi newid amgylcheddol er mwyn cefnogi ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau i sefydlu ffyrdd newydd o weithio sy’n cefnogi cymunedau ffyniannus ac yn atgyweirio ac yn adfer ein hecosystemau hanfodol.
Gwreiddio
Bydd adfer byd natur a gwarchod ein tirwedd byw yn rhan annatod o’n holl weithgareddau yn y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn cynyddu ein rôl i warchod a diogelu fel ein bod yn eiriolwyr ar gyfer adferiad natur ym mhopeth a wnawn.
Arbenigwyr
Byddwn yn gosod esiampl trwy roi blaenoriaeth i warchod ac adfer ein tir ein hunain ar gyfer adferiad natur a thargedu ein cefnogaeth i rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau gwarchodedig a flaenoriaethwyd o fewn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys nodweddion SoDdGA ac ACA.
Tystiolaeth
Byddwn yn defnyddio ein data ni ynghyd â data ein partneriaid ac ymchwilwyr i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur, gan flaenoriaethu rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau’r Parc Cenedlaethol er mwyn diogelu ac adfer, a monitro cynnydd.
Sefydlu Partneriaethau
Byddwn yn sefydlu partneriaethau gyda thirfeddianwyr a’r sector amaethyddol i archwilio a sefydlu dulliau adfywiol ar gyfer ffermio a rheoli tir sydd hefyd yn cefnogi ein heconomi wledig ac yn ein paratoi ni ar gyfer y dyfodol
Rhannu Offer
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i rannu dulliau a strategaethau sy’n cynnig yr arferion gorau, gan gefnogi pawb i ddeall y ffordd y gallant gyfrannu’n weithredol at gadwraeth ac adferiad natur, gan gynnwys rheoli rhywogaethau estron goresgynnol.

Lleisiau Natur

Mae Lleisiau Brycheiniog yn gyfres o straeon creadigol, cerddi, caneuon, a chardiau post gan bobl Brycheiniog. Ymgollwch yn eu straeon, eu gwerthoedd a’u hangerdd dros Fannau Brycheiniog.
Llythyr gan Mair Brychan at Dylan Brychan