Cenadaeth
Adfer Cynefinoedd
Cadwraeth Rhywogaethau
Rheoli’r Ecosystem
Natur
Tynnodd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2019, sylw at y ffaith fod Cymru wedi colli 73 o rywogaethau ers y 1970au gyda 666 arall mewn perygl o ddiflannu.
Canfu’r Adroddiad ar Gyflwr y Parc yn 2020 fod wyth rhywogaeth ar y “rhestr goch” wedi prinhau dros 50% yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys y wennol ddu werdd, y llinos werdd, y siglen lwyd, melyn yr eithin, y gylfinir, tinwen y garn a’r ydfran.
Dangoswyd bod rhai o’n hadar mwyaf cyfarwydd, fel y ji-binc a’r titw tomos las, wedi prinhau rhwng 25 a 50%. Gwelwyd y gostyngiadau hyn ar draws llu o rywogaethau a chynefinoedd, sy’n dynodi problemau eang o fewn ecosystemau, gyda chanlyniadau dwys i fyd natur a’r ddynoliaeth.
Mae’r Genhadaeth Natur – sef, sicrhau bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Natur-bositif erbyn 2030 – yn bwriadu troi’r gornel ar y dirywiad presennol gan weld byd natur ar i fyny erbyn 2030.
Mae angen inni atal y dirywiad mewn cynefinoedd, adfer y rhai sydd wedi’u diraddio, a dychwelyd rhai yn ôl at natur, ac mae’n rhaid inni gyflawni hyn heb aberthu un cynefin i achub un arall. Rhaid canolbwyntio mwy ar y 60 a mwy o Safleoedd Biolegol o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr addawol ac yn esiamplau o gadwraeth dda. Mae angen rhoi sylw penodol i atal dirywiad rhywogaethau blaenllaw a chynyddu eu niferoedd a’u hamrywiaeth, trwy leihau bygythiadau ac ehangu cynefinoedd. Mae gwasanaethau a gynhyrchir gan ecosystem y Parc Cenedlaethol – dŵr yfed, lle i ddal a storio carbon, lle i gysylltu â natur – yn hanfodol i’r bobl y tu mewn a thu hwnt i’r Parc Cenedlaethol. Mae angen gweithredu mwy cydlynol a mwy cydgysylltiedig ac mae angen gwneud mwy i ddiogelu’r gwasanaethau hyn, a chefnogi’r dasg o gynhyrchu bwyd lleol yn gynaliadwy.
Mae Parciau Cenedlaethol y DU yn ardaloedd gwarchodedig Categori V, sy’n golygu eu bod yn “dirweddau gweithredol byw”. Mae’n hanfodol fod Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu’n llawn at addewid Llywodraeth y DU i sicrhau bod 30% o’r tir a’r môr yn cael eu diogelu ar gyfer byd natur erbyn 2030, a’n bod ar ben hynny’n bodloni argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig sy’n deillio o Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth. Y prif gynefinoedd yn y Parc Cenedlaethol yw’r glaswelltiroedd (gan gynnwys glaswelltiroedd lled-naturiol a glaswelltiroedd sydd wedi’u gwella, yn ogystal â glaswelltiroedd calchaidd ac asid), coetiroedd (dail llydan, conwydd a chymysg), rhostir, mawndir, tir amaeth, gwlyptiroedd a dŵr agored. Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys 104 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gyda 72 (69%) ohonynt yn SoDdGA biolegol a 13 (13%) yn gymysg. Mae’r SoDdGA biolegol yn cyfrif am 12,668 hectar (9% o’r Parc Cenedlaethol) ac mae’r SoDdGA cymysg yn cyfrif am 16,041 hectar (12% o’r Parc). Mae SoDdGA yn cwmpasu pob un o brif gynefinoedd y Parc (glaswelltir, mawndir, coetir, rhostir, gwlyptir a chyrff dŵr).
Ein gweledigaeth yw bod yr holl Barc Cenedlaethol yn gweithredu’n effeithiol fel ardal warchodedig, ac yn cefnogi defnydd tir a strategaethau rheoli sy’n cyfrannu at adfer cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau a gweithredu ecosystemau. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei arwain gan argymhellion Cymdeithas Ecolegol Prydain i Barciau Cenedlaethol sef “cyflawni dros natur yn y tymor hir (effeithiolrwydd)” ac “adeiladu gwytnwch ecolegol a gwella bioamrywiaeth (yn wyneb newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill”.
Mae cyflawni canlyniad cadarnhaol ar gyfer y byd natur yn ein herio i werthuso cyflwr a thueddiadau presennol y Parc Cenedlaethol, ac i gyflwyno adnoddau ychwanegol a sylweddol lle mae eu hangen fwyaf. Bydd cydweithredu effeithiol, ar raddfa lawer mwy, wrth wraidd y dasg o gyflawni hynny’n effeithiol. Ffermwyr yw’r grŵp mwyaf o ddefnyddwyr tir yn y Parc Cenedlaethol a byddant yn ganolog i’r datblygiadau arloesol sydd eu hangen i wireddu’r genhadaeth natur.