Partneriaeth Bro’r Sgydau
Helen Roderick
Rheolwr Rhanddeiliaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Rydyn ni’n grŵp o bobl leol a swyddogion cyflogedig ac yn dod at ein gilydd i weithredu ar faterion allweddol sy’n wynebu Bro’r Sgydau.
Mae ein haelodaeth o reidrwydd yn eang: mae gennym gynrychiolwyr o’r Awdurdodau Unedol perthnasol, grwpiau cymunedol, a rheolwyr tir fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn ni’n gweithio i reoli’r ardal fel cyrchfan i ymwelwyr sy’n dod â budd i’r amgylchedd a’r gymuned.
Cawsom ein ffurfio beth amser yn ôl a bryd hynny roedd ein ffocws yn un strategol a oedd yn anelu at ddod ag asiantaethau allweddol ynghyd i gyfuno syniadau ar ffyrdd o gyd-reoli’r ardal i’r dyfodol. Fodd bynnag, yn sgil y pandemig, cynyddodd nifer yr ymwelwyr â Bro’r Sgydau ymhell y tu hwnt i gapasiti’r seilwaith presennol. Am hynny, bu raid inni ffocysu’n fawr iawn ar liniaru’r effeithiau a ddaw yn sgil lefelau ymwelwyr o’r fath. Mae’r dull hwn sy’n canolbwyntio ar weithredu, wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud newidiadau allweddol – ond mae mwy i’w wneud o hyd.
Heriau’r Dyfodol
Yn sgil poblogrwydd Bro’r Sgydau, mae’n her i’r ardal fedru darparu ar gyfer nifer yr ymwelwyr yn ddiogel. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Bro’r Sgydau wedi dod yn enghraifft o “or-dwristiaeth”; hynny yw, mae nifer yr ymwelwyr bellach yn achosi niwed i’r ardal ar raddfa ac i’r graddau y mae angen gweithredu ar frys.
Efallai mai Bro’r Sgydau yw ardal fwyaf bioamrywiol y Parc Cenedlaethol gyda’i ddyfnentydd a cheunentydd yn torri drwy’r goedwig law dymherus a’r Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae’r rhanddeiliaid wedi datblygu dealltwriaeth o sensitifrwydd Bro’r Sgydau, ac wedi creu cynllun rheoli, codau ymddygiad a Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Bro’r Sgydau. Caiff pwysau o du’r ymwelwyr ei fonitro mewn perthynas â chapasiti’r llwybrau troed, sydd yn ei dro yn effeithio ar gapasiti’r ecoleg
Nifer Yr Ymwelwyr
Penbleth enfawr i’r bartneriaeth yw’r mater o fynediad i ymwelwyr. Rydyn ni eisiau ac yn croesawu ymwelwyr i’r ardal, ac rydyn ni’n gwybod bod yr ardal hon yn cael ei choleddu gan lawer o ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd, ond mae’r niferoedd sy’n dod i’r ardal wedi mynd y tu hwnt i’r pwynt lle mae’n ddiogel. Mae’r niferoedd hyn o ymwelwyr yn niweidiol i’r ecosystemau bregus sy’n rhan o amgylchedd Bro’r Sgydau, a hefyd yn niweidiol i’r rhai sy’n byw yn y cymunedau dan sylw wrth iddynt gael eu boddi gan geir yr ymwelwyr bob blwyddyn.
Trafnidiaeth Gynaliadwy
Ar hyn o bryd, yr unig ffordd wirioneddol ymarferol i ymwelwyr ddod i fwynhau Bro’r Sgydau yw mewn car preifat. Nid yn unig y mae hyn yn creu lefelau enfawr o bwysau parcio o fewn pentrefi gwledig bach, ond y mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol tuag at ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd aer. Mae niferoedd y ceir yn creu anhrefn ac yn amharu ar rinweddau arbennig y Parc. Mae’r allyriadau yn effeithio ar yr argyfwng natur a bioamrywiaeth.
Darparu Buddiant Cymunedol
Mae gan yr economi ymwelwyr y potensial i gyfrannu’n sylweddol at incwm yr ardal a’r cyffiniau, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghwm Nedd Uchaf. Ar hyn o bryd, am ba reswm bynnag, mae gwariant ymwelwyr yn eithriadol o gyfyngedig ac nid yw’r ardaloedd yn cael llawer o fudd economaidd o lefelau’r ymwelwyr sy’n pasio drwodd bob blwyddyn
Gweledigaeth Y Dyfodol
Rydyn ni am greu dyfodol lle mae’r rhaeadrau yn gyrchfan gynaliadwy i ymwelwyr, yn cael eu rheoli mewn partneriaeth, ac yn cyfrannu at yr economi ymwelwyr lleol. Mae gwireddu’r weledigaeth hon yn dibynnu ar waith parhaus y bartneriaeth hon ymhell i’r dyfodol. Dim ond trwy gyfuno ein hadnoddau y gallwn ni sicrhau profiad diogel a phleserus i’r rhai sy’n ymweld â Bro’r Sgydau
Y Bannau
Mae’r Bannau yn cyd-fynd yn dda â gwerthoedd y Bartneriaeth. Credwn ein bod eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at nodau’r Cynllun, ac yn gobeithio y gallwn ni godi proffil y dasg o reoli ymwelwyr yn gynaliadwy fel rhywbeth sy’n gweithredu er budd natur, dŵr a hinsawdd yn ogystal â phobl a lle