Partneriaeth Dalgylch Afon Wysg

Partneriaeth ddatblygol sy’n ceisio ail-greu gwytnwch ecolegol Afon Wysg a’i dalgylch

Helen Lucocq
Rheolwr Strategaeth a Pholisi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Afon Wysg yw’r system afon warchodedig hiraf yng Nghymru, ac mae wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig..

Canfu ymchwil a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru fod 87% o’r cyrff dŵr yn nalgylch Afon Wysg yn methu’r lefelau targed ar gyfer y maetholyn ffosfforws. Mae ffosfforws yn cael ei ystyried yn eang fel y maetholyn mwyaf niweidiol i ecosystemau dyfrol, ac sydd fwyaf tebygol o gynyddu yn y dyfodol yn sgil newid hinsawdd. Mae ymchwil a wnaed yn y dalgylch yn nodi bod ystod o ffactorau yn cyfrannu at lefelau maetholion yn Afon Wysg ac mai dim ond gweithredu trwy ddull partneriaeth y gellir datrys y problemau hyn

Heriau’r Dyfodol

Nid ffosffadau yw’r unig broblem y mae dalgylch Afon Wysg yn ei wynebu. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae maint ac amlder llifogydd wedi cynyddu gan achosi niwed cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae’r dalgylch wedi’i nodi fel ardal sydd dan fygythiad gan lu o rywogaethau estron goresgynnol a niweidiol. Mae yna halogion posibl eraill nad oes data ar gael ar eu cyfer hyd yma, e.e. Nitradau ac Amonia, a’u goblygiadau megis newidiadau mewn pH dŵr a chynnydd yn y galw am ocsigen biolegol. Mae lefelau echdynnu o Afon Wysg yn uchel iawn, a gwneir hynny’n rhannol i wasanaethu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, ond hefyd i gyflenwi dŵr er defnydd yfed ac amaethu. Mae pwysau o du’r sector hamdden ar Afon Wysg yn uchel, gyda llawer yn defnyddio’r dyfroedd ar gyfer pysgota a chwaraeon dŵr.

Mae’r holl ffactorau hyn, gyda’i gilydd, wedi mynd ag Afon Wysg heibio i drobwynt o ran integredd ecolegol.

Mae angen gweithredu’n bendant ac ar frys fynd i’r afael â’r argyfwng sicrhau’r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar reolaeth tir ac ymddygiad.
Helen Lucoq
Rheolwr Strategaeth a Pholisi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Dull cydlunio

Rydyn ni wedi bod yn ffodus i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn ein helpu i fynd i’r afael â’r problemau ffosffad y mae Afon Wysg yn eu hwynebu; fodd bynnag, credwn y dylid gwneud hyn drwy’r bartneriaeth am na allwn daclo’r mater ar ein pennau ein hunain. Dyna pam mae’r bartneriaeth ar gyfer Afon Wysg yn canolbwyntio ar ailsefydlu a diogelu nodweddion gwarchodedig Afon Wysg er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Hyd yma, mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio ar ddatblygu strwythur cadarn sy’n cynrychioli’r ystod a’r amrywiaeth o ddiddordebau a materion y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae adnoddau sylweddol wedi’u neilltuo i gyd-lunio’r strwythur hwn er mwyn sicrhau bod ganddo’r gallu i ddatblygu cynllun gweithredu cyflawnadwy ar gyfer Afon Wysg. Drwy ganolbwyntio ar gyd-lunio strwythur y bartneriaeth, rydym wedi ceisio creu consensws o’r dechrau. Mae’r partneriaid sy’n ymwneud â’r cyd-lunio wedi cynnwys Dŵr Cymru, CNC, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Powys, Cyngor Dinas Casnewydd, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Sefydliad Gwy ac Wysg, UAC, UCA, Grŵp Dŵr y Bannau (grŵp ffermio lleol), a sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol. Mae ein gwaith yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i Chynllun Gweithredu Ffosffad.

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Erbyn hyn, mae’r bartneriaeth yn bwriadu comisiynu tystiolaeth bellach er mwyn cyd-ganfod y camau sydd eu hangen arnom i adeiladu gwytnwch ecolegol y dalgylch. Cefnogir y bartneriaeth yn y gwaith hwn gan grŵp cynghori technegol, a fforwm dalgylch ehangach sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau defnyddwyr a hamdden. Y nod yw cynhyrchu Cynllun Gweithredu a gaiff ei gyd-ddefnyddio gan holl aelodau’r bartneriaeth.