Meithrin Mynydd

Rhannu gwybodaeth er mwyn rheoli tir comin yn well yng ngorllewin y Parc Cenedlaethol

Judith Harvey – Swyddog Cydlynu

Mae Meithrin Mynydd yn bartneriaeth o gymdeithasau a chynrychiolwyr y porwyr, tirfeddianwyr a chyrff perthnasol y sector cyhoeddus sy’n cwmpasu’r Mynydd Du yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae ein partneriaeth yn rhannu gwybodaeth werthfawr ac yn hwyluso rheolaeth yr unedau tir comin. Ein nod yw cael y dull cydweithredol hwn o weithio ar draws y dirwedd gyfan, gan hyrwyddo’r dasg o reoli’r tir yn llwyddiannus ac yn effeithiol ar gyfer pobl, natur a harddwch naturiol.

Ein Rôl

Fel grŵp gwirfoddol, rydyn ni’n dod at ein gilydd i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin gyda’r nod o sicrhau deilliannau gwell i’r ucheldiroedd o dan ein rheolaeth.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n bwrw ymlaen ag ystod o feysydd gwaith, gan gynnwys

  • Mynd i’r afael â phwysau cynyddol o’r sector hamdden a cheisio atal yr effaith ar dda byw sy’n pori.
  • Mynd i’r afael â rheoli llwyth tân trwy bori ar yr ucheldiroedd yn effeithiol
  • Pori er lles cadwraeth ar safle Heneb Gofrestredig Garn Goch
  • Asesu cynefinoedd ein hucheldiroedd a’r modd y gall arferion amaethyddol gyfrannu at adfer byd natur

Mynd i’r afael â phrinder sgiliau gwledig a’r her economaidd-gymdeithasol sy’n deillio o hynny

Ein nod yw datblygu Cynllun Rheoli gefnogi cadwraeth gwelliant parhaus Mynydd Ddu trwy arferion rheoli tir traddodiadol. Ein nod yw sicrhau bod ffermio defaid traddodiadol yng Ngorllewin Parc yn parhau fod yn hyfyw yn economaidd ac yn galluogi natur ffynnu. Ein nod yw i’r Cynllun hwn fod yn sylfaen ystod ymyriadau gyda’r nod gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhanbarth.
Judith Harvey
Swyddog Cydlynu

Ein Gweledigaeth

Bydd y tiroedd comin yn parhau i gael eu pori, gan gynnal hyfywedd economaidd y ffermydd bychain. Mae’r ffermydd bychain hyn yn sylfaenol i gyfoethogi a gwarchod treftadaeth Gymreig y Parc. Maent yn rhan werthfawr iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol, a’n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Gyda’r cymorth hwn, byddwn yn gweld lefelau priodol o bori, sy’n hyrwyddo enillion o ran bioamrywiaeth ac yn lleihau’r risg o dân

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Ein nod yw datblygu Cynllun Rheoli i gefnogi cadwraeth a gwelliant parhaus Y Mynydd Ddu trwy arferion rheoli tir traddodiadol. Ein nod yw sicrhau bod ffermio defaid traddodiadol yng Ngorllewin y Parc yn parhau i fod yn hyfyw yn economaidd ac yn galluogi natur i ffynnu. Ein nod yw i’r Cynllun hwn fod yn sylfaen i ystod o ymyriadau gyda’r nod o gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth