Partneriaeth Natur Lleol

Ailgysylltu pobl â natur, gan sicrhau bod natur yn cael ei hamddiffyn a’i meithrin yn awr ac am genedlaethau i ddyfod

Maria Golightly – Swyddog Cydgysylltu

Mae ein partneriaeth natur leol mewn sefyllfa unigryw i gyflawni camau gweithredu effeithiol ar lefel leol, sy’n cyfrannu’n gyffredinol at yr agenda cenedlaethol ar gyfer adfer natur.

Mae partneriaethau natur lleol yn gweithredu ym mhob cwr o Gymru, ac mae eu cydlynwyr yn cael eu cynnal gan awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol. Mae’r cydlynwyr hyn yn datblygu ac yn cyflwyno gweithgareddau i gysylltu pobl â byd natur, ac yn ymgymryd â dyletswyddau monitro a chofnodi amrywiol.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur

Rydyn ni’n gweithio yn unol ag amcanion y Cynllun Gweithredu Adfer Natur – Dyfodol gyda Natur yn Ganolog Iddi. Mae hwn yn gynllun cydweithredol ac yn agored i bawb sydd am gyfrannu. Yr awydd a’r ymrwymiad i gyflawni’r cynllun yw’r unig ofyniad ar gyfer bod yn rhan ohono. Mae’r partneriaid presennol yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd i gyd â diddordeb cyffredin mewn amddiffyn a chryfhau ecosystemau’r Parc Cenedlaethol.

Nod y bartneriaeth yw helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth trwy ganolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn (mewn geiriau eraill “rhwydweithiau ar gyfer adfer natur”) fel eu bod yn fwy amrywiol, yn fwy o ran maint, mewn cyflwr ecolegol gwell ac yn fwy cydgysylltiedig.

Mae angen i ni helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â’r syniad o amgylchedd naturiol iachach a’r manteision niferus a ddaw yn ei sgil pan fydd mewn cyflwr da. Rhaid i ni ddathlu a rhannu ein gwybodaeth am asedau naturiol y Parc, egluro’r potensial ar gyfer adfer natur ac addasu ein neges i’r cynulleidfaoedd yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw, i ddangos perthnasedd natur i bawb
Maria Golightly
Swyddog Cydgysylltu

Y Prif Amcanion

Ein hamcanion allweddol yw:

  • Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro o wytnwch ecolegol yn y Parc Cenedlaethol.
  • Gweithio gyda phartneriaid ar bob lefel i uno camau gweithredu lleol er mwyn adfer byd natur a’u hintegreiddio â chynlluniau a strategaethau perthnasol ar gyfer adnoddau naturiol.
  • Gwarchod, adfer a chreu cynefinoedd.
  • Cynyddu gwytnwch ein hamgylchedd naturiol trwy ddiogelu’r cynefinoedd lled-naturiol presennol, adfer cynefinoedd diraddiedig a chreu cynefinoedd newydd. Gweithredu ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd ffocal.
  • Nodi a chyflawni camau gweithredu penodol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd allweddol fel rhan o raglen weithredu integredig ehangach ar gyfer adfer natur. Bydd hyn yn gynhwysol ac wedi’i gyfleu’n dda.
  • Ymgysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd ynghylch adfer natur gan ddefnyddio gwahanol iaith a thechnegau i amlygu perthnasedd byd natur i ni i gyd ac felly datblygu ymgysylltiad a gweithredu ar bob lefel

 

Y Bannau

Gyda’i ffocws ar adfer byd natur ar gyfer pobl a lleoedd, mae rhaglen Y Bannau yn ein helpu i ddod â’n neges i gynulleidfa ehangach. Mae’r Cynllun yn darparu sylfaen gref i ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur nesaf, a fydd, gobeithio, yn ceisio cryfhau’r gwaith o gyflawni’r genhadaeth