Dyfarnwyd y Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2012. Mae’r wobr ryngwladol hon yn ein gwneud yn un o’r ardaloedd prin hynny yn y byd sy’n cael eu cydnabod am ansawdd ein hawyr dywyll a’n hamgylchedd nos.
Mae ein Hawyr Dywyll yn gymharol unigryw mewn byd sy’n fwyfwy trefol a lle mae llygredd golau yn dominyddu. Mae’r statws IDSR yn ein galluogi ni i roi mesurau ar waith i atal llygredd golau rhag ymledu i’r Parc Cenedlaethol ac i ddiogelu a gwella ein nodweddion arbennig sef tywyllwch a llonyddwch. Rydym yn hyrwyddo’r rhain fel adnoddau gwerthfawr sy’n darparu cyfleoedd i fyfyrio’n dawel ac yn ddwfn, a chysylltu’r unigolyn â rhyfeddodau’r bydysawd. Trwy’r statws hynod ddylanwadol hwn, rydym yn gobeithio gwarchod ein hwybrennau tywyll hudolus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
At hynny, mae’r statws warchodfa o werth economaidd sylweddol i’r Parc Cenedlaethol gan greu mecanwaith hyrwyddol i ddenu ymwelwyr i aros yno trwy fynychu digwyddiadau syllu-ar-y-sêr. Rydym hefyd yn defnyddio’r statws i dynnu sylw at effeithiau gweithgareddau dynol ar ein hamgylchedd a’n hinsawdd, trwy fuddion a ddaw i fywyd gwyllt y nos yn sgil awyr dywyll a’r arbediad carbon a ddaw yn sgil diffodd goleuadau. Roedd De Cymru yn un o brif gynhyrchwyr haearn a glo y byd yn y 19eg ganrif. Mae’r holl elfennau angenrheidiol i’w gweld yno o hyd – pyllau glo, gweithfeydd mwyn haearn, chwareli creigiau silica, system reilffordd gyntefig, ffwrneisi, cartrefi gweithwyr a seilwaith cymdeithasol y cymunedau.