Partneriaeth Yr Amgylchedd Hanesyddol

Dathlu, cadw a gwella amgylchedd hanesyddol y parc cenedlaethol, trwy sefydlu rhwydwaith gwirfoddol o sefydliadau treftadaeth a grwpiau cymunedol sy’n rhannu’r nod hwn.

Alice Thorne
Swyddog Treftadaeth APCBB- Swyddog Cydgysylltu

Mae ein partneriaeth yn un o’r partneriaethau newydd a sefydlwyd i gyflawni rhaglen Y Bannau. Yn sgil hynny, rydyn ni wedi cyd-lunio Cynllun Gweithredu (HEAP) ar gyfer gwella’r modd y cyd-reolir y Parc o ran ei amgylchedd hanesyddol. 

Mae cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Stori Aberhonddu, Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a’r Clwb Archeolegwyr Ifanc, wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu, gydag ymgynghoriad a mewnbwn gan rwydwaith ehangach o unigolion, grwpiau ac asiantaethau sy’n gweithio yn y sector. Nid yw’r cynllun yn honni ei fod yn cwmpasu pob gweithgaredd – ond mae’n anelu at ddarparu sylfaen a fframwaith i nodi amcanion a rennir, gwella’r cydgysylltiad, a chanolbwyntio ar adnoddau. Bydd y Cynllun Gweithredu’n darparu mecanwaith ar gyfer blaenoriaethu, darparu a monitro’r gadwraeth ac yn dathlu ein treftadaeth. Bydd hon yn ddogfen waith, i’w diweddaru’n rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod.

Mae ein hasedau hanesyddol yn adnodd cyfyngedig. Unwaith cânt eu dinistrio, cânt eu colli am byth. Gall difrod, esgeulustod cholled, gan gynnwys colli mynediad, effeithio ar werth ac arwyddocâd safleoedd hanesyddol. Felly, mae ymrwymiad reoli newid yn ofalus yn hanfodol warchod ein hamgylchedd hanesyddol nodweddion arbennig Parc Cenedlaethol.
Alice Thorne
Swyddog Treftadaeth APCBB- Swyddog Cydgysylltu

Ein gweledigaeth

Fodd bynnag, bydd diffyg adnoddau a chapasiti presennol y sector yn cael eu dwysáu gan yr heriau a fydd yn ein hwynebu ni i gyd yn y blynyddoedd i ddod. Mae gweithio mewn partneriaeth, a rhannu cynlluniau gweithredu yn un ffordd y gallwn oresgyn rhai o’r heriau sy’n effeithio ar adnoddau heb lastwreiddio’r gallu i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol.

Trwy ein partneriaeth a’r cynllun gweithredu a luniwyd gennym ar y cyd, byddwn yn anelu at

  • ddiffinio cyfres o amcanion a rennir a sicrhau ymrwymiad i gyflawni
  • hyrwyddo rheolaeth o gadwraeth yr amgylchedd hanesyddol
  • ymgysylltu â chymunedau ac ymwelwyr i feithrin dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Parc
  • gwella cydweithrediad, adnoddau a chapasiti er mwyn cefnogi prosiectau i wella, rheoli, ymchwilio, monitro a dathlu harddwch ac amrywiaeth ein treftadaeth a’n hamgylchedd hanesyddol.

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Mae ein Cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth, i ddiogelu ein Hamgylchedd Hanesyddol a hyrwyddo cydlyniant a chydnawsedd y gwahanol grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio yn y Parc Cenedlaethol. Bydd yn cyd-fynd â chynlluniau partneriaeth eraill, megis y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) fel tystiolaeth gefndirol ar gyfer Y Bannau sef Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, a bydd yn helpu Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe’i paratowyd i’n helpu ni i ofalu am yr amgylchedd hanesyddol o’n cwmpas