Partneriaeth Yr Amgylchedd Hanesyddol

Dathlu, cadw a gwella amgylchedd hanesyddol y parc cenedlaethol, trwy sefydlu rhwydwaith gwirfoddol o sefydliadau treftadaeth a grwpiau cymunedol sy’n rhannu’r nod hwn.

Alice Thorne
Swyddog Treftadaeth APCBB- Swyddog Cydgysylltu

Mae ein partneriaeth yn un o’r partneriaethau newydd a sefydlwyd i gyflawni rhaglen Y Bannau. Yn sgil hynny, rydyn ni wedi cyd-lunio Cynllun Gweithredu (HEAP) ar gyfer gwella’r modd y cyd-reolir y Parc o ran ei amgylchedd hanesyddol. 

Mae cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Stori Aberhonddu, Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a’r Clwb Archeolegwyr Ifanc, wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu, gydag ymgynghoriad a mewnbwn gan rwydwaith ehangach o unigolion, grwpiau ac asiantaethau sy’n gweithio yn y sector. Nid yw’r cynllun yn honni ei fod yn cwmpasu pob gweithgaredd – ond mae’n anelu at ddarparu sylfaen a fframwaith i nodi amcanion a rennir, gwella’r cydgysylltiad, a chanolbwyntio ar adnoddau. Bydd y Cynllun Gweithredu’n darparu mecanwaith ar gyfer blaenoriaethu, darparu a monitro’r gadwraeth ac yn dathlu ein treftadaeth. Bydd hon yn ddogfen waith, i’w diweddaru’n rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod.

Mae ein hasedau hanesyddol yn adnodd cyfyngedig. Unwaith y cânt eu dinistrio, cânt eu colli am byth. Gall difrod, esgeulustod a cholled, gan gynnwys colli mynediad, effeithio ar werth ac arwyddocâd y safleoedd hanesyddol. Felly, mae ymrwymiad i reoli newid yn ofalus yn hanfodol i warchod ein hamgylchedd hanesyddol a nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol.
Alice Thorne
Swyddog Treftadaeth APCBB- Swyddog Cydgysylltu

Ein gweledigaeth

Fodd bynnag, bydd diffyg adnoddau a chapasiti presennol y sector yn cael eu dwysáu gan yr heriau a fydd yn ein hwynebu ni i gyd yn y blynyddoedd i ddod. Mae gweithio mewn partneriaeth, a rhannu cynlluniau gweithredu yn un ffordd y gallwn oresgyn rhai o’r heriau sy’n effeithio ar adnoddau heb lastwreiddio’r gallu i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol.

Trwy ein partneriaeth a’r cynllun gweithredu a luniwyd gennym ar y cyd, byddwn yn anelu at

  • ddiffinio cyfres o amcanion a rennir a sicrhau ymrwymiad i gyflawni
  • hyrwyddo rheolaeth o gadwraeth yr amgylchedd hanesyddol
  • ymgysylltu â chymunedau ac ymwelwyr i feithrin dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Parc
  • gwella cydweithrediad, adnoddau a chapasiti er mwyn cefnogi prosiectau i wella, rheoli, ymchwilio, monitro a dathlu harddwch ac amrywiaeth ein treftadaeth a’n hamgylchedd hanesyddol.

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Mae ein Cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth, i ddiogelu ein Hamgylchedd Hanesyddol a hyrwyddo cydlyniant a chydnawsedd y gwahanol grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio yn y Parc Cenedlaethol. Bydd yn cyd-fynd â chynlluniau partneriaeth eraill, megis y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) fel tystiolaeth gefndirol ar gyfer Y Bannau sef Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, a bydd yn helpu Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe’i paratowyd i’n helpu ni i ofalu am yr amgylchedd hanesyddol o’n cwmpas